Picture of Kalyani Gandhi-Rhodes

Kalyani Gandhi-Rhodes

Ymddiriedolwr

Mae gan Kalyani ddiddordeb mawr mewn byw yn gynaliadwy ac ecoleg barchus, ac mae’n gerddwr bryniau brwdfrydig. Mae’n byw yng Ngogledd Cymru gyda’i gŵr a’u mab ifanc.

Magwyd Kalyani yn India ac enillodd  BA (Anrh) mewn Hanes a Gwyddor Wleidyddol o Brifysgol Durham ac MSc mewn Polisi Cymdeithasol o Ysgol Economeg a Gwyddor Wleidyddol Llundain.

Parhaodd i fyw a gweithio yn y DU ac mae’n weithiwr proffesiynol profiadol ym maes tai cymdeithasol ac elusen. Mae ganddi dros 28 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn rolau uwch reolwr gweithredol strategol, llywodraethu a datblygu busnes yn y sectorau hyn.  Mae ganddi ymroddiad dwfn i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant, ac mae wedi gweithio ar draws y sectorau iechyd, tai a datblygu rhyngwladol i fynd i’r afael â phethau sy’n herio’r uchod.

Ar hyn o bryd, mae’n rheoli Rhaglen Gwirfoddoli Gorfforaethol Oxfam a chwaraeodd rhan bwysig yn datblygu rhaglen amrywiaeth ac ymgysylltu ehangach Oxfam.  Mae gan Kalyani brofiad helaeth  o fod yn Gyfarwyddwr anweithredol ar Fyrddau Tai Cymdeithasol ac Elusen ac ar hyn o bryd mae’n Gyfarwyddwr Anweithredol gyda Chymdeithas Tai Grŵp Muir, a leolir yng Nghaer.

Mae gan Kalyani ddiddordeb mawr mewn byw yn gynaliadwy ac ecoleg barchus, ac mae’n gerddwr bryniau brwd. Mae’n byw yng Ngogledd Cymru gyda’i gŵr a’u mab ifanc.