Swyddog Codi Arian

Swyddog Codi Arian


Home » Swyddog Codi Arian

Mae hwn yn gyfle i unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant weithio yn ein Tîm Codi Arian gwych a medrus ar ymgyrchoedd cyffrous ac uchelgeisiol. Mae’r rôl yn cynnig llawer o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau a phrofiad ym maes codi arian.

Ynghylch CyDA

Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn elusen amgylcheddol ac addysgiadol rhyngwladol enwog, yn ganolfan eco sy’n arwain y byd ac yn un o brif ddarparwyr addysg amgylcheddol ôl-raddedig yn y DU, sydd wedi’i lleoli ger Machynlleth ym Mhowys, Canolbarth Cymru.

Mae CyDA yn darparu ysbrydoliaeth, addysg a hyfforddiant ar atebion i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.

Mae’r prif weithgareddau’n cynnwys canolfan ymwelwyr lle gall pobl weld yr atebion ar waith, cyrsiau byr a digwyddiadau wyneb yn wyneb, ar-lein a phreswyl, hyfforddiant galwedigaethol a graddau ôl-raddedig mewn ystod eang o bynciau’n ymwneud â chynaliadwyedd,

Mae ein tîm Prydain Di-garbon yn cyhoeddi gwaith ymchwil ac yn gweithio’n uniongyrchol gyda chynghorau, cymunedau a sefydliadau eraill i’w helpu i drawsnewid systemau economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol cymhleth.

Manylion y Swydd

  • Cyfeirnod: FOF241212
  • Oriau: Amser llawn: 37.5 awr yr wythnos.
  • Atebol i: Rheolwr Codi Arian
  • Cyfrifol am: Goruchwylio gwirfoddolwyr
  • Math o gontract: Cyfnod penodol – 6 mis gyda phosibilrwydd o estyniad
  • Lleoliad: Hyblyg: Hyblyg: gweithio gartref gydag ymweliadau rheolaidd â chanolfan eco CyDA ger Machynlleth.
  • Diwrnodau gweithio: O ddydd Llun i ddydd Gwener fel arfer, mae’r oriau craidd rhwng 10am a 4pm. Gweithio ar benwythnosau a gyda’r nos o bryd i’w gilydd.
  • Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9am 13 Ionawr 2025
  • Cyfweliadau i’w cynnal: Wythnos yn dechrau 20 Ionawr 2025 (ar safle)
  • Dyddiad dechrau disgwyliedig: Cyn gynted ag sy’n bosib

Cyflog a buddion gweithiwr:

£23,405 y flwyddyn

Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn cynnig lwfans gwyliau blynyddol hael o 25 diwrnod y flwyddyn, yn ogystal â gwyliau banc (9-10 diwrnod fel arfer), a lwfans ychwanegol adeg y Nadolig (3 diwrnod fel arfer), yn ogystal ag 1 diwrnod ychwanegol am bob blwyddyn a weithir (hyd at 5 diwrnod).

Mae CyDA hefyd yn cynnig pecyn deniadol o fuddion i weithwyr, gan gynnwys:

  • Cinio poeth am ddim a diodydd poeth am ddim o’r caffi pryd bynnag y byddwch yn gweithio o ganolfan eco CyDA;
  • Gostyngiad o 40% ar nwyddau manwerthu a brynir oddi wrth CyDA;
  • Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant DPP, cymwysterau ac aelodaeth broffesiynol i’w hariannu gan CyDA;
  • Cyfle i ddilyn 2 gwrs byr CyDA y flwyddyn yn rhad ac am ddim;
  • Y cyfle i brynu diwrnodau gwyliau ychwanegol;
  • Cynllun ‘Seiclo i’r Gwaith’ (wedi’i gynllunio);
  • Cyfraniad pensiwn o 5%;
  • Hawliad mamolaeth a thadolaeth hael a budd-dal marw yn y swydd;
  • 2 awr y mis ar gyfer iechyd a lles cyffredinol a 2 awr y mis ar gyfer hyfforddiant yn y Gymraeg.

