Picture of Andrew Pearman

Andrew Pearman

Ymddiriedolwr

Mae Andrew’n teimlo’n angerddol dros gefn gwlad, mae am wneud gwahaniaeth cadarnhaol o ran diogelu ein hamgylchedd ar gyfer y dyfodol ac mae ganddo gefndir eang yn y sectorau TG a Chyfleustodau.

Ers graddio mewn Ffiseg gydag Astroffiseg o Brifysgol Leeds yng Nghanol yr 80au, treuliodd Andrew ei yrfa yn y Sector Ynni a Chyfleustodau yn y Du a thramor.

Am lawer o’r amser hynny bu’n gweithio i’r Grid Cenedlaethol gan gynnwys nifer o flynyddoedd ar Bwyllgorau Gweithredol, lle bu’n gyfrifol am reoli risg, cyllid ac iechyd a diogelwch. Mae gan Andrew brofiad arbennig mewn TG a bu’n Brif Swyddog Gwybodaeth am nifer o flynyddoedd gyda chyfrifoldeb rhyngwladol am raglenni megis grid SMART, ystafelloedd rheoli, y we, systemau cwsmeriaid, ac ati. Bu ganddo hefyd rolau busnes gan gynnwys creu a rheoli Canolfan Reoli Rhwydwaith Trawsyrru’r Grid Cenedlaethol.

Ers gadael y Grid Cenedlaethol, mae Andrew wedi gweithio’n bennaf yn y Dwyrain Canol fel ymgynghorydd rheoli yn y sectorau TG a Chyfleustodau. Roedd hyn yn cynnwys rolau yn yr Emiradau Arabaidd Unedig yn cynghori’r Llywodraeth ar drawsnewid ei gweithfeydd cynhyrchu trydan a dŵr o danwydd ffosil i Ynni Adnewyddadwy, ac optimeiddio’i swyddogaethau Dosbarthu, Trawsyrru a Gweithredu Systemau.

Mae Andrew yn caru cefn gwlad, yn gerddwr brwd ac yn dymuno gwneud gwahaniaeth cadarnhaol o ran diogelu ein hamgylchedd ar gyfer y dyfodol. Mae’n briod â Deborah ac mae ganddo ddau fab sydd ill dau yn y brifysgol ar hyn o bryd. Mae’n byw yng Nghorris ac mae bellach yn gweithio rhan amser, felly mae’n mwynhau mwy o amser fyth yng nghefn gwlad canolbarth Cymru gyda’i wraig a’u dau bwdl.