STRATEGAETH A RHEOLAETH
Arloesi amgylcheddol ac addysg ar gyfer byd mwy diogel, iachach a thecach.
Related Questions
Sut rydych chi’n dewis eich ymddiriedolwyr?Penodir ymddiriedolwyr gan y Bwrdd drwy broses recriwtio agored.
Pan fydd swydd wag yn codi fe’i hysbysebir ar wefan CyDA.
Nod y Bwrdd yw cael ystod gref o sgiliau a gwybodaeth i gefnogi gwaith CyDA, felly’r nod wrth recriwtio yw sicrhau arbenigedd ychwanegol mewn meysydd allweddol.
Mae Bwrdd CyDA yn ceisio sicrhau bod yr elusen yn dilyn egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth ac yn annog cyfranogi hygyrch a chynhwysol.
Mae CyDA yn rhoi gwerth ar amrywiaeth, yn yr ystyr ehangaf, gan ei ystyried yn hanfodol er mwyn sicrhau Bwrdd gwybodus ac ymatebol, sy’n gallu ymdrin â’r newidiadau cyflym a chymhleth sy’n wynebu’r sector gwirfoddol.
Mae CyDA’n cydnabod bod ymddiriedolwyr o wahanol gefndiroedd, gyda phrofiad a safbwyntiau amrywiol, yn fwy tebygol o annog trafodaeth a gwneud gwell penderfyniadau.
Wrth ymuno â CyDA fel aelod, byddwch yn gwneud hynny fel aelod cefnogol. Mae hyn yn wahanol i fod yn aelod o’r Elusen fel y nodir yn y Memorandwm ac Erthyglau Sefydlu.
Nid oes gan aelodau cefnogol unrhyw gyfrifoldebau cyfreithiol ac nid ydynt yn pleidleisio yn ein CCB.
Fodd bynnag, gwahoddir aelodau cefnogol i ddod i Gynhadledd flynyddol CyDA i edrych ar ffyrdd o gydweithio er mwyn ymchwilio a hybu atebion i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.
Cefnogwyr CyDA yw enaid y sefydliad – yn syml iawn, ni allem barhau â’n gwaith hanfodol heb eu hymroddiad a’u haelioni.
YMUNWCH YN Y NEWID
Mae gwaith CyDA i ysbrydoli, hysbysu a galluogi dynoliaeth i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth yn dibynnu ar gefnogaeth pobl fel chi.