Ar agor ar hyn o bryd ar gyfer ymweliadau wedi’u trefnu ymlaen llaw yn unig (cyrsiau, digwyddiadau, Gwely a Brecwast, grwpiau, myfyrwyr) – darllen mwy

STRATEGAETH A RHEOLAETH

Mae angen gweithredu radical nawr os ydym am osgoi newid hinsawdd enbyd. Mae CyDA yn cynnig atebion a dysgu ymarferol i helpu i greu byd di-garbon.

Gweledigaeth a Chenhadaeth CyDA

Gweledigaeth CyDA yw dyfodol cynaliadwy i’r ddynoliaeth gyfan fel rhan o fyd naturiol ffyniannus.

Cenhadaeth CyDA yw ysbrydoli, hysbysu a galluogi’r ddynoliaeth i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.

Cynllun Strategol

Mae ein Cynllun Strategol 2020-2025 yn amlinellu rôl unigryw CyDA, ein ffyrdd o weithio a’n blaenoriaethau allweddol wrth i ni weithio gyda’n gilydd i wireddu’r weledigaeth a’r genhadaeth hon.

Sut rydym yn cael ein rhedeg

Mae Elusen Canolfan y Dechnoleg Amgen Cyf yn elusen addysgol gofrestredig sydd wedi ymrwymo i ymchwilio i atebion cadarnhaol i newid hinsawdd, ac i’w rhannu.

Mae gwaith CyDA yn digwydd diolch i dîm o weithwyr a gwirfoddolwyr profiadol ynghyd â chymuned ehangach o fyfyrwyr, graddedigion, ymwelwyr, aelodau a chefnogwyr – i gyd wedi ymroddi’n llwyr i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.

Wrth wraidd y sefydliad mae ein Bwrdd Ymddiriedolwyr, sy’n dod ag ystod eang o brofiad i’n helpu i oruchwylio ein pwrpas cyffredinol.

Mae’r Bwrdd yn gweithio’n agos gydag Uwch Dîm Rheoli CyDA er mwyn arwain ein staff a’n gwirfoddolwyr ymroddedig wrth gyflawni ein cenhadaeth.

Mae Memorandwm ac Erthyglau Sefydlu CyDA yn rhoi mwy o fanylion am ein hamcanion elusennol a sut y rheolir y sefydliad.

Darllenwch am ein dylanwad a’n uchafbwyntiau yn ein Hadroddiad Blynyddol.

Related Questions

Sut rydych chi’n dewis eich ymddiriedolwyr?

Penodir ymddiriedolwyr gan y Bwrdd drwy broses recriwtio agored.

Pan fydd swydd wag yn codi fe’i hysbysebir ar wefan CyDA.

Nod y Bwrdd yw cael ystod gref o sgiliau a gwybodaeth i gefnogi gwaith CyDA, felly’r nod wrth recriwtio yw sicrhau arbenigedd ychwanegol mewn meysydd allweddol.

Mae Bwrdd CyDA yn ceisio sicrhau bod yr elusen yn dilyn egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth ac yn annog cyfranogi hygyrch a chynhwysol.

Mae CyDA yn rhoi gwerth ar amrywiaeth, yn yr ystyr ehangaf, gan ei ystyried yn hanfodol er mwyn sicrhau Bwrdd gwybodus ac ymatebol, sy’n gallu ymdrin â’r newidiadau cyflym a chymhleth sy’n wynebu’r sector gwirfoddol.

Mae CyDA’n cydnabod bod ymddiriedolwyr o wahanol gefndiroedd, gyda phrofiad a safbwyntiau amrywiol, yn fwy tebygol o annog trafodaeth a gwneud gwell penderfyniadau.

Os dof yn aelod, alla i bleidleisio yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol?

Wrth ymuno â CyDA fel aelod, byddwch yn gwneud hynny fel aelod cefnogol. Mae hyn yn wahanol i fod yn aelod o’r Elusen fel y nodir yn y Memorandwm ac Erthyglau Sefydlu.

Nid oes gan aelodau cefnogol unrhyw gyfrifoldebau cyfreithiol ac nid ydynt yn pleidleisio yn ein CCB.

Fodd bynnag, gwahoddir aelodau cefnogol i ddod i Gynhadledd flynyddol CyDA i edrych ar ffyrdd o gydweithio er mwyn ymchwilio a hybu atebion i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.

Cefnogwyr CyDA yw enaid y sefydliad – yn syml iawn, ni allem barhau â’n gwaith hanfodol heb eu hymroddiad a’u haelioni.

Sut yr ariennir ni

Mae CyDA yn dibynnu ar haelioni cefnogwyr unigol ac ar grantiau a rhoddion gan ymddiriedolaethau a sefydliadau am tua hanner ein hincwm blynyddol craidd.

Cynhyrchir gweddill ein hincwm craidd drwy ystod o weithgareddau, gan gynnwys cyrsiau, tâl mynediad y ganolfan ymwelwyr a gwariant yn ein Siop Eco. Yn wahanol i nifer o elusennau, nid ydym yn derbyn unrhyw arian gan y llywodraeth ar gyfer ein gweithgareddau craidd.

Am ragor o wybodaeth am sut y cawn ein hariannu a sut rydym yn gwario’r incwm hwn, gallwch lawrlwytho ein cyfrifon statudol:

YMUNWCH YN Y NEWID

Mae gwaith CyDA i ysbrydoli, hysbysu a galluogi dynoliaeth i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth yn dibynnu ar gefnogaeth pobl fel chi.