Cyfarwyddwr Datblygu

Cyfarwyddwr Datblygu


Home » Cyfarwyddwr Datblygu

Mae CyDA yn chwilio am Gyfarwyddwr Datblygu i arwain ein cynlluniau trawsnewidiol ar gyfer adfywio ein cartref yn Chwarel Llwyngwern, ac i arwain ein gwaith codi arian, marchnata a chyfathrebu, polisi a phartneriaethau. Byddwch yn meddu ar wybodaeth, sgiliau a phrofiad rhagorol ym maes codi arian, ynghyd â gwybodaeth o faes marchnata a chyfathrebu, a’r gallu i rwydweithio a dylanwadu ar randdeiliaid allweddol.

Ynghylch CyDA

Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn elusen amgylcheddol sy’n adnabyddus yn rhyngwladol, mae’n ganolfan eco flaenllaw ar lefel fyd-eang, ac yn un o ddarparwyr pennaf addysg amgylcheddol ôl-raddedig yn y DU, wedi’i lleoli ger Machynlleth ym Mhowys, Canolbarth Cymru.

Mae CyDA yn cynnig ysbrydoliaeth, addysg a hyfforddiant ynghylch datrysiadau i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.

Mae’r prif weithgareddau yn cynnwys canolfan ymwelwyr lle y gall pobl weld datrysiadau ar waith, cyrsiau preswyl byr, hyfforddiant galwedigaethol a graddau ôl-raddedig mewn ystod eang o bynciau sy’n ymwneud â chynaliadwyedd, a chynigir cyrsiau a digwyddiadau ar-lein law yn llaw â chyfleoedd dysgu wyneb yn wyneb.

Mae gan CyDA gynlluniau uchelgeisiol a thrawsnewidiol i gynyddu’r hyn yr ydym yn ei wneud er mwyn ymateb i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.  Mae’n gyfnod cyffrous i ymuno â’r sefydliad i gyflawni rôl arwain uwch.  Mae gennym gynllun sy’n werth £25 miliwn i ailddatblygu ein cartref, Chwarel Llwyngwern, a elwir Cynefin.  Rydym wedi sicrhau £13.5 miliwn gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru trwy gyfrwng Bargen Twf Canolbarth Cymru a chyllid cyfatebol preifat ar gyfer y cam cyntaf.  Bydd y Cyfarwyddwr Datblygu yn arwain yr ymgyrch i godi arian cyfalaf a byddant yn cyflawni rôl allweddol yn Nhîm Rheoli Uwch yr elusen, gan arwain a rheoli’r timau codi arian, marchnata a chyfathrebu, a thimau’r Labordy Arloesi.

Bydd deiliad y swydd yn cynnig profiad sylweddol ar lefel uwch ym maes codi arian, ynghyd â phrofiad cadarn o arweinyddiaeth gydweithredol ac effeithiol.  Yn ogystal, byddai profiad o arweinyddiaeth strategol ym maes polisi a chyfathrebu a marchnata o fantais.

Manylion y Swydd

  • Maes Cyfrifoldeb: Arwain gweithgarwch codi arian, marchnata, cyfathrebu, polisi a phartneriaethau CyDA
  • Yn gyfrifol i: Cyd Brif Swyddog Gweithredol
  • Yn gyfrifol am: Staff a gyflogir yn y timau codi arian, marchnata a chyfathrebu, a thimau y Labordy Arloesi
  • Math o gontract: Parhaol
  • Gradd Cyfrifoldeb: 9 (£54,000 – £67,200)
  • Lleoliad: Hyblyg: gweithio gartref gydag ymweliadau rheolaidd â chanolfan eco CyDA ger Machynlleth
  • Oriau: Amser llawn: 37.5 awr yr wythnos (1.0 FTE).
  • Diwrnodau gweithio: Dydd Llun i ddydd Gwener fel arfer. Bydd gofyn gweithio
  • Dedlein ar gyfer derbyn ceisiadau: 5yp 15 Mehefin 2025
  • Cynhelir cyfweliadau: Wythnos yn dechrau 23 Mehefin 2025 (ar safle)
  • Dyddiad cychwyn disgwyliedig: Cyn gynted ag sy’n bosib

Cyflog a buddion gweithiwr

£54,000 y flwyddyn

Mae CyDA yn cynnig lwfans gwyliau blynyddol hael o 25 diwrnod y flwyddyn, a gwyliau banc (7-8 diwrnod fel arfer), a lwfans ychwanegol adeg y Nadolig (3 diwrnod fel arfer), ac 1 diwrnod ychwanegol am bob blwyddyn o waith (hyd at 5 diwrnod).