Trosolwg or Rôl

Mae hwn yn gyfle i unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant weithio yn ein Tîm Codi Arian gwych a medrus ar ymgyrchoedd cyffrous ac uchelgeisiol. Mae’r rôl yn cynnig llawer o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau a phrofiad ym maes codi arian.

Mae Tîm Codi Arian CyDA yn gyfrifol am godi arian hanfodol ar gyfer gwaith craidd a phrosiect CyDA gan unigolion, ymddiriedolaethau a sefydliadau, cyrff statudol a chwmnïau. Mae hyn yn hanfodol er mwyn i CyDA gyflawni ei chenhadaeth elusennol – i hysbysu, ysbrydoli a galluogi pobl i weithredu ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan hanfodol yn y tîm hwn, gan helpu i stiwardio, ysbrydoli ac ymgysylltu â chefnogwyr ac aelodau presennol a darpar gefnogwyr.

Gofal i gefnogwyr a chydlynu gwaith codi arian: Bydd deiliad y swydd yn atebol am sefydlu cysylltiadau cryfach a mwy effeithiol gyda chefnogwyr ac arweinwyr. Byddant yn helpu i gynnal a chynyddu lefelau ymgysylltu drwy ofal cefnogwyr cyson ac ardderchog (gwasanaeth i gwsmeriaid) a chydlynu cyfathrebiadau’n effeithlon (trwy’r post, e-byst a dros y ffôn).
Gweithio â data: Bydd deiliad y swydd hefyd yn chwarae rhan weinyddol hollbwysig, gan gynnwys casglu, prosesu a chofnodi incwm yn rheolaidd ar gyfer y tîm a diolch i gefnogwyr.

Byddant yn cwblhau gwahanol brosesau a rheolaethau busnes pwysig yn rheolaidd, er mwyn gallu olrhain data ariannol a chefnogwyr yn gywir ac yn briodol. Mae’r agweddau hyn ar y swydd yn rhoi cyfleoedd gwerthfawr i ddeiliad y swydd ddatblygu ei sgiliau a’i brofiad o ddefnyddio MS Excel a chronfeydd data, gyda CyDA yn eu cefnogi i gael hyfforddiant DPP perthnasol yn ôl yr angen.

Ennill profiad arall ym maes codi arian / marchnata: Un agwedd bwysig a chyffrous ar y swydd yw cefnogi gweithgareddau cynhyrchu incwm y tîm mewn amrywiaeth o ffyrdd. Gellir teilwra natur y gwaith hwn, i ryw raddau, i alluoedd a diddordebau deiliad y swydd. Er enghraifft, mae’n bosib y bydd cyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau mewn ysgrifennu copi, ysgrifennu ceisiadau am gyllid gan ymddiriedolaethau elusennol, rheoli gwaith dylunio creadigol, dadansoddi data, codi arian yn y gymuned, codi arian yn ddigidol, codi arian drwy gymynroddion a chyfranwyr rhoddion mawr, digwyddiadau codi arian, a phartneriaethau corfforaethol.

Mae deiliad y swydd yn debygol o weithio’n agos a rhannu llawer o’r cyfrifoldebau isod gyda Swyddog Codi Arian arall, yn ogystal â chydweithwyr eraill.

Prif Gyfrifoldebau

Darparu gwasanaethau gofal i gefnogwyr:

  • Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau unigol sy’n ymwneud â Rhoi Arian ac Aelodaeth (dros y ffôn, e-byst a thrwy’r post) ac ymateb i’r rhain neu uwchgyfeirio at reolwr llinell fel y bo’n briodol.

