Ynni Di-Garbon Rhyngwladol

Ynni Di-Garbon Rhyngwladol


Home » Ynni Di-Garbon Rhyngwladol

Ymunwch ag wythnos addysgu myfyrwyr CYDA i archwilio gofynion ynni ac allyriadau carbon gwahanol gyd-destunau rhyngwladol a’u potensial i fodloni eu hanghenion ynni mewn ffordd fwy gynaliadwy.

Trwy gyfrwng cyfres o ddarlithoedd, trafodaethau, a gweithgareddau ymarferol, byddwch yn dysgu gyda’n myfyrwyr ôl-raddedig ar ein cwrs MSc Cynaliadwyedd mewn Darpariaeth Ynni a Rheoli’r Galw.

Byddwch yn cael profiad o astudio ar un o’n cyrsiau ôl-raddedig yn CYDA ac yn cael gwybodaeth ac yn meithrin sgiliau gwerthfawr ynghylch allyriadau CO2 byd-eang presennol sy’n gysylltiedig â darparu ynni a’r galw am ynni.

Gwybodaeth allweddol

  • Hyd: pump diwrnod
  • Amser: dechrau am 9yb a gorffen am 3yp ar y diwrnod olaf
  • Cost: £700
  • Yn cynnwys: hyfforddiant, yr holl ddeunydd, llety a rennir gyda phob pryd bwyd (mae ystafelloedd sengl ar gael am dâl ychwanegol o £60 y pen)
  • Beth sydd ei angen arnoch: gan fod hwn yn gwrs ymarferol, bydd angen i chi ddod ag esgidiau diogelwch gyda chi.
  • Telerau ac Amodau:
    • Rhaid bod yn 18 oed neu’n hŷn i fynychu ein cyrsiau.
    • Am restr lawn o’r telerau ac amodau cliciwch yma

Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu:

Mae’r wythnos hon ar gyfer pobl sy’n dymuno cael blas ar astudio ar lefel ôl-raddedig yn CYDA ac sy’n dymuno meithrin gwybodaeth am ddarpariaeth trydan cynaliadwy.

Mae’r pynciau yn cynnwys:

Byddwch yn archwilio’r agweddau allweddol ar ddarpariaeth ynni byd-eang a’r galw am ynni yng nghyd-destun allyriadau CO2. Yn ogystal, byddwch yn meithrin dealltwriaeth o’r ddarpariaeth ynni byd-eang yn y dyfodol a sefyllfaoedd o ran y galw mewn cyd-destunau tymor byr, canolig a hir.

Byddwch yn archwilio’r rhyng-gysylltiadau rhwng y galw am ynni, y ddarpariaeth ac argaeledd adnoddau Byd y Lleiafrif a Byd y Mwyafrif.

Cyfarfod eich tiwtor:

Law yn llaw ag arweinydd y modiwl a staff arbenigol yr Ysgol Graddedigion, arweinir sesiynau addysgu gan amrediad o ddarlithwyr a siaradwyr gwadd sy’n gweithio yn y sector a’r byd academaidd ar hyn o bryd, sy’n ymuno â myfyrwyr ar y safle neu trwy gyfrwng ffrydiau byw.

Ychwanegu llety i’ch archeb

A hoffech chi aros yn CYDA dros gyfnod eich cwrs byr? Ychwanegwch y cwrs byr i’ch cart, yna dewiswch o blith y dewisiadau a nodir.

Mae’r dewisiadau llety yn cynnwys:

Llety a phob pryd bwyd dros gyfnod eich cwrs – £325 sengl

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at courses@cat.org.uk

Searching Availability...