Mae CyDA yn cynnig pecyn deniadol o fuddion i gyflogeion hefyd, sy’n cynnwys:

  • Cinio wedi’i goginio am ddim a diodydd poeth am ddim o’r caffi pryd bynnag y byddwch yn gweithio yng nghanolfan eco CyDA
  • Gostyngiad o 40% ar nwyddau manwerthu a brynir gan CyDA
  • Cyfleoedd i hyfforddiant DPP, cymwysterau ac aelodaeth broffesiynol gael eu hariannu gan CyDA
  • Y cyfle i ddilyn 1 gwrs byr CyDA y flwyddyn yn rhad ac am ddim
  • Y cyfle i brynu diwrnodau gwyliau ychwanegol
  • Cynllun ‘Beicio i’r Gwaith’
  • Cyfraniad pensiwn o 5%
  • Hawl mamolaeth a thadolaeth hael a budd-dal Marw yn y Swydd
  • 2 awr y mis ar gyfer iechyd a lles cyffredinol a 2 awr y mis ar gyfer hyfforddiant Cymraeg

Trosolwg o’r Swydd

  1. Mae’r Cyfarwyddwr Datblygu yn gyfrifol am ddatblygu ac arwain strategaethau er mwyn tyfu adnoddau ariannol y sefydliad, nifer ei gefnogwyr ac adnabyddiaeth o’r brand. Bydd y Cyfarwyddwr Datblygu yn arwain ac yn rheoli’r tîm codi arian a byddant yn meddu ar y cyfrifoldeb cyffredinol dros sicrhau arweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol y timau Marchnata a Chyfathrebu a thimau’r Labordy Arloesi ar y cyd â’r Cyd Benaethiaid Marchnata a Chyfathrebu a Rheolwr y Labordy Arloesi.
  2. Mae’r Cyfarwyddwr Datblygu yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu strategaeth, tactegau a chynlluniau codi arian, er mwyn sicrhau’r cyllid refeniw sy’n werth miliynau sy’n ofynnol er mwyn i CyDA gyflawni ei huchelgais strategol, yn ogystal â chynyddu ei chronfeydd wrth gefn.
  3. Mae’r Cyfarwyddwr Datblygu yn gyfrifol am ddatblygu a darparu’r ymgyrch codi arian cyfalaf er mwyn sicrhau cyllid Bargen Twf Canolbarth Cymru a chodi’r arian cyfatebol preifat a fydd yn ein galluogi i gyflawni mewn perthynas â Chynefin.
  4. Mae’r rôl yn ymwneud â datblygu a darparu strategaethau er mwyn cynyddu’r incwm craidd a’r incwm prosiect gan roddwyr unigol, ymddiriedolaethau elusennol, ffynonellau statudol a chwmnïau.
  5. Mae’r swydd yn cynnwys datblygu ceisiadau a chynigion codi arian i gefnogi’r uchod.
  6. Bydd y Cyfarwyddwr Datblygu yn meithrin ac yn cynnal perthnasoedd cadarn a llawn ymddiriedaeth ar lefel uwch gyda rhanddeiliaid allweddol o’r llywodraeth, cyllidwyr, unigolion y mae eu gwerth net yn uchel, sefydliadau corfforaethol a sefydliadau partner.
  7. Bydd deiliad y swydd yn arwain y gwaith o ddatblygu dull gweithredu CyDA mewn perthynas â mesur effaith, gan sicrhau bod systemau effeithiol mewn grym i fonitro a gwerthuso.
  8. Bydd y swydd yn gyfrifol am gynnal trosolwg o’r gweithgarwch marchnata a chyfathrebu, gan gynnwys sicrhau bod strategaethau marchnata a chyfathrebu effeithiol yn cael eu datblygu, eu gweithredu, eu monitro a’u gwerthuso.
  9. Fel aelod allweddol o Dîm Rheoli Uwch CyDA, byddwch yn cyflawni rôl arwyddocaol yn arweinyddiaeth a rheolaeth gyffredinol y sefydliad ac yn arbennig, byddwch yn gwneud cyfraniad arwyddocaol i’r gwaith o fireinio a chyflawni ein gweledigaeth, ein cenhadaeth a’n gwerthoedd.
  10. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am osod a rheoli’r gyllideb.

