Picture of Paul Allen

Paul Allen

Cydlynydd Gwybodaeth ac Estyn Allan

Mae Paul wedi arwain yr ymchwil Prydain Di-garbon arloesol ers dros 12 mlynedd, a bu’n flaenllaw yn datblygu chwe adroddiad a chysylltu’n uniongyrchol â’r llywodraeth, busnesau, y sector cyhoeddus a’r celfyddydau i rannu eu canfyddiadau.

Gyda 30 mlynedd o brofiad yn cychwyn prosiectau ymchwilio blaengar, a ategir gan brofiad technegol ac ymarferol cadarn, mae Paul wedi arwain yr ymchwil Prydain Di-garbon arloesol ers dros 12 mlynedd. Arweiniodd hefyd ar ddatblygu chwe adroddiad a chysylltu’n uniongyrchol â’r llywodraeth, busnesau, y sector cyhoeddus a’r celfyddydau i rannu eu canfyddiadau. Mae ganddo brofiad eang ac amrywiol o siarad yn gyhoeddus o gynadleddau COP Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd i hyfforddiant cynghorau lleol.

Yn 2013 dyfarnwyd grant Cymrodoriaeth Ymddiriedolaeth Goffa Winston Churchill i Paul ar gyfer archwilio ymchwil datgarboneiddio cyflym ar draws UDA. Bu’n aelod o Gyngor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymru (2010-14) a Chomisiwn Newid Hinsawdd Cymru (2007-2015), ac yn aelod o fwrdd Fforwm Rhyngwladol Ynni Cynaliadwy (2008-2013). Roedd yn gydawdur yr adroddiad ‘Newid Diwylliant’ ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru ac mae’n hyfforddwr ‘Llythrennedd Carbon’ cymwysedig (2018).