Picture of Sian Thomas

Sian Thomas

Ymddiriedolwr

Mae Sian yn arbenigo mewn addysg trawswladol, ac mewn prosiectau a phartneriaethau addysg uwch a galwedigaethol. Mae ganddi brofiad helaeth o gyflawni rolau arwain ar lefel uwch mewn llwybrau addysg uwch a galwedigaethol rhyngwladol, cyrff dyfarnu cymwysterau a mudiadau elusennol.

Mae Sian yn cynghori rhanddeiliaid o’r sector preifat a’r sector cyhoeddus am ddatrysiadau addysg arloesol, datblygiad polisi, partneriaethau a chreu rhaglenni er mwyn bodloni’r galw am sgiliau sy’n newid yn gyflym, gan ganolbwyntio ar ‘sgiliau’r dyfodol’ trawsnewidiol yn y sectorau gwyrdd a digidol.

Mae gan Sian radd MA mewn Addysg Datblygu gan UCL ac mae ganddi gefndir ym maes addysgu, cadw golwg ar ansawdd ac arweinyddiaeth.  Mae ei sgiliau pennaf yn cynnwys datblygu rhaglenni, gwella ansawdd, creu capasiti, cynhyrchu refeniw, a llywodraethu, gyda phwyslais arbennig ar integreiddio cynaliadwyedd a sgiliau entrepreneuriaeth ym myd addysg.