Prif Gyfrifoldebau

Codi Arian a Sicrhau Incwm

  • Datblygu a chyfleu’n glir yr achos dros sicrhau cefnogaeth ar gyfer CyDA sy’n ei rhoi mewn sefyllfa i sicrhau llwyddiant ym maes codi arian. Pennu’r ffordd fwyaf effeithiol o gyflwyno ei hachos fel un grymus ac unigryw.
  • Datblygu, gweithredu a gwerthuso rhaglen codi arian gynhwysfawr sy’n bodloni anghenion y sefydliad. Mae hyn yn cynnwys gosod y nodau a’r amcanion cyffredinol ar gyfer gweithgarwch codi arian, law yn llaw â’r Cyd Brif Swyddogion Gweithredol, ac arwain y gwaith o weithredu strategaethau er mwyn cyflawni’r nodau hyn.
  • Nodi, blaenoriaethu, meithrin, ceisio a stiwardio portffolio rhoddion mawr sy’n cynnwys unigolion a sefydliadau, gyda phwyslais penodol ar ymddiriedolaethau a sefydliadau.
  • Cydweithio’n agos gyda’r Cyd Brif Swyddog Gweithredol, gan fireinio ac arwain strategaeth y sefydliad ar gyfer sicrhau mwy o gefnogaeth gan ffynonellau statudol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
  • Bydd y swydd yn gyfrifol am oruchwylio gweithgarwch codi arian, gan gynnwys sicrhau bod strategaethau codi arian effeithiol yn cael eu datblygu a’u gweithredu er mwyn cynyddu gweithgarwch rhoi, recriwtio a chadw aelodau a chefnogwyr gan gynnwys cymynroddion, yn ogystal ag ar gyfer ymddiriedolaethau a chorfforaethau.
  • Cydweithio’n agos gyda’r Cyd Brif Swyddog Gweithredol, Pennaeth y Ganolfan Eco a’r Cyfarwyddwr Prosiect i roi diweddariad am y cynnydd o ran cyllid a gofynion cyllidwyr.
  • Arwain datblygiad ceisiadau cyllid a thendrau, gan weithio gyda’r Cyd Brif Swyddog Gweithredol, Pennaeth y Ganolfan Eco, Pennaeth yr Ysgol, y tîm codi arian, ymddiriedolwyr a staff eraill ar draws y sefydliad.
  • Cynnwys y gwaith o sicrhau cronfeydd craidd a chostau gorbenion ym mhob cais a thendr.
  • Gweithio gyda’r Cyd Brif Swyddog Gweithredol a’r Cyfrifydd Rheoli i sicrhau bod systemau cadarn yn eu lle ar gyfer rheolaeth ariannol prosiectau ac er mwyn gwireddu cyfraniadau craidd a gorbenion.
  • Cydweithio gyda chydweithwyr i greu systemau cadarn ar gyfer ymchwil datblygu, stiwardiaeth a rheoli cyswllt.
  • Darparu adroddiadau rheolaidd am gynnydd a chanlyniadau gyda datblygiadau yn y portffolio.
  • Trwy gydweithio gyda’r Cyd Brif Swyddog Gweithredol a rheolwyr uwch eraill, ffurfio a chynnal cysylltiadau gyda’r sectorau busnes a gwirfoddol a’r llywodraeth, gyda’r nod o ddenu cymorth ariannol.
  • Trwy gydweithio gyda’r Cyd Brif Swyddog Gweithredol, goruchwylio gwaith eiriolaeth a rhwydweithio allanol CyDA, ar y cyd â staff ar draws y sefydliad.
  • Arwain y gwaith o ymwreiddio mesur effaith gweithgareddau’r elusen ar draws y sefydliad.

