Picture of Dr Anna Bullen

Dr Anna Bullen

Rheolwr Labordy Arloesi

Mae gan Anna gefndir academaidd, gyda gradd mewn Rheolaeth Amgylcheddol a Datblygu Adnoddau, MA mewn Gofod, Lle a Gwleidyddiaeth a PhD mewn Dinasyddiaeth Gynaliadwy. Mae’n hynod brofiadol yn hwyluso prosesau sy’n dwyn ystod eang o randdeiliaid a chanddynt safbwyntiau amrywiol at ei gilydd, a’u cefnogi i gydweithio er mwyn datblygu atebion.

Mae Anna’n hwylusydd a rheolwr prosiect profiadol a chymwysedig gydag 20 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes cynaliadwyedd. Mae hi’n frwd dros ddwyn rhanddeiliaid allweddol at ei gilydd i ddarparu atebion cynaliadwy sy’n mynd i’r afael â newid hinsawdd. Mae hi wedi hwyluso nifer o brosesau cydweithredol trwy gydol ei gyrfa, a hynny mewn ystod eang o sefyllfaoedd, gan iddi weithio yn y sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector preifat.

Mae Anna’n credu’n gryf mewn defnyddio dulliau cyd-greu i ddylunio atebion effeithiol ac ystyrlon i broblemau. Mae ganddi brofiad arbennig mewn hwyluso prosesau dadleuol neu sensitif eu natur, gan dod ag ystod eang o randdeiliaid a chanddynt safbwyntiau amrywiol at ei gilydd a’u cefnogi i gydweithio er mwyn datblygu atebion.

Cyn ymuno â ChyDA roedd Anna yn bartner yn CAG Consultants, lle’r arweiniodd nifer o brosiectau ar gyfer amryw gleientiaid gan gynnwys WWF, JYNC, y GLA, Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Power to Change a Chynghorau niferus ledled y DU.

Mae gan Anna gefndir academaidd, gyda gradd mewn Rheolaeth Amgylcheddol a Datblygu Adnoddau, MA mewn Gofod, Lle a Gwleidyddiaeth a PhD mewn Dinasyddiaeth Gynaliadwy.

Pan nad yw’n gweithio, mae Anna wrth ei bodd yn treulio amser yn ei rhandir, cerdded ym mynyddoedd Cymru (gyda’i chi Bella) a mwynhau ar y traeth gyda ffrindiau a theulu.