Astudiwch yn CyDA
YSGOL GRADDEDIGION YR AMGYLCHEDD
ARCHWILIO EIN CYRSIAU
Dewiswch rhwng ein cyrsiau ôl-raddedig amser llawn a rhan-amser, gan ddarganfod sut y gallwch chi feithrin y sgiliau y mae eu hangen arnoch er mwyn helpu i sicrhau byd mwy cynaliadwy.
Nifer cyfyngedig o leoedd ar gael ar gyfer mynediad Medi 2024, gwnewch gais cyn gynted â phosibl i beidio â cholli allan.
YMUNWCH Â NI AR DDIWRNOD AGORED
Pam astudio gyda ni?
Cychwynnwch ar daith addysgol drawsnewidiol trwy astudio yn Ysgol Graddedigion yr Amgylchedd CyDA, gan ddatgloi byd o gyfleoedd.
Bydd astudio ar un o’n cyrsiau ôl-raddedig* yn eich helpu i feithrin gwybodaeth, ysbrydoliaeth a rhwydweithiau er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn yn eich maes wrth i chi archwilio dull gweithredu integredig ar gyfer cynaliadwyedd sy’n ystyried y darlun mawr.
- Cael budd gan 50 mlynedd o brofiad CyDA ym maes cynaliadwyedd.
- Manteisio ar y dewisiadau astudio hyblyg sydd ar gael, gan ganiatáu i chi fwynhau ymweliadau astudio trochol i CyDA neu astudio o bell yn llwyr. Gallwch ddewis astudio eich cwrs dan drefniant rhan-amser neu amser llawn.
- Cyfle i ymestyn eich rhwydweithiau trwy gyfrwng cymuned myfyrwyr CyDA a chyfarfod cyd fyfyrwyr sy’n teimlo’n angerddol ynghylch sicrhau newid.
- Dysgu gan ddarlithwyr arbenigol a siaradwyr gwadd blaenllaw o’r diwydiant, a meithrin profiad a sgiliau ymarferol gyda dull gweithredu ymarferol dysgu trwy wneud unigryw CyDA.
- Sicrhau cymhwyster ar gwrs a gaiff ei gydnabod ar draws y byd ac a ddarparir gan CyDA a’i ddilysu gan ein prifysgolion partner.
- Ymuno â rhwydwaith graddedigion sy’n tyfu a defnyddio eich sgiliau a’ch gwybodaeth i wneud gwahaniaeth go iawn trwy gyfrwng amrywiaeth o lwybrau gyrfa.
Gweithredwch nawr ar gyfer dyfodol cynaliadwy – ymunwch â ni yn ystod diwrnod agored neu ewch ati i lenwi eich cais heddiw.
*Ar hyn o bryd dim ond trwy’r Saesneg y cynigir ein cyrsiau ol-raddedig gan mai Prifysgol Dwyrain Llundain (UEL) a Phrifysgol John Moores Lerpwl (LJMU) sy’n achredu ein graddau.
Roedd strwythur hyblyg y cwrs yn golygu bod modd i mi astudio gyda CyDA. Gydag wythnosau addysgu ar y safle sy’n arbennig o ddwys, law yn llaw â threfniant astudio o bell, roeddwn yn gallu sicrhau bod fy astudiaethau yn cyd-fynd â’m bywyd, ac roeddwn yn gallu ymdrochi yn, cael fy ysbrydoli gan a meithrin cyfeillgarwch newydd agos ar y safle ac yng nghymuned unigryw CyDA, sy’n cynnwys myfyrwyr, tiwtoriaid a rhwydwaith eang y graddedigion.
Elliott Harker Dempsey – Graddedig CyDA
Ffioedd a Chyllid
Myfyrwyr Cyfredol
Cychwyn ar eich cais
Cysylltwch â ni
A hoffech chi gael gwybod mwy am gwrs neu am y profiad o astudio yn CyDA? Anfonwch neges at ein staff – byddant yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi.