Picture of Sonia Nabila Klein

Sonia Nabila Klein

Ymddiriedolwr

Mae Sonia Nabila Klein yn arbenigwr ym maes cynaliadwyedd ac mae ganddi brofiad rhyngwladol helaeth, gan arbenigo mewn datrysiadau adeiladu carbon isel ac arloesi amgylcheddol.

Ar hyn o bryd, mae Sonia yn arwain yr Hwb Arloesi Cywarch Diwydiannol yn AberInnovations ac mae’n cynorthwyo datblygiad polisi trwy gyfrwng ei rôl gydag APPG ynghylch Cywarch Diwydiannol.  Gan ddwyn ysbrydoliaeth o’i hastudiaethau ynghylch Adeiladu Gwyrdd yn CyDA, mae Sonia wedi ymrwymo i arloesi gyda deunyddiau carbon isel a gaiff eu sicrhau yn lleol yn y diwydiant adeiladu byd-eang.  Mae ei gwaith ymchwil doethurol yn archwilio potensial ‘hempcrete’ yn benodol i ysgogi economïau cylchol cynaliadwy a meithrin twf diwydiannol arloesol.

Gan gyfuno ei chefndir ym maes ymgyrchu, ei harbenigedd academaidd a’i perthnasoedd masnachol, mae Sonia wedi ymrwymo i ddatblygu datrysiadau ymarferol ac sy’n economaidd hyfyw ar gyfer stiwardiaeth amgylcheddol a datblygu cynaliadwy.