Picture of Megan McGrattan

Megan McGrattan

Ymddiriedolwr

Mae Megan yn cyfuno cefndir mewn systemau a gwaith strategaeth gyda gradd Meistr mewn Adeiladu Gwyrdd, hyfforddiant paramaethu ac ymrwymiad personol dwfn i gynaliadwyedd holistig.

Gyda gradd Meistr mewn Adeiladu Gwyrdd yn CyDA, ac amrywiaeth o brofiad gyda busnesau o gwmpas y byd, mae Megan wedi treulio dros ddegawd yn darparu strategaeth ystyriol ac ar lefel uchel gyda’r gweithrediad a’r rhagoriaeth weithredol sy’n angenrheidiol er mwyn symud busnes yn ei flaen.  Mae hi’n gyffredinolwr medrus, ac yn credu’n gryf ym mhwysigrwydd ein cysylltiad gyda’r tir a gyda lle, sy’n deillio o brofiad yn datblygu timau amrywiol ar draws ac o fewn gwahanol ddiwylliannau, a’i nod yw cyflawni gwaith sy’n cydnabod, sy’n cefnogi ac sy’n dyfnhau ein dynoliaeth ar y cyd.

Mae Megan yn feddyliwr systemau ystyriol a chwilfrydig, ac mae’n gweithio i sicrhau dyfodol sy’n ail-ddychmygu pobl fel rhan o’u cymuned a’u hecosystem, gan ddefnyddio dulliau gweithredu cydweithredol radical i ddarparu gweithgarwch arloesol sy’n canolbwyntio ar yr hinsawdd.  Mae hi wrth ei bodd o gael y cyfle i gynorthwyo CyDA trwy gyfrwng ei gwaith fel Ymddiriedolwr.