Picture of Kevin Gould

Kevin Gould

Ymddiriedolwr

Mae Kevin yn Gyfrifydd Siartredig sydd wedi ymddiddori ers amser maith mewn cynaliadwyedd ac mae ganddo Radd Meistr mewn Cynaliadwyedd a Rheoli’r Amgylchedd.

Mae Kevin yn Gyfrifydd Siartredig sydd wedi treulio 25 mlynedd fel ymgynghorydd, cynghorydd ac archwilydd, gan weithio i fanciau a chwmnïau ymgynghori o bob maint. Mae ganddo brofiad helaeth o weithio’n rhyngwladol, a bu’n byw am nifer o flynyddoedd yn Hong Kong a’r Dwyrain Canol. Mae bellach yn ymgynghorydd annibynnol yn ogystal â bod ar fyrddau ymddiriedolaeth GIG, prifysgol, busnes gofal cymdeithasol a chymdeithas dai. Tan yn ddiweddar, roedd hefyd yn Ddirprwy Gadeirydd Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd.

Mae gan Kevin ddiddordeb ers hir amser mewn cynaliadwyedd, a’i arweiniodd i gymryd Gradd Meistr mewn Cynaliadwyedd a Rheoli’r Amgylchedd yn 2009.  Ei ddiddordebau penodol oedd (ac maent yn dal i fod) defnyddio cynaliadwy a chadwyni cyflenwi, a rôl bancio mewn datblygu cynaliadwy. Mae ei waith diweddar yn cynnwys ysgrifennu canllawiau i archwilwyr mewnol ar gyfer mynd i’r afael â’r risgiau sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd yn eu sefydliadau.

Ymwelodd Kevin â CyDA am y tro cyntaf pan oedd yn blentyn.