Cynorthwyydd Gweithredol

Cynorthwyydd Gweithredol


Home » Cynorthwyydd Gweithredol

Mae CyDA yn chwilio am Gynorthwyydd Gweithredol sy’n meddu ar sgiliau ysgrifenyddol a gweinyddol i gynorthwyo arweinyddiaeth effeithiol y sefydliad.

Ynghylch CyDA

Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn elusen amgylcheddol sy’n adnabyddus yn rhyngwladol, mae’n ganolfan eco flaenllaw ar lefel fyd-eang, ac yn un o ddarparwyr pennaf addysg amgylcheddol ôl-raddedig yn y DU, wedi’i lleoli ger Machynlleth ym Mhowys, Canolbarth Cymru.

Mae CyDA yn cynnig ysbrydoliaeth, addysg a hyfforddiant ynghylch datrysiadau i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.

Mae’r prif weithgareddau yn cynnwys canolfan ymwelwyr lle y gall pobl weld datrysiadau ar waith, cyrsiau preswyl byr, hyfforddiant galwedigaethol a graddau ôl-raddedig mewn ystod eang o bynciau sy’n ymwneud â chynaliadwyedd, a chynigir cyrsiau a digwyddiadau ar-lein law yn llaw â chyfleoedd dysgu wyneb yn wyneb

Manylion Swydd

  • Cyfeirnod: EA250331
  • Maes Cyfrifoldeb: Cymorth gweinyddol ar gyfer y Cyd Brif Swyddog Gweithredol, y Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau, y Tîm Reoli Uwch ac Ymddiriedolwyr yr elusen
  • Atebol i: Cyd Brif Swyddog Gweithredol, Paul Booth
  • Cyfrifol am: Dim dyletswyddau fel rheolwr llinell
  • Math o gontract: Parhaol
  • Lleoliad: Safle Elusen CYDA ger Machynlleth, Canolbarth Cymru. Rhywfaint o weithio o bell yn bosibl.
  • Oriau: 37.5 awr yr wythnos (1.0 FTE).
  • Diwrnodau gweithio: Dydd Llun i ddydd Gwener fel arfer
  • Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9am 02 Mai 2025
  • Cyfweliadau i’w cynnal: Wythnos yn dechrau 12 Mai 2025 (ar safle)
  • Dyddiad cychwyn disgwyliedig: cyn gynted ag sy’n bosib

Cyflog a buddion gweithiwr:

£24,901.50 y flwyddyn

Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn cynnig lwfans gwyliau blynyddol hael o 25 diwrnod y flwyddyn, yn ogystal â gwyliau banc, a lwfans ychwanegol adeg y Nadolig (3 diwrnod fel arfer), yn ogystal ag 1 diwrnod ychwanegol am bob blwyddyn a weithir (hyd at 5 diwrnod).

Mae CyDA hefyd yn cynnig pecyn deniadol o fuddion i weithwyr, gan gynnwys:

  • Cinio poeth am ddim a diodydd poeth am ddim o’r caffi pryd bynnag y byddwch yn gweithio o ganolfan eco CyDA;
  • Gostyngiad o 40% ar nwyddau manwerthu a brynir oddi wrth CyDA;
  • Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant DPP, cymwysterau ac aelodaeth broffesiynol i’w hariannu gan CyDA;
  • Cyfle i ddilyn 1 gwrs byr CyDA y flwyddyn yn rhad ac am ddim;
  • Y cyfle i brynu diwrnodau gwyliau ychwanegol;
  • Cynllun ‘Seiclo i’r Gwaith’;
  • Cyfraniad pensiwn o 5%;
  • Hawliad mamolaeth a thadolaeth hael a budd-dal marw yn y swydd;
  • 2 awr y mis ar gyfer iechyd a lles cyffredinol a 2 awr y mis ar gyfer hyfforddiant yn y Gymraeg.

Trosolwg o’r Rôl

Mae’r swydd hon yn gyfle cyffrous i gynorthwyo arweinyddiaeth elusen genedlaethol mewn cyfnod pan fo’r sefydliad yn ceisio cynyddu ei effaith wrth weithio i sicrhau cymdeithas gynaliadwy.

