
Steve Buckley
Ymddiriedolwr
Mae Steve yn arweinydd ym maes menter gymdeithasol ac yn arbenigwr ym maes datblygu’r cyfryngau ac mae wedi ymddiddori mewn ecoleg, hanes naturiol a’r amgylchedd trwy gydol ei oes. Ef yw cyfarwyddwr rheoli asiantaeth ddatblygu Community Made Solutions, lle y mae wedi arwain rhaglen gymorth ar gyfer mentrau cymdeithasol ac economaidd.
Mae Steve yn gyn brif weithredwr Cymdeithas Cyfryngau Cymunedol y DU ac mae wedi gwasanaethu ar fyrddau rhwydweithiau byd-eang gan gynnwys Cymdeithas Darlledwyr Cymunedol y Byd a’r Gyfnewidfa Rhyddid Mynegiant Ryngwladol. Mae wedi bod yn ymgynghorydd arbenigol ym maes datblygu’r cyfryngau i sefydliadau rhyngwladol amrywiol, llywodraethau a chyrff anllywodraethol, ac mae wedi gweithio mewn dros 60 o wledydd yn cynorthwyo’r cyfryngau ar lawr gwlad, y mae nifer ohonynt wedi bod ar y rheng flaen mewn argyfyngau cymdeithasol ac amgylcheddol.
Astudiodd Steve y Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Caergrawnt a Chymdeithaseg ym Mhrifysgol Essex. Fe’i magwyd yn Aberystwyth ac mae bellach yn byw yn Nghwm Dyfi.