Mae CyDA yn chwilio am Gyfrifydd Rheoli i gydweithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau a’r Cyd-Prif Swyddog Gweithredol i fonitro, cynnal a datblygu systemau a rheolaethau ariannol CyDA.
Ynghylch CyDA
Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn elusen amgylcheddol ac addysgiadol rhyngwladol enwog, yn ganolfan eco sy’n arwain y byd ac yn un o brif ddarparwyr addysg amgylcheddol ôl-raddedig yn y DU, sydd wedi’i lleoli ger Machynlleth ym Mhowys, Canolbarth Cymru.
Mae CyDA yn darparu ysbrydoliaeth, addysg a hyfforddiant ar atebion i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.
Mae’r prif weithgareddau’n cynnwys canolfan ymwelwyr lle gall grwpiau weld yr atebion hyn ar waith, cyrsiau preswyl byr, hyfforddiant galwedigaethol a graddau ôl-raddedig mewn ystod eang o bynciau’n ymwneud a chynaladwyedd. Cynigir cyrsiau a digwyddiadau ar-lein ochr yn ochr â dysgu wyneb-yn-wyneb.
Manylion y Swydd
- Cyfeirnod: MAOF250114
- Maes Cyfrifoldeb: Cyllid, Cyfrifon statduol ac Archwilio a Gwybodaeth Reoli
- Atebol i: Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau a/neu’r Cyd-Prif Swyddog Gweithredol
- Math o gontract: Cyfnod penodol – Dwy flynedd
- Cyfrifol am: Rheolwr Cyllid a’r Tîm, gan gynnwys cyfrifoldeb a rennir am Gyllid Myfyrwyr
- Lleoliad: Hyblyg gydag ymweliadau rheolaidd â chanolfan eco CAT ger Machynlleth
- Oriau: 37.5 awr yr wythnos. (1.0 FTE)
- Diwrnodau gweithio: Fel rheol, dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm. Penwythnosau a nosweithiau o bryd i’w gilydd.
- Gweithio o bell: Gweler Lleoliad
- Dedlein ar gyfer derbyn ceisiadau: 9yb 13 Chwefror 2025
- Cynhelir cyfweliadau: Wythnos yn dechrau 21 Chwefror 2025 (ar safle)
- Dyddiad cychwyn disgwyliedig: Cyn gynted ag sy’n bosib
Cyflog a buddion gweithiwr
£35,898 y flwyddyn
Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CAT) yn cynnig lwfans gwyliau blynyddol hael o 25 diwrnod y flwyddyn, yn ogystal â gwyliau banc (9-10 diwrnod fel arfer), a lwfans ychwanegol adeg y Nadolig (3 diwrnod fel arfer), yn ogystal ag 1 diwrnod ychwanegol am bob blwyddyn a weithir (hyd at 5 diwrnod).
- Mae CAT hefyd yn cynnig pecyn deniadol o fuddion i weithwyr, gan gynnwys:
- Cinio poeth am ddim a diodydd poeth am ddim o’r caffi pryd bynnag y byddwch yn gweithio o ganolfan eco CAT;
- Gostyngiad o 40% ar nwyddau manwerthu a brynir oddi wrth CAT;
- Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant DPP, cymwysterau ac aelodaeth broffesiynol i’w hariannu gan CAT;
- Cyfle i ddilyn 2 gwrs byr CAT y flwyddyn yn rhad ac am ddim;
- Y cyfle i brynu diwrnodau gwyliau ychwanegol;
- Cynllun ‘Seiclo i’r Gwaith’ (wedi’i gynllunio);
- Cyfraniad pensiwn o 5%;
- Hawliad mamolaeth a thadolaeth hael a budd-dal marw yn y swydd;
- 2 awr y mis ar gyfer iechyd a lles cyffredinol a 2 awr y mis ar gyfer hyfforddiant yn y Gymraeg.
Trosolwg o’r Swydd
Mae’r rôl hon yn rhan allweddol o’r tîm cyllid yn CYDA wrth i’r sefydliad dyfu a cheisio cynllunio ar gyfer y dyfodol. Bydd yn adrodd i’r Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau (DOFO) a/neu’r Cyd-Prif Swyddog Gweithredol, gyda chyfrifoldeb rheolwr llinell am y Rheolwr Cyllid a’r tîm cyllid.
Bydd meysydd allweddol y rôl yn cynnwys: gweithio gyda’r DOFO i ddatblygu gwybodaeth rheoli ac adrodd; cynhyrchu adroddiadau misol ar gyfer yr uwch dîm rheoli; cynhyrchu adroddiadau ar gyfer Bwrdd yr Ymddiriedolwyr; rhagolygon ariannol a chyllidebu; gosod targedau; ehangu defnydd ac effeithlonrwydd ein meddalwedd cyfrifon, gan gynnwys ei hintegreiddio â systemau eraill, paratoi a chyflwyno ffurflenni TAW chwarterol a goruchwylio cynhyrchu ein cyflogres fisol.
Mae’r rôl yn cynnwys cyfrifoldebau rheolwr llinell ar gyfer y tîm cyllid a chyfrifoldebau rheoli a rennir ar gyfer y tîm cyllid myfyrwyr.
Bydd y rôl yn adrodd i’r Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau a/neu’r Prif Swyddog Gweithredol, a bydd yn cynnwys gweithio’n agos gyda nhw i fonitro, cynnal a datblygu systemau a rheolaethau ariannol CyDA.
Yn ogystal, bydd y rôl yn cynnwys gweithio gyda’r tîm cyllid i gynhyrchu’r cyfrifon blynyddol statudol, paratoi ein harchwiliad blynyddol a chydgysylltu â’r archwilwyr ynghylch eu gwaith, gan sicrhau bod yr holl derfynau adrodd (mewnol ac allanol) yn cael eu bodloni.
Mae’r rôl hon yn ddelfrydol ar gyfer rhywun a fyddai’n dymuno defnyddio eu sgiliau a’u profiad cyfrifyddu fel rhan o dîm ymroddedig sy’n cydweithio ar atebion i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol 2-3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso mewn rôl debyg gydag elusen neu sefydliad dielw arall, a bydd ganddynt sgiliau TG a chyfathrebu (ar lafar ac yn ysgrifenedig) cadarn.
Prif Gyfrifoldebau
Maes 1: Gwybodaeth rheoli
- Rheolwr llinell y tîm cyllid
- Monitro systemau cadw cyfrifon a chyfrifyddu i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chynhyrchu’n amserol ac yn gywir
- Cynhyrchu adroddiadau rheoli misol
- Cynorthwyo gyda chynhyrchu Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA)
- Cynorthywo gyda chynhyrchu a dehongli adroddiadau amrywiant
- Cynorthwyo gyda dehongli gwybodaeth ariannol a rheoli, gan gynnwys adnabod tueddiadau allweddol
- Cynorthwyo gyda datblygu a gwella adroddiadau rheoli
- Cynorthwyo’r DOFO i gynhyrchu adroddiadau ar gyfer Bwrdd yr Ymddiredolwyr
Maes 2: Systemau a Rheolaethau
- Sicrhau bod systemau a rheolaethau cyfrifyddu yn gweithredu’n effeithlon ac yn cael eu dilyn
- Cynorthwyo i ddatblygu a gwella systemau a rheolaethau cyfrifyddu
- Cynorthwyo i orfodi a datblygu ein rheoliadau ariannol yn barhaus
Maes 3: Cyflogres
- Sicrhau bod y gyflogres fisol yn cael ei pharatoi yn gywir ac ar amser
- Sicrhau bod ffurflenni a thaliadau TWE/YG yn cael eu cwblhau’n gywir ac ar amser
Maes 4: TAW
- Paratoi’r ffurflenni TAW chwarterol
- Sicrhau bod ffurflenni TAW yn cael eu cyflwyno’n gywir ac ar amser
- Sicrhau bod unrhyw daliadau TAW sy’n ddyledus i CThEM yn cael ei gwneud yn amserol
- Ymdrin ag ymholiadau ad hoc ynghylch cydymffurfiaeth TAW o fewn CyDA
Maes 5: Rhagolygon ariannol
- Cynorthwyo’r DOFO i gynhyrchu a diweddaru rhagolygon ariannol cyfnodol
- Cynorthwyo’r DOFO i gynhyrchu esboniadau am y rhagolygon
Maes 6: Cyllidebu a Gosod Targedau
- Cynhyrchu cyllidebau blynyddol ar gyfer y sefydliad ac adrannau unigol, gan gysylltu gyda rheolwyr adrannol i sicrhau bod cyllidebau yn realistig ac yn ddealladwy
- Monitro cyllidebau yn ystod y flwyddyn
- Adrodd ynghylch amrywiannau
- Adolygu’r defnydd arfaethedig o’n meddalwedd cyfrifon ar gyfer cofnodi ac adrodd ar gyllidebau
- Gosod targedau adrannol
- Monitro ac adrodd ar ffigyrau gwirioneddol yn erbyn y targedau
Maes 7: Cyllid Myfyrwyr
- Cynorthwyo i reoli’r agweddau o rolau’r Tîm Cyllid Myfyrwyr sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chyllid a chyfrifyddu CyDA
- Cysylltu gyda’r Tîm Cymorth Myfyrwyr a’r Ysgol Graddedigion ehangach mewn perthynas â materion ariannol
Maes 8: Cyfrifoldebau Eraill
- Aseiniadau ad hoc yn ymwneud â materion ariannol
- Ymdrin â materion treth a all godi gan sicrhau bod CyDA yn parhau i gydymffurfio â’r holl ofynion statudol
- Cynorthwyo gydag unrhyw ymweliadau’n ymwneud â chydymffurfio megis archwiliadau CThEM, TAW a TWE
- Cynorthwyo’r DOFO mewn perthynas â threfniadau bancio CyDA
- Mynychu cyfarfodydd ar draws CyDA i drafod materion cyllid a chynorthwyo gyda chynllunio
- Dyletswyddau eraill y gellid yn rhesymol ofyn amdanynt sy’n ymwneud â materion ariannol a chyfrifyddu, ond nid o reidrwydd yn gyfyngedig iddynt.
Unrhyw ddyletswyddau eraill y cytunwyd arnynt gyda’r Cyd-Brif Swyddog Gweithredol
I ddysgu mwy am y rôl, lawrlwythwch y disgrifiad swydd llawn:
Dylid anfon ceisiadau i vacancy@cat.org.uk erbyn y dedlein gan nodi teitl y swydd yn y blwch Testun.
Dylid cyfeirio ymholiadau at vacancy@cat.org.uk
Rhaid llenwi ffurflen gais, ni dderbynnir CV.
Swydd Disgrifiad: Cyfrifydd Rheoli