Paul Booth
Cyd Brif Swyddog Gweithredol
Cyn ymuno â CYDA yn 2018, treuliodd Paul 30 mlynedd yn gwneud gwaith helaeth gyda’r sector elusennau fel Cyfrifydd Siartredig. Gweithiodd Paul gyda channoedd o elusennau, gan gynnig cymorth a gwaith cynllunio strategol yn gyson. Roedd ei gleientiaid yn gweithredu mewn sawl maes gan gynnwys yr amgylchedd, addysg, y maes cymdeithasol, y celfyddydau, iechyd a’r sector crefyddol.
Mae Paul wedi bod yn ymroddedig i’r sector elusennau ac i’r amgylchedd trwy gydol ei oes. Mae Paul wedi gwirfoddoli am dros 25 mlynedd, gan gynorthwyo pobl ifanc ar gyfer Ymddiriedolaeth y Tywysog a bu’n un o ymddiriedolwyr
Groundwork MSSTT (“Groundwork Manchester” bellach) am chwe blynedd. Mae wedi cynnig cymorth pro bono i nifer o elusennau llai o faint, a dyfarnwyd gwobr CSR iddo am ei waith gyda rhwydwaith ar gyfer artistiaid du. Mae Paul wedi bod yn siaradwr gwadd mewn digwyddiadau elusennol hefyd, ac mae wedi rhoi hyfforddiant i nifer o grwpiau ac ymddiriedolwyr elusennau.
Mae cysylltiad Paul gyda Chanolbarth Cymru yn mynd yn ôl dros ddeugain mlynedd i’w gyfnod fel myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan ddychwelyd yn aml cyn i’r cyfle godi iddo weithio yn CYDA a symud yma yn barhaol gyda’i deulu. Mae gwraig Paul yn gweithio i elusen Gymreig yn eu swyddfa yn Aberystwyth ac mae’n gwirfoddoli cryn dipyn gyda mudiad ieuenctid yng Ngheredigion.
Mae diddordebau eraill Paul yn cynnwys cerddoriaeth fyw, theatr a chwaraeon, gan gynnwys bod yn ddeiliad tocyn tymor Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth.