Picture of Sarah Briggs

Sarah Briggs

Cynorthwyydd Ymchwil Labordy Arloesi Prydain Di-garbon

Graddiodd Sarah o Brifysgol Keele gyda BSc mewn Amgylchedd a Chynaliadwyedd. Mae’n gwneud Gradd Meistr mewn Ymarfer Addysg Uwch ac mae’n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch. Arferai Sarah weithio ym Mhrifysgol Keele fel Swyddog Prosiect Cynaliadwyedd gan arbenigo mewn Addysg ar gyfer Cynaliadwyedd, ymgysylltu â myfyrwyr a staff, a gweithio gyda rhanddeiliaid ar draws y brifysgol.

Mae Sarah yn credu’n gryf mewn cydweithredu, hyrwyddo llais pob aelod o gymuned a grymuso pobl i fod yn asiantau dros newid. Roedd rôl flaenorol Sarah fel Swyddog Prosiect Cynaliadwedd yn cynnwys cydweithredu a rhwydweithio gyda gwahanol rhanddeiliaid mewnol er mwyn adeiladu rhwydweithiau staff a myfyrwyr er mwyn gwella cyfathrebu a hwyluso camau gweithredu. Mae Sarah yn gwerthfawrogi grym cyd-greu wrth ysgogi newid ac ymgysylltu â rhanddeiliaid ac arweiniodd Brosiect Arloesedd Dysgu gan weithio gyda myfyrwyr, staff a phartner rhyngwladol i archwilio gemeiddio fel mecanwaith i ddatblygu llythrennedd a galluoedd cynaliadwyedd.

Mae Sarah yn cefnogi dyluniad a datblygiad y cwricwlwm i ddarparu addysg cynaliadwyedd ar draws ystod eang o bynciau. Chwaraeodd Sarah rôl yn arwain a chyfrannu at brosiectau amrywiol, o arlwyo i fioamrywiaeth a thir, ysbrydoli a grymuso myfyrwyr a staff i ddatblygu dysgu anffurfiol ac arbrofol ar gyfer cynaliadwyedd, gan gynnwys lansio Siop Ddiwastraff, cynlluniau cwpanau coffi a blychau y gellir eu hailddefnyddio, cynlluniau plannu coed ac arwain digwyddiadau ar gynaliadwyedd.

Arweiniodd Sarah y gwaith o gyflwyno a darparu Hyfforddiant Llythrennedd Carbon ac mae ganddi dystysgrif Llythrennedd Carbon. Mae hefyd wedi cwblhau rhaglen Hwyluso Cynaliadwyedd i Wneuthurwyr Newid, ac yn 2020, roedd yn rhan o’r tîm a enillodd y Wobr Gydweithredol am Ragoriaeth Addysgu gan AdvanceHE mewn cydnabyddiaeth am ymgorffori addysg cynaliadwyedd ar draws cyfleoedd dysgu ffurfiol ac anffurfiol.

Mae Sarah yn mwynhau treulio’i hamser sbâr ar weithgareddau antur. Bu’n dysgu dringo ac mae wedi dechrau rhedeg llwybrau yn ystod y 18 mis diwethaf. Mae hefyd yn mwynhau archwilio mynyddoedd a choetiroedd gyda’i gŵr yn eu cerbyd gwersylla. Ar ôl cwblhau ei ras pellter marathon eithafol cyntaf yn 2021, mae Sarah yn gobeithio rhedeg y Llwybr Appalachian un diwrnod!