Mae’r Cynorthwyydd Gweithredol yn gyfrifol am weinyddu cyfarfodydd Bwrdd a rheoli (gwasanaethau ysgrifenyddiaeth), cynorthwyo gyda rheolaeth dyddiadur a swyddfa y Cyd Brif Weithredwr a chynnig cymorth gweinyddol i’r Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau.

Mae CyDA yn chwilio am ymgeisydd sy’n meddu ar sgiliau ysgrifenyddol a gweinyddol i gynorthwyo arweinyddiaeth effeithiol y sefydliad. Rheolwr llinell deiliad y swydd fydd y Cyd Brif Weithredwr/Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau, ond byddant hefyd yn cydweithio’n agos gyda’r Ymddiriedolwyr.

Prif Gyfrifoldebau

Cynorthwyo gyda rheolaeth swyddfa a’r Dyddiadur:

  • Cynllunio a threfnu cyfarfodydd, apwyntiadau a choladu gwybodaeth cyn cyfarfodydd
  • Monitro negeseuon e-bost, post a galwadau ffôn y Cyd Brif Weithredwr yn ôl y gofyn a delio gyda materion gweinyddol gan gynnwys golygu a fformatio dogfennau, cydlynu, diweddaru a fformatio polisïau CyDA.
  • Cynnig cymorth trefnu a dyddiadur i’r Cadeirydd a’r Ymddiriedolwyr eraill, gan gynnwys cymryd cofnodion yn ystod cyfarfodydd, amserlennu cyfarfodydd, sicrhau bod y sawl sy’n mynychu yn cyflwyno’r papurau gofynnol a dosbarthu’r rhain.
  • Cadw cofnodion o gofnodion cyfarfodydd y Bwrdd a chyfarfodydd rheoli, gohebiaeth gyda Thŷ’r Cwmnïau a dogfennaeth swyddogol arall
  • Cynnig cymorth gweinyddol i’r Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau ac aelodau eraill y Tîm Rheoli Uwch yn ôl yr angen
  • Cynnal a datblygu systemau swyddfa

Gwasanaethau ysgrifenyddiaeth:

  • Coladu a dosbarthu papurau agenda ar gyfer cyfarfodydd Bwrdd a rheoli a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn
  • Cymryd cofnodion yn ystod cyfarfodydd Bwrdd a rheoli a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn a chadw cofnodion gweithredu
  • Cynnal a chyfleu gwybodaeth am raglen cyfarfodydd Bwrdd, cyfarfodydd rheoli a chyfarfodydd eraill
  • Cynorthwyo gyda’r cyfathrebu gydag Ymddiriedolwyr rhwng cyfarfodydd
  • Cynorthwyo’r Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau a’r Cyd Brif Swyddog Gweithredol wrth sicrhau bod y sefydliad yn cadw at ei dogfennau llywodraethu

Cymorth gweinyddol arall:

  • Cynorthwyo’r Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau, y Cyd Brif Swyddogion Gweithredol a’r Cadeirydd wrth goladu a chyflwyno ffurflenni blynyddol a gohebiaeth arall gyda’r Comisiwn Elusennau a Thŷ’r Cwmnïau
  • Cyflenwi ar gyfer swyddogaethau eraill o fewn y tîm gweinyddol canolog yn ôl yr angen
  • Darparu cymorth gweinyddol arall i’r Cyd Brif Swyddog Gweithredol a’r Tîm Rheoli Uwch yn ôl yr angen, megis prawfddarllen, coladu adroddiadau a gwaith ymchwil sylfaenol ar y we.

Unrhyw ddyletswyddau priodol eraill sy’n cael eu diffinio gan y Cyd Brif Swyddog Gweithredol a’r Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau.

I ddysgu mwy am y rôl, lawrlwythwch y disgrifiad swydd llawn:

Dylid anfon ceisiadau ymlaen at vacancy@cat.org.uk erbyn y dyddiad cau sy’n nodi teitl y swydd yn y llinell Pwnc.

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at vacancy@cat.org.uk

Rhaid llenwi ffurflen gais, ni dderbynnir CV.

I ddysgu mwy am y rôl, lawrlwythwch y disgrifiad swydd llawn:

Swydd Disgrifiad: Cynorthwyydd Gweithredol

Darllenwch y dogfennau isod cyn cwblhau’ch cais: