Picture of Ben Summers

Ben Summers

Cadeirydd

Mae Ben yn cyfuno cefndir ym maes technoleg ac arloesi gyda diddordeb brwd mewn cynaliadwyedd amgylcheddol.

Fel datblygwr meddalwedd ac entrepreneur, sefydlodd Ben gwmni i greu meddalwedd gweinyddu ymchwil prifysgol i academyddion ac ysgolion graddedig.

Ers y cam o gaffael y cwmni, mae bellach yn gweithio gyda sefydliadau sydd â diben amgylcheddol a chymdeithasol.  Mae’n aelod o fwrdd Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Llywodraeth Cymru.

Ymwelodd â CYDA am y tro cyntaf i fynychu cwrs byr wrth iddo gyflawni prosiect eco-adnewyddu, ac roedd y datrysiadau ymarferol a gynigir gan CYDA er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd wedi gwneud cryn argraff arno.

Mae Ben yn byw yng Nghymru gyda’i wraig a’i ferch, ger arfordir Sir Benfro.