Mae CyDA yn chwilio am Gogydd i ymuno â’n Tîm Arlwyo i gynorthwyo gyda rhedeg a datblygu ein Caffi a’n gwasanaetha arlwyo i safon uchel ac effeithlon.
Ynghylch CyDA
Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen yn ganolfan addysg amgylcheddol, ymchwil ac ymwelwyr sy’n arddangos atebion ymarferol ar gyfer cynaliadwyedd. Mae CyDA yn ysbrydoli, yn hysbysu ac yn galluogi pobl i gyflawni newidiadau cadarnhaol yn eu bywydau personol, yn ei gwaith ac yn eu cymunedau lleol. Mae CyDA yn elusen genedlaethol wedi’i lleoli yng Nghanolbarth Cymru a dathlodd ei phen-blwydd yn 40 oed yn 2014.
Nod y tîm Arlwyo yw darparu gwasanaeth o’r radd flaenaf ar gyfer ei holl gwsmeriaid, sy’n cynnwys ymwelwyr dydd, grwpiau ysgol, myfyrwyr, pobl ar gyrsiau, gwesteion Gwely a Brecwast a chynrychiolwyr cynadleddau a digwyddiadau wrth weithredu o fewn polisi masnachu moesegol a chynaliadwy. Mae’r meysydd gweithredu cyfredol yn cynnwys y prif gaffi a derbyniadau bwffe yn adeilad WISE.
Mae’r Cogydd yn gyfrifol am gynorthwyo gyda rhedeg a datblygu’r caffi a’r gwasanaethau arlwyo i safon uchel, effeithlon a phroffidiol, gan dderbyn adborth rhagorol gan gwsmeriaid, wrth weithredu o fewn polisïau amgylcheddol a chaffael CyDA. Mae’r rôl yn cyfuno dyletswyddau arlwyo cyffredinol, yn y gegin a blaen y tŷ, fel ei gilydd.
Manylion y Swydd:
- Cyfeirnod: CHE210831
- Cyflog: £20,727.57 y flwyddyn pro rata
- Oriau: Yn amrywio – 15 i 37.5 awr yr wythnos
- Lleoliad: Fel rheol, ar safle’r cwmni yn Llwyngwern
- Math o Gontract: Parhaol
- Atebol i: Rheolwr Bwyd a Diod
- Cyfrifol am: Staff Arlwyo
- Diwrnodau gwaith: Dros 7 diwrnod ar sail rota, gan gynnwys gyda’r nos a boreau cynnar. Efallai bydd angen gweithio sifftiau hollt, yn ddibynnol ar ofynion busnes.
- Dedlein ar gyfer derbyn ceisiadau: Parhaus
- Cynhelir cyfweliadau: Fel y bo angen
- Dyddiad cychwyn disgwyliedig: Cyn gynted â phosib – i’w drafod adeg cynnig y swydd
Prif Gyfrifoldebau
- Cynorthwyo gyda goruchwylio a datblygu’r holl arlwyo
- Cynorthwyo gyda gosod safonau priodol
- Cynorthwyo gydag adolygu a datblygu ansawdd ac ystod y cynnyrch a’r gwasanaethau yn barhaol, cynyddu proffidioldeb a bodlonrwydd cwsmeriaid
- Gofalu bod gan y gwasanaethau arlwyo yn CyDA y nifer priodol o staff
- Cynnal a datblygu safonau uchel wrth baratoi bwyd, gweini a chyflwyno prydau a byrbrydau
- Bod yn greadigol a dyfeisgar wrth gyflwyno bwyd ar gyfer gwahanol gwsmeriaid a’u gwahanol ofynion arlwyo
- Sicrhau bod amrywiaeth dda o brydau a byrbrydau, sydd wedi’u paratoi yn ffres, ar gael i’w gweini ar gownteri’r bwyty
- Cynnal safonau uchel wrth goginio a gweini prydau i gwsmeriaid a grwpiau mawr
- Bod yn amryddawn a dyfeisgar wrth ddarparu ystod eang o wasanaethau arlwyo i gwsmeriaid, gan gynnwys darpariaeth hunanwasanaeth ar gyfer grwpiau, bwffes neu brydau wedi’u harchebu ymlaen llaw, a chymryd rhan mewn cynllunio bwydlenni
- Hwyluso gweithrediad llyfn ac effeithiol caffi CyDA o ddydd i ddydd, sy’n cynnwys:
- gweini, cydgysylltu â chwsmeriaid a’r holl weithrediadau blaen y tŷ
- defnyddio til, gwerthu dros y cownter a chyfrif yr arian
- gweithrediadau’r gegin
- cadw’r ardaloedd arlwyo yn ddiogel ac yn lân
- cydymffurfio â HACCP a’r holl ofynion Iechyd Amgylcheddol
- Cynorthwyo gydag adnewyddu a chynnal lefelau priodol o stoc arlwyo
- Cynorthwyo gyda hyfforddi, datblygu ac ysgogi staff
- Sicrhau cydymffurfiad â pholisïau CyDA gan gynnwys Rheoli Gwastraff ac Iechyd a Diogelwch.
- Cynorthwyo gyda chynnal a chadw strwythur a chyfleusterau’r bwyty, fel rhan o dîm y bwyty
- Unrhyw ddyletswyddau priodol eraill fel y’u diffinnir gan y Rheolwr Arlwyo