Gwahoddiad i ddatgan diddordeb mewn dod yn Ymddiriedolwr Canolfan y Dechnoleg Amgen

Gwahoddiad i ddatgan diddordeb mewn dod yn Ymddiriedolwr Canolfan y Dechnoleg Amgen


Home » Gwahoddiad i ddatgan diddordeb mewn dod yn Ymddiriedolwr Canolfan y Dechnoleg Amgen

Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn ceisio datganiadau o ddiddordeb mewn dod yn ymddiriedolwr gan bobl â phrofiad o ddiogelu data/seiberddiogelwch a strategaeth ddigidol, addysg neu strategaeth addysg, neu godi arian.

Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn elusen amgylcheddol ag enw da’n rhyngwladol, yn ganolfan eco gyda’r gorau yn y byd, ac yn un o brif ddarparwyr addysg amgylcheddol ôl-radd yn y DU, wedi’i lleoli ger Machynlleth yng Nghanolbarth Cymru.

Mae ein Hymddiriedolwyr yn darparu goruchwyliaeth strategol dros ein gwaith, na fu erioed cyn bwysiced nag yn y dydd sydd ohoni pryd y mae angen brys i ddarparu atebion i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.

Mae’r Bwrdd yn ceisio datganiadau o ddiddordeb mewn dod yn Ymddiriedolwr CyDA gan bobl â phrofiad o ddiogelu data/seiberddiogelwch a strategaeth ddigidol, addysg neu strategaeth addysg, neu godi arian. Byddai profiad o ymgyrchoedd codi arian cyfalaf, codi arian gan brif noddwyr, cyllid statudol a chodi arian o ymddiriedolaethau a sefydliadau yn cael croeso arbennig.

Ochr yn ochr â’r sgiliau mwy arbenigol hyn, mae’r Bwrdd hefyd yn chwilio am amrediad eang o sgiliau ymddiriedolwyr cyffredinol, gan gynnwys ymrwymiad i weledigaeth a chenhadaeth y sefydliad.

Byddem yn croesawu’n arbennig ddatganiadau o ddiddordeb gan ymgeiswyr iau, siaradwyr Cymraeg, a phobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn datganiadau o ddiddordeb mewn dod yn ymddiriedolwr yw 10 Ebrill 2023.

I gael gwybod mwy am y rôl a sut i ymgeisio, llwythwch i lawr ein Gwybodaeth ar gyfer Darpar Ymddiriedolwyr.