Picture of Eve Jardine-Young

Eve Jardine-Young

Ymddiriedolwr

Mae Eve wedi gweithio yn y sector addysg ers dros 30 mlynedd, gan gyflawni rolau academaidd, bugeiliol a llywodraethu, ac mae wedi gwneud ymrwymiad personol dwfn i addysg amgylcheddol.

Ar ôl cael ei magu ym Malawi, mae gan Eve olygwedd ryngwladol ac ymrwymiad dwfn i economeg adfywiol, cadwraeth, mentrau ac addysg amgylcheddol, menter cymdeithasol, micro-gyllid, a datblygu cynaliadwy.

Ar ôl sicrhau nawdd prifysgol gan Arup ar gyfer ei gradd mewn Gwyddor Peirianyddol yng Nghaergrawnt, rhoddodd ei thraethawd estynedig y cyfle iddi gydweithio gyda Sefydliad Pegynol Scott ar ymchwyddo rhewlifol, prosiect a oedd wedi dwyn cryn sylw i gynhesu byd-eang a newid hinsawdd – ac mae’r sylw hwn wedi parhau.

Ar draws ei gyrfa dros ddeng mlynedd ar hugain ym myd addysg, mae hi wedi cyflawni rolau academaidd, bugeiliol a llywodraethu mewn ysgolion cyd-addysgol ac un rhyw.  Ar hyn o bryd, mae’n Bennaeth Coleg Merched Cheltenham, mae hi wedi gweithio yn sector ysgolion uwchradd y DU am bron i 30 mlynedd, gan gynnwys annerch cynulleidfaoedd yn Washington, Llundain, Caeredin, Manceinion, Prague, Singapore, Guernsey, Gwlad Thai, Hong Kong, a TEDx Cheltenham.

Fe’i gwnaethpwyd yn Gymrawd Anrhydeddus Prifysgol Swydd Gaerloyw am wasanaethau i fyd addysg yn y sir, ac mae’n aelod o Bartneriaeth Addysg

Cheltenham gydag 11 ysgol, Gwyliau Cheltenham, GCHQ a Chyngor Bwrdeistref Cheltenham.

Bu Eve yn Gadeirydd World Leading Schools Association (WLSA) am bum mlynedd, ac ar hyn o bryd, mae’n llywodraethwr ysgol.  Mae hi’n cefnogi ac yn mentora arweinwyr addysgol, ac mae’n hyrwyddwr dysgu gydol oes.