CyDA yn cyhoeddi Cyd-Brif Swyddogion Gweithredol dros dro

CyDA yn cyhoeddi Cyd-Brif Swyddogion Gweithredol dros dro


Home » CyDA yn cyhoeddi Cyd-Brif Swyddogion Gweithredol dros dro

Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) wedi cyhoeddi penodiad y Pennaeth Datblygu Eileen Kinsman a’r Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau Paul Booth yn Gyd-Brif Swyddogion Gweithredol dros dro tra bod y gwaith o recriwtio ar gyfer y swydd barhaol yn mynd yn ei flaen.

Fel aelodau o Uwch Dîm Rheoli CyDA, mae Eileen a Paul wedi helpu i arwain llwyddiant y sefydliad dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gan gynnwys datblygu strategaeth sefydliadol newydd, lansio Canolfan a Labordy Arloesi Prydain Di-garbon CyDA, a chyflwyno addysg amgylcheddol CyDA yn llwyddiannus yn ystod COVID-19.

Mae Eileen wedi bod yn Bennaeth Datblygu yn CyDA ers 2018, gan arwain ar gynllunio ac ariannu prosiectau pwysig megis y Ganolfan a’r Labordy Arloesi, datblygiadau arfaethedig i ganolfan eco CyDA, a goruchwylio timau codi arian, marchnata, cyfathrebu a pholisi CyDA.

Daw â phrofiad arwain sylweddol i’r swydd, gyda’i rolau blaenorol yn cynnwys aelod o dîm arwain Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a nifer o flynyddoedd gydag elusennau mawr, gan gynnwys Achub y Plant ac Amnest. Daeth i CyDA yn gyntaf rhwng 2001 a 2004 pan oedd yn Gyfarwyddwr Gweinyddiaeth.

Eileen Kinsman
Cyd-Brif Swyddogion Gweithredol dros dro Eileen Kinsman

Fel Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau, mae Paul wedi goruchwylio datblygiad gweithrediadau mewnol CyDA ac wedi arwain ar reolaeth ariannol y sefydliad ers 2019, gan gynnwys ymdrin yn llwyddiannus â heriau COVID-19 a helpu i adeiladu sefydliad sy’n fwy cadarn yn ariannol.

Mae gan Paul dros 30 mlynedd o brofiad fel cyfrifydd siartredig ac, yn fwyaf diweddar, treuliodd 18 mlynedd yn arbenigo mewn darparu cefnogaeth a chyngor i’r sector elusennol.

Paul Booth
Cyd-Brif Swyddogion Gweithredol dros dro Paul Booth

Dywedodd Mick Taylor, Cadeirydd Ymddiriedolwyr CyDA:

“Mae gan CyDA gynlluniau mawr i ehangu ein gwaith addysg ac allgymorth dros y blynyddoedd nesaf ar adeg pan mae gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth yn bwysicach nag erioed.

“Mae’r profiad y daw Eileen a Paul ar y cyd i’r rôl hon yn golygu eu bod mewn sefyllfa ddelfrydol i ymgymryd ag arweinyddiaeth CyDA yn ystod y cyfnod cyffrous hwn yn natblygiad y sefydliad.”

Dywedodd Eileen a Paul:

“Rydym wrth ein bodd i arwain y sefydliad ardderchog hwn ar adeg pan fo’n haddysg amgylcheddol a’n gwaith ymchwil yn dra hanfodol a’r galw amdanynt yn fwy nag erioed.

“Rydym yn disgwyl ymlaen yn fawr iawn at weithio gyda staff, gwirfoddolwyr, cefnogwyr a myfyrwyr CyDA yn ogystal â’r gymuned ehangach wrth i ni ddechrau ar gyfnod newydd cyffrous yn hanes bron-50-mlynedd CyDA.

Disgwylir y bydd y trefniant dros dro mewn lle am 6-12 mis tra bod y gwaith o recriwtio ar gyfer y swydd barhaol yn mynd yn ei flaen. Bydd rhagor o wybodaeth am y recriwtio hwnnw yn cael ei rannu yn y flwyddyn newydd.