Theresa Löber
Ymddiriedolwr
Gyda chefndir mewn macro-economeg, mae Theresa ar hyn o bryd yn arwain Hwb Hinsawdd Banc Lloegr.
Theresa yw pennaeth Hwb Hinsawdd Banc Lloegr, sy’n arwain gwaith polisi’r Banc i adeiladu system ariannol i’r DU sy’n gallu gwrthsefyll peryglon newid hinsawdd ac sy’n cefnogi’r newid i economi sero-net.
Mae ganddi gefndir fel macro-economegydd ac mae wedi gweithio yn y gorffennol ar economeg ryngwladol, gan gynnwys yn Llysgenhadaeth Prydain yn Washington DC.
Mae’n hanu o’r Alpau’n wreiddiol ac mae wedi treulio llawer o’r ddau ddegawd diwethaf yn y DU, yn Llundain yn bennaf. Mae’n llawn cyffro o gael rheswm i deithio’n rheolaidd i Gymru.
Mae’n caru’r awyr agored, ac ar y penwythnosau gellir ei gweld gan amlaf yn caiacio, dringo, cerdded neu wersylla.
Dechreuodd ymddiddori yng ngwaith CyDA pan ymwelodd â’r lle y tro cyntaf yn 2018 wrth gerdded Llwybr Glyndŵr.