Cyrsiau Llythrennedd Carbon Pwrpasol Am Ddim i Gymunedau a Sefydliadau ym Mhowys

Cyrsiau Llythrennedd Carbon Pwrpasol Am Ddim i Gymunedau a Sefydliadau ym Mhowys


Home » Hyfforddiant Llythrennedd Carbon Am Ddim ym Mhowys » Cyrsiau Llythrennedd Carbon Pwrpasol Am Ddim i Gymunedau a Sefydliadau ym Mhowys

Sut all unigolion, cymunedau, cynghorau tref a chymuned, sefydliadau a busnesau ym Mhowys gymryd y camau nesaf ar eu taith i bontio cyfiawn, gan ymgysylltu mewn ffordd effeithiol gyda gweithgarwch pontio ehangach, a gweithredu gwersi ein gwaith ymchwil Prydain Di-garbon yn lleol?

Wedi’i ariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, rydym yn cynnig Hyfforddiant Llythrennedd Carbon pwrpasol, wedi’i deilwra i anghenion eich sefydliad, yn rhad ac am ddim tan fis Rhagfyr 2024.  Cysylltwch i gael gwybod mwy ac i archebu dyddiad.

Mae CYDA yn ddarparwr blaenllaw hyfforddiant Llythrennedd Carbon, ac mae gennym amrywiaeth o gyrsiau unigryw wedi’u hachredu gan y Prosiect Llythrennedd Carbon.  Gall y rhaglenni hyfforddiant hyn fod yn rhan allweddol o godi ymwybyddiaeth yn eich cymuned neu’ch sefydliad, ac wrth greu diwylliant carbon isel sy’n ymgysylltu yn llawn ac sy’n gallu cymryd camau effeithiol.

I ddarganfod mwy, cysylltwch ag amanda.smith@cat.org.uk.

Ariannir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda.

 Powys Council Logo Growing Mid Wales