Picture of Andrew Menzies

Andrew Menzies

Ymddiriedolwr

Peiriannydd yw Andrew sy’n ymddiddori mewn harneisio technoleg i oresgyn heriau amgylcheddol. Mynychodd un o gyrsiau technoleg solar CyDA am y tro cyntaf bron 20 mlynedd yn ôl ac ymunodd â bwrdd yr ymddiriedolwyr ar ddechrau 2018.

Mae Andrew yn Beiriannydd Sifil Siartredig ac yn Aelod o’r Sefydliad Siartredig Rheolaeth Dŵr a’r Amgylchedd . Graddiodd â gradd Meistr mewn Peirianneg Sifil o Brifysgol Leeds ym 1987 ac ar hyn o bryd mae’n gweithio fel Cyfarwyddwr 350 Energy Ltd, sef cwmni bach a leolir yn y DU sy’n cynnig cyngor ar ynni adnewyddadwy a’r amgylchedd. Mae gyrfa 30 mlynedd Andrew wedi cwmpasu diwydiant, llywodraeth ac ymgynghori lle mae wedi gweithio ar y ffin bigog rhwng diwydiant a Datblygu Cynaliadwy. Dysgodd Andrew am systemau ynni solar a dŵr drwy fynychu cyrsiau byr CyDA dros yr 20 mlynedd diwethaf ac mae wedi mwynhau defnyddio’r sgiliau a enillodd mewn prosiectau byd go iawn.

Mae Andrew yn briod gyda thri o blant ac mae’n byw yn Swydd Efrog.   Y tu allan i’r gwaith, mae Andrew yn seiclwr a chaiacwr brwd, ac ar hyn bryd mae’n adeiladu tŷ ffrâm pren sy’n cynnwys amryw o dechnolegau amgen.