Adrian Watson
Pennaeth yr Ysgol
Fel pennaeth yr ysgol, mae Adrian yn treulio’r rhan fwyaf o’i amser yn sicrhau gweithrediad llyfn Ysgol y Graddedigion. Pan nad yw’n gwneud hynny, mae’n defnyddio’i gefndir mewn Cemeg i gefnogi gweithgareddau’n ymwneud â llygredd ar gyfer y cyrsiau meistri.
Cychwynnodd Adrian fel Pennaeth yr Ysgol yn CyDA ym mis Mai 2018. Cyn ymuno â CyDA, bu Adrian yn gweithio fel Pennaeth yr Adran Cemeg a Gwyddorau Amgylcheddol ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion ers 2010, a hynny’n dilyn cyfnodau yn darlithio mewn ystod o ddisgyblaethau, o Gemeg Dadansoddol i Iechyd yr Amgylchedd. Fel Pennaeth ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion, roedd yn gyfrifol am reoli tîm o academyddion ym maes cemeg a’r amgylchedd a llwyddiant agweddau sicrhau ansawdd y cyrsiau yno. Bu hefyd yn rheoli prosiectau i uwchraddio’n sylweddol seilwaith y labordai cemeg yn y brifysgol.
Enillodd ei brofiad ymchwil fel cemegydd amgylcheddol yn arbenigo mewn asesu ansawdd aer a’i effeithiau, megis ar iechyd, yn enwedig mewn sefyllfaoedd trefol a dan do. Mae’r gwaith hwn wedi cynnwys asesu lefelau mwg tybaco mewn amgylcheddau dan do cyn y gwaharddiad ysmygu, a datblygu dulliau ar gyfer amcangyfrif allyriadau gofodol Llygredd Aer yn y DU. Mae wedi cydweithio â chyfundrefnau a sefydliadau yn y DU a thramor gan gynnwys y GIG a Sefydliad Technoleg Bandung, Indonesia.
Cymwysterau
Cemegydd Siartredig, Cymrawd y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, (FRSC) 1993 Tystysgrif Addysg Ôl-raddedig, Rhagoriaeth, Prifysgol Metropolitan Manceinion.
1991 PhD, Offeryniaeth a Gwyddor Ddadansoddol, Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Manceinion (UMIST) bellach Prifysgol Manceinion.
1987 Tystysgrif Gwyddoniaeth Polymer, Rhagoriaeth, Prifysgol Brookes Rhydychen
1986 BSc (Anrh) Cemeg, Dosbarth 2.1 Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Manceinion (UMIST).
Gweithgareddau Dysgu
Rôl Adrian yn bennaf yw arweinyddiaeth Ysgol Raddedigion yr Amgylchedd, ond mae hefyd yn cyfrannu gweithgareddau ar lygredd i’r cyrsiau meistri a grwpiau sy’n ymweld â CyDA.
Cyhoeddiadau Dethol
Watson, A.F.R. (2013) Indoor Air Quality in Industrialised Nations in Encyclopaedia of Earth Systems and Environmental Science. Ed Elias, S.A. Elsevier / Academic Press, USA.
Gee I.L., Semple S., Watson A., and Crossfield, A. (2012) 85% of Tobacco Smoke is Invisible – a confirmation of previous claims, Tobacco Control 2012;-:1. doi:10.1136/tobaccocontrol-2012-050475
Driejana, Putri A.R. Watson A.F.R., (2009), Influence of Traffic-related Emissions on Indoor Air Quality in Residential Buildings Adjacent to Roads. 1st International Conference on Sustainable Infrastructure and Built Environment (SIBE), Indonesia December 2009.