John Anderson
Hyfforddwr/Hwylusydd Prydain Di-garbon
Mae gan John gefndir mewn ymgynghoriaeth cefnogi penderfyniadau, hyfforddiant, ymchwil a hwyluso a rheoli prosiectau yn y sector preifat. Mae ganddo raddau mewn cysylltiadau rhyngwladol, y gyfraith a diogelwch rhyngwladol. Mae wedi treulio nifer o flynyddoedd yn datblygu a hyfforddi timau ymchwil sy’n cefnogi datrys problemau lefel uchel mewn sefyllfaoedd o argyfwng.
Mae gan John gefndir mewn ymgynghoriaeth cefnogi penderfyniadau, hyfforddiant, ymchwil, hwyluso a rheoli prosiectau yn y sector preifat ac mae ganddo raddau mewn cysylltiadau rhyngwladol, y gyfraith a diogelwch rhyngwladol. Mae wedi treulio nifer o flynyddoedd yn datblygu a hyfforddi timau ymchwil sy’n cefnogi datrys problemau lefel uchel mewn sefyllfaoedd o argyfwng.
Ar hyn o bryd mae’n fyfyriwr graddedig yn CyDA ac yn ymchwilio i addasu i’r newid hinsawdd, gan ganolbwyntio ar rôl ddeuol cynulliadau dinasyddion ac atebion bio-ranbarthol fel elfennau hanfodol o’r atebion lleol i’r problemau ‘drwg’ niferus a wynebwn. Mae’n credu y bydd cymunedau a chymdeithas sifil yn chwarae rhan ganolog wrth adeiladu sefydliadau all ymateb i’r her ac sy’n deilwng ohonom.
Bydd hyn yn gofyn am sgiliau newydd, craffter, cysylltiadau a hyder – mae hyfforddiant felly yn rhan bwysig o ddatrys problemau newid hinsawdd.
Mae John hefyd wedi treulio llawer o amser yn archwilio atebion lleol ymarferol i newid hinsawdd gan gynnwys adeiladu carbon-isel, rheolaeth tir cydweithredol a pharamaethu. Mae’n weithiwr gofal diwedd oes profiadol, a threuliodd bedair blynedd gyda’r fyddin diriogaethol.
Yn ei amser sbâr, gellir dod o hyd i John allan yn gwerthfawrogi’r bryniau, y coetiroedd a’r dyfroedd ledled yr Alban, neu’n chwarae cerddoriaeth gyda’i ffrindiau.