Datblygu a chefnogi prosiectau a rhaglenni codi arian

  • Ysgrifennu llythyrau a negeseuon e-bost codi arian a threfnu gohebiaeth fewnol os oes angen.
  • Helpu i drefnu a chynnal Cynhadledd flynyddol CyDA, gweminarau rheolaidd rhad ac am ddim a digwyddiadau eraill os oes angen.
  • Gwneud ceisiadau am gyllid gan ymddiriedolaethau a sefydliadau a chynhyrchu adroddiadau rheolaidd ar unrhyw brosiectau a ariennir o ganlyniad, os oes angen.
  • Helpu i gynhyrchu ffynonellau incwm newydd a rheoli perthnasoedd a rhaglenni cyfredol, e.e. drwy godi arian yn y gymuned, partneriaethau corfforaethol, canfod trywyddau, codi arian yn ddigidol, codi arian drwy roddion mawr a chymynroddion a sianeli eraill os oes angen.
  • Helpu i gynhyrchu gwaith ymchwil craff o ansawdd uchel ar roddwyr presennol a darpar roddwyr o ffynonellau dibynadwy ac yn unol â GDPR, os oes angen.
  • Cynnal gwaith ymchwil arall o fewn amserlenni penodol a theilwra canfyddiadau ar gyfer amrywiaeth o ddibenion a chynulleidfaoedd, os oes angen.

Prosesu data a rheoli cyfathrebiadau:

  • Casglu a phrosesu ymholiadau, taliadau a chansliadau gyda cherdyn, Paypal, siec, Debyd Uniongyrchol a dulliau eraill dros y ffôn, ar-lein neu ar bapur.
  • Allforio, mewnforio a chynnal data ar gronfeydd data a meddalwedd perthnasol CyDA fel y bo’n briodol, â llaw a drwy swp-brosesu; sicrhau bod y gwaith ffeilio’n cael ei gadw’n gyfredol; a sicrhau bod data’n cael ei storio a’i archifo’n gywir ac yn unol â GDPR.
  • Cynnal a chofnodi cyfathrebiadau unigol a swmp trwy’r post, e-byst a dros y ffôn, gan gynnwys diolch a chroesawu cefnogwyr ac aelodau, yn ogystal â theilwra cyfathrebiadau pwrpasol lle bo hynny’n briodol.
  • Cyflawni a rheoli cyfathrebiadau, e.e. e-byst, ffôn a phost, gan gynnwys postgyfuniadau, at ddiben croesawu, stiwardiaeth, adnewyddu aelodaeth ac anghenion codi arian eraill.
  • Cyflwyno hawliadau Cymorth Rhodd i CThEF a diweddaru cofnodion cronfa ddata yn unol â hynny.
  • Prosesu CAF, Stiwardiaeth, GAYE, Archebion Sefydlog, JustGiving, blwch casglu ac incwm arall, a rheoli gohebiaeth berthnasol a chadw cofnodion fel y bo’n briodol.

Cyflawni dyletswyddau eraill:

  • Darparu cefnogaeth ar gyfer gwaith creadigol, dadansoddi, mewnwelediadau a gwerthuso os oes angen.
  • Ymateb i geisiadau gan y Tîm Cyllid fel y bo’n briodol, gan gynnwys ar gyfer gwybodaeth godio.
  • Diweddaru adroddiadau canlyniadau a dewis ac allforio data arall lle bod angen
  • Goruchwylio a hyfforddi gwirfoddolwyr ac interniaid os oes angen.
  • Ymgymryd â hyfforddiant yn swyddogaethau’r rôl fel y disgrifir uchod.

Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill y cytunwyd arnynt gyda Rheolwr y Tîm.

Dylid anfon ceisiadau ymlaen at vacancy@cat.org.uk erbyn y dyddiad cau sy’n nodi teitl y swydd yn y llinell Pwnc.

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at vacancy@cat.org.uk

Rhaid llenwi ffurflen gais, ni dderbynnir CV.

I ddysgu mwy am y rôl, lawrlwythwch y disgrifiad swydd llawn:

Disgrifiad Swydd: Swyddog Codi Arian

Darllenwch y dogfennau isod cyn cwblhau’ch cais: