John Challen
Pennaeth y Ganolfan Eco
Mae gan John gariad mawr tuag at yr awyr agored a’r defnydd o dechnoleg i alluogi byw’n gynaliadwy. Cyn dod i CyDA, treuliodd John 27 mlynedd yn gweithio ym myd amgueddfeydd, lle treuliodd llawer o’i amser yn dod â safleoedd hanesyddol a thechnolegau’n fyw ar gyfer ymwelwyr.
Graddiodd John o Brifysgol Salford ym 1985 gyda BSc 2.1 mewn daearyddiaeth. Y flwyddyn ganlynol dechreuodd weithio ym myd amgueddfeydd yn Amgueddfa Bass yn Burton on Trent, gan ddod yn guradur cynorthwyol cyn symud ymlaen i yrfa 25 mlynedd gydag Ymddiriedolaeth Amgueddfa Ceunant Ironbridge yn Swydd Amwythig. Yno, bu John yn ymwneud yn helaeth â datblygu tri safle allweddol gan gynnwys creu canolfan ddylunio a thechnoleg ymarferol yn ei rôl fel Curadur Technoleg. Yn ddiweddarach, cymerodd rôl rheolwr safle Tref Fictoraidd Blists Hill cyn gadael i ymuno â CyDA yn 2015 fel Pennaeth y Ganolfan Eco, gan arwain y timau Ystâd ac Ymgysylltu a helpu i arwain y gwaith o ailddatblygu’r safle.
Bu gan John wastad ddiddordeb ymarferol ym mhopeth mecanyddol ac adeiladu. Mae’n byw ger Llanfair Caereinion, lle mae’n gweithio ar adfer bwthyn a thyddyn.