Cyfathrebu

  • Gan weithio gyda’r Cyd Brif Swyddog Gweithredol a’r Cyd Benaethiaid Marchnata a Chyfathrebu, cynnig arweinyddiaeth ar gyfer gwaith cyfathrebu a marchnata y sefydliad.
  • Gan weithio gyda’r tîm Marchnata a Chyfathrebu, creu a goruchwylio darpariaeth strategaeth farchnata a chyfathrebu a fydd yn gwella ac yn datblygu enw da rhagorol CyDA, ac yn galluogi gwaith effeithiol i farchnata gwasanaethau CyDA a chyfleu ei phrif negeseuon.
  • Cynghori a chynorthwyo’r tîm Marchnata a Chyfathrebu mewn perthynas â datblygu’r brand, ymgyrchoedd, defnyddio cefnogwyr, cysylltiadau â’r cyfryngau a gwaith CC amddiffynnol.
  • Gan weithio gyda’r Cyd Benaethiaid Marchnata a Chyfathrebu a’r tîm, datblygu a diweddaru cofnod o wybodaeth allweddol a negeseuon clir a chyson am waith, nodau a chyflawniadau CyDA. Goruchwylio gweithrediad negeseuon allweddol yng ngweithgarwch cyfathrebu CyDA.

Arweinyddiaeth Strategol a Chymhellol

  • Cynnig arweinyddiaeth ysbrydoledig, cydweithredol ac effeithiol dros ystod gweithgareddau datblygu a chodi arian CyDA, gan fanteisio ar ymrwymiad a gwybodaeth y staff.

Arall

  • Cyflawni dyletswyddau a chyfrifoldebau eraill y mae’r Cyd Brif Swyddog Gweithredol yn gofyn i chi eu cyflawni.

Yr Unigolyn

Rhaid i ymgeiswyr am y rôl gynnig profiad sylweddol ac arbenigedd a chysylltiadau eang ym maes codi arian, gan gynnwys rheoli a chynorthwyo tîm codi arian.

Bydd gennych chi brofiad o sicrhau cronfeydd sylweddol gan ffynonellau ymddiriedolaethol, statudol a chorfforaethol, a chan roddwyr unigol, ac yn ddelfrydol, bydd hyn yn cynnwys llwyddiant blaenorol wrth arwain ymgyrch cyfalaf sy’n werth miliynau o bunnoedd ac ysgogi incwm craidd uwch.

Bydd angen eich bod yn meddu ar brofiad a sgiliau cadarn ym maes rhwydweithio a meithrin perthnasoedd gydag unigolion a sefydliadau.  Byddai profiad o arwain gwaith marchnata a chyfathrebu o fantais.

Dylai ymgeiswyr fod yn meddu ar ystod eang o sgiliau cyfathrebu a datblygu busnes hefyd, gan gynnwys dawn entrepreneuraidd, sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol a gallu trefnu cadarn.

Mae empathi a brwdfrydedd ynghylch diben, gwerthoedd a heriau CyDA yn hanfodol, ynghyd ag arddull arweinyddiaeth penderfynol a chydweithredol a’r urddas a’r presenoldeb i ennyn hyder ar amrywiaeth o lefelau.

I ddysgu mwy am y rôl, lawrlwythwch y disgrifiad swydd llawn:

Dylid anfon ceisiadau i vacancy@cat.org.uk erbyn y dedlein gan nodi teitl y swydd yn y blwch Testun.

Dylid cyfeirio ymholiadau at vacancy@cat.org.uk

Rhaid llenwi ffurflen gais, ni dderbynnir CV.

Swydd Disgrifiad: Cyfarwyddwr Datblygu

Darllenwch y dogfennau isod cyn cwblhau’ch cais: