Swyddog Marchnata a Chyfathrebu

Swyddog Marchnata a Chyfathrebu


Home » Swyddog Marchnata a Chyfathrebu

Rydym yn chwilio am Swyddog Marchnata a Chyfathrebu angerddol a hyderus i gynorthwyo gyda gweithgareddau hyrwyddo CyDA. Mae’n rôl amser llawn wedi’i lleoli yn CyDA gyda rhywfaint o weithio gartref.

Ynghylch CyDA

Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn elusen amgylcheddol sy’n adnabyddus yn rhyngwladol, mae’n ganolfan eco flaenllaw ar lefel fyd-eang, ac yn un o ddarparwyr pennaf addysg amgylcheddol ôl-raddedig yn y DU, wedi’i lleoli ger Machynlleth ym Mhowys, Canolbarth Cymru.

Mae CyDA yn cynnig ysbrydoliaeth, addysg a hyfforddiant ynghylch datrysiadau i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.

Mae’r prif weithgareddau yn cynnwys canolfan ymwelwyr lle y gall pobl weld datrysiadau ar waith, cyrsiau preswyl byr, hyfforddiant galwedigaethol a graddau ôl-raddedig mewn ystod eang o bynciau sy’n ymwneud â chynaliadwyedd, a chynigir cyrsiau a digwyddiadau ar-lein law yn llaw â chyfleoedd dysgu wyneb yn wyneb.

Manylion y Swydd

  • Cyfeirnod: MCO240805
  • Lleoliad: Gweithio yng nghanolfan eco CYDA, Machynlleth, Canolbarth Cymru yn rheolaidd a bydd rhywfaint o gyfle i wneud ychydig waith hyblyg gartref
  • Math o gontract: Parhaol
  • Yn gyfrifol i: Cyd Benaethiaid Marchnata a Chyfathrebu
  • Yn gyfrifol am: Dim cyfrifoldebau fel rheolwr llinell
  • Oriau: Amser llawn: 37.5 awr yr wythnos (1.0 FTE)
  • Diwrnodau gweithio: Dydd Llun i ddydd Gwener fel arfer, gan weithio gyda’r hwyr/ar benwythnosau o bryd i’w gilydd

Cyflog a buddion gweithiwr

£24,174.50 y flwyddyn

Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn cynnig lwfans gwyliau blynyddol hael o 25 diwrnod y flwyddyn, yn ogystal â gwyliau banc (7- 9 diwrnod fel arfer), a lwfans ychwanegol adeg y Nadolig (3 diwrnod fel arfer), yn ogystal ag 1 diwrnod ychwanegol am bob blwyddyn a weithir (hyd at 5 diwrnod).

Mae CAT hefyd yn cynnig pecyn deniadol o fuddion i weithwyr, gan gynnwys:

  • Cinio poeth am ddim a diodydd poeth am ddim o’r caffi pryd bynnag y byddwch yn gweithio o ganolfan eco CAT;
  • Gostyngiad o 40% ar nwyddau manwerthu a brynir oddi wrth CyDA;
  • Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant DPP, cymwysterau ac aelodaeth broffesiynol i’w hariannu gan CAT;
  • Cyfle i ddilyn 2 gwrs byr CAT y flwyddyn yn rhad ac am ddim;
  • Y cyfle i brynu diwrnodau gwyliau ychwanegol;
  • Cynllun ‘Seiclo i’r Gwaith’ (wedi’i gynllunio);
  • Cyfraniad pensiwn o 5%;
  • Hawliad mamolaeth a thadolaeth hael a budd-dal marw yn y swydd;
  • 2 awr y mis ar gyfer iechyd a lles cyffredinol a 2 awr y mis ar gyfer hyfforddiant yn y Gymraeg.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9yb 16 Medi 2024

Cyfweliadau i’w cynnal: Wythnos yn dechrau 23/30 Medi 2024 (ar safle)

Dyddiad cychwyn disgwyliedig: cyn gynted ag sy’n bosib

Trosolwg o’r Swydd

Bydd y Swyddog Marchnata a Chyfathrebu yn canolbwyntio ar gynhyrchu cynnwys ysgrifenedig a gweledol o ansawdd uchel ar draws amrediad o gyfryngau, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, cynnwys ar gyfer y we, negeseuon e-bost hyrwyddo, deunyddiau wedi’u hargraffu, datganiadau i’r wasg ac erthyglau nodwedd.

Gan weithio yn y tîm marchnata a chyfathrebu, byddwch yn hyderus wrth drosi strategaeth a chynllun marchnata a chyfathrebu CyDA yn gynnwys ysgrifenedig ar gyfer gwahanol lwyfannau a chyhoeddiadau. Bydd y rôl yn cynnig cymorth wrth hyrwyddo holl feysydd gwaith CyDA, gan gynnwys helpu gyda rhestru ar-lein a gwaith hysbysebu arall, cynorthwyo gyda digwyddiadau yn CyDA ac mewn mannau eraill.

Bydd gennych chi brofiad o ysgrifennu copi a golygu, a gallu amlwg i addasu eich copi i fod yn addas i wahanol lwyfannau a chynulleidfaoedd, yn ogystal â sgiliau prawfddarllen cadarn a llygad dda am y manylion.

Rydym yn aml yn gweithio yn unol â therfynau amser tynn, felly byddwch yn hapus i weithio’n gyflym ac yn effeithiol i greu cynnwys cadarn ac a fydd yn cael effaith, gan gefnogi’r strategaeth farchnata a chyfathrebu.

Mae hon yn rôl allweddol wrth helpu i gynorthwyo a hyrwyddo cenhadaeth CyDA i ysbrydoli, hysbysu a galluogi dynoliaeth i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.

Prif Gyfrifoldebau

Dyletswyddau cyffredinol

  • Cyfrannu at waith cynllunio a’r strategaeth farchnata a chyfathrebu.
  • Cyfrannu at waith marchnata a chyfryngau ar draws CyDA yn ôl y gofyn.
  • Cynnig cymorth a chyflenwi yn lle eraill yn y tîm yn ôl y gofyn.
  • Cynnig cymorth gyda dyletswyddau gweinyddol gan gynnwys codio anfonebau, taflenni amser a’r holl waith papur arall.
  • Unrhyw ddyletswyddau priodol eraill sy’n cael eu diffinio gan y rheolwyr adrannol.

Dyletswyddau sy’n rhai penodol i’r Swyddog Marchnata a Chyfathrebu

  • Sicrhau a chreu cynnwys o ansawdd uchel sy’n cefnogi cynlluniau cyfathrebu a marchnata.
  • Ysgrifennu, golygu copi a phrawfddarllen cynnwys gan gynnwys blogiau ar gyfer gwefan CyDA a chylchgrawn mewnol CyDA ar gyfer ei chefnogwyr, Clean Slate, a chyfathrebu allweddol arall ar draws y sefydliad.
  • Gweithio gyda’r Swyddog Marchnata Digidol a’r Cyd Benaethiaid Marchnata a Chyfathrebu er mwyn cynllunio, ysgrifennu a golygu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys copi ar gyfer fformatiau amlgyfrwng.
  • Cynllunio a chipio cynnwys fideo a lluniau o weithgareddau CyDA at ddibenion hyrwyddo a chyfathrebu.
  • Cynorthwyo pob agwedd ar weithgarwch hyrwyddo CyDA, gan gynnwys mynychu digwyddiadau a ffeiriau, gosod hysbysebion a diweddaru gwaith rhestru ar-lein, a hyrwyddo trwy gyfrwng rhestrau postio allanol, taflenni hysbysebu, posteri ac ysgrifennu cyflwyniadau.
  • Gweithio gyda dylunydd graffig CyDA er mwyn helpu i gynhyrchu deunydd hysbysebu i’w argraffu.
  • Archwilio’n rheolaidd bod deunyddiau hyrwyddo ar y safle ar gael a’u bod yn cynrychioli’r sefyllfa ddiweddaraf.
  • Gwneud gwaith ymchwil y farchnad a dadansoddi er mwyn cyfrannu at strategaethau hyrwyddo.
  • Bod yn ymwybodol o’r materion a’r datrysiadau amgylcheddol diweddaraf.
  • Cyflawni tasgau gweinyddol dyddiol er mwyn cynorthwyo gweithgareddau’r adran.

I ddysgu mwy am y rôl, lawrlwythwch y disgrifiad swydd llawn:

Dylid anfon ceisiadau i vacancy@cat.org.uk erbyn y dedlein gan nodi teitl y swydd yn y blwch Testun.

Dylid cyfeirio ymholiadau at vacancy@cat.org.uk

Rhaid llenwi ffurflen gais, ni dderbynnir CV.

Swydd Disgrifiad: Swyddog Marchnata a Chyfathrebu

Darllenwch y dogfennau isod cyn cwblhau’ch cais: