Rheolwr y Labordy Arloesi

Rheolwr y Labordy Arloesi


Home » Rheolwr y Labordy Arloesi

Mae CAT yn chwilio am reolwr prosiect profiadol a hwylusydd galluog a brwdfrydig i redeg ein Labordai Arloesi cyffrous gan ddefnyddio meddwl trwy systemau a chyd-greu i gael effaith ar yr argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.

Ynghylch CyDA

Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CAT) yn elusen amgylcheddol sy’n enwog yn rhyngwladol, yn ganolfan eco sydd gyda’r gorau yn y byd, ac yn un o’r darparwyr addysg amgylcheddol ôl-radd mwyaf blaenllaw yn y DU, sydd wedi’i lleoli ger Machynlleth yng Nghanolbarth Cymru.

Mae CAT yn darparu ysbrydoliaeth, addysg a hyfforddiant mewn datrysiadau i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.

Mae gweithgareddau allweddol yn cynnwys cyrsiau byr preswyl, hyfforddiant galwedigaethol a graddau ôl-raddedig mewn ystod eang o bynciau ym maes cynaliadwyedd, gyda chyrsiau a digwyddiadau ar-lein yn cael eu cynnig ochr yn ochr â dysgu wyneb yn wyneb.

Lansiodd CAT y Ganolfan Prydain Ddi-garbon a’r Labordy Arloesi yn 2020 gyda chymorth gan Sefydliad Moondance. Prosiect tair blynedd oedd hon i ddechrau a chafodd gyllid pellach gan Sefydliad Moondance i redeg y Labordy Arloesi am dair blynedd arall. Nod y prosiect yw gwella gallu cynghorau a chymunedau i roi datganiadau argyfwng hinsawdd ar waith a chreu newid systemig er mwyn cynyddu’r gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd. Bydd hyn yn cael ei gyflawnir drwy gynnig rhaglen o gefnogaeth gyda’r nod o gynyddu cymhwysedd, hyder ac effeithiolrwydd llunwyr polisïau, cymunedau a sefydliadau wrth ddatblygu polisïau a chynlluniau gweithredu di-garbon. Bydd y cymorth hwn yn cynnwys: defnyddio’r model Prydain Ddi-garbon i roi’r wybodaeth i bobl greu Cynlluniau Gweithredu Di-garbon; darparu hyfforddiant Prydain Ddi-garbon gan ddefnyddio model ‘hyfforddi’r hyfforddwr’ i gynyddu sgiliau a chapasiti cymunedau i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd; cyflenwi’r offer i alluogi pobl i droi datganiadau argyfwng hinsawdd yn gamau gweithredu; sefydlu canolfan adnoddau digidol a rhwydwaith ar-lein i ddarparu cymorth gan gymheiriaid a chynyddu hyder unigolion a chymunedau i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd. Ar y cyd â Chanolfan Prydain Ddi-garbon, bydd y Labordy Arloesi yn nodi materion, blaenoriaethau a thasgau allweddol; yn datblygu syniadau sy’n effeithio ar y meysydd hyn; ac yn creu llwybrau i effaith ar raddfa fwy neu newid systemau.

Manylion y Swydd

  • Cyfeirnod: ZCBILM240216
  • Lleoliad: Hyblyg gydag ymweliadau rheolaidd â chanolfan eco CAT ger Machynlleth
  • Math o gontract: Cyfnod penodol – Dwy flynedd
  • Atebol i: Cyd-Brif Swyddog Gweithredol
  • Cyfrifol am:
    • Cynorthwyydd Ymchwil
    • Hyfforddwyr ac ymgynghorwyr allanol
  • Oriau: 37.5 awr yr wythnos. (1.0 FTE)
  • Diwrnodau gweithio: Fel arfer ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm Gweithio ar benwythnosau a gyda’r nos o bryd i’w gilydd
  • Gweithio o bell: Gweler Lleoliad
  • Dedlein ar gyfer derbyn ceisiadau: i gael ei gadarnhau
  • Cynhelir cyfweliadau: i gael ei gadarnhau
  • Dyddiad cychwyn disgwyliedig: I’w drafod adeg cynnig swydd

Cyflog a buddion gweithiwr

£35,898 y flwyddyn

Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CAT) yn cynnig lwfans gwyliau blynyddol hael o 25 diwrnod y flwyddyn, yn ogystal â gwyliau banc, a lwfans ychwanegol adeg y Nadolig (3 diwrnod fel arfer), yn ogystal ag 1 diwrnod ychwanegol am bob blwyddyn a weithir (hyd at 5 diwrnod).

Mae CAT hefyd yn cynnig pecyn deniadol o fuddion i weithwyr, gan gynnwys:

  • Cinio poeth am ddim a diodydd poeth am ddim o’r caffi pryd bynnag y byddwch yn gweithio o ganolfan eco CAT;
  • Gostyngiad o 40% ar nwyddau manwerthu a brynir oddi wrth CAT;
  • Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant DPP, cymwysterau ac aelodaeth broffesiynol i’w hariannu gan CAT;
  • Cyfle i ddilyn 2 gwrs byr CAT y flwyddyn yn rhad ac am ddim;
  • Y cyfle i brynu diwrnodau gwyliau ychwanegol;
  • Cynllun ‘Seiclo i’r Gwaith’ (wedi’i gynllunio);
  • Cyfraniad pensiwn o 5%;
  • Hawliad mamolaeth a thadolaeth hael a budd-dal marw yn y swydd;
  • 2 awr y mis ar gyfer iechyd a lles cyffredinol a 2 awr y mis ar gyfer hyfforddiant yn y Gymraeg.

Trosolwg o’r Swydd

Bydd deiliad y swydd yn rheoli Labordy Arloesi Prydain Ddi-garbon, i wella gallu cynghorau a chymunedau i roi datganiadau argyfwng hinsawdd ar waith, gan nodi tasgau, blaenoriaethau a materion allweddol, datblygu syniadau sy’n effeithio ar y meysydd hyn a chreu llwybrau i effaith ar raddfa fwy neu newid systemau, er mwyn cynyddu’r gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd.

Prif Gyfrifoldebau

  • Gweithio gyda Thîm Canolfan Prydain Ddi-garbon a’r Arfarnydd Allanol, i egluro nodau a galluoedd, gan nodi tasgau, blaenoriaethau a materion allweddol y gallai’r Labordy Arloesi helpu i fynd i’r afael â nhw, gan asesu galluoedd a bylchau arloesi presennol a phosibl
  • Dylunio model y Tîm Arloesedd
  • Rheoli’r holl staff sy’n cael eu cyflogi i gyflawni’r Labordy Arloesi
  • Cysylltu â’r Pennaeth Datblygu i nodi ffynonellau cyllid eraill ar gyfer datblygu model y Tîm Arloesi ac adeiladu’r Tîm Arloesi
  • Datblygu a gweithredu methodoleg y Labordy Arloesi, gan dreialu a chyflwyno Labordai Arloesi
  • Sefydlu systemau, polisïau a gweithdrefnau effeithiol ar gyfer rheoli, monitro a gwerthuso’r Labordy Arloesi yn effeithiol er mwyn cyflawni nodau ac amcanion, allbynnau, canlyniadau ac effaith y prosiect
  • Gweithio gydag Ysgol Graddedigion yr Amgylchedd a chyfrannu at addysgu ar y radd Meistr mewn Newid Ymddygiad a graddau Meistr eraill
  • Cynrychioli’r Labordy Arloesi yn allanol
  • Cysylltu a gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau allanol priodol, i gefnogi anghenion cynghorau a chymunedau i roi datganiadau argyfwng hinsawdd ar waith
  • Rheoli ymgynghorwyr a staff allanol sy’n gyfrifol am ddarparu hyfforddiant ac ymgynghoriaeth
  • Paratoi deunydd marchnata a rhoi cyhoeddusrwydd i’r prosiect a’i weithgareddau

Unrhyw ddyletswyddau eraill y cytunwyd arnynt gyda’r Cyd-Brif Swyddog Gweithredol

I ddysgu mwy am y rôl, lawrlwythwch y disgrifiad swydd llawn:

Dylid anfon ceisiadau i vacancy@cat.org.uk erbyn y dedlein gan nodi teitl y swydd yn y blwch Testun.

Dylid cyfeirio ymholiadau at vacancy@cat.org.uk

Rhaid llenwi ffurflen gais, ni dderbynnir CV.

Swydd Disgrifiad: Rheolwr y Labordy Arloesi

Darllenwch y dogfennau isod cyn cwblhau’ch cais: