Canolfan y Dechnoleg Amgen yn symud prosiect gwerth miliynau o bunnoedd i’r cyfnod datblygu

Canolfan y Dechnoleg Amgen yn symud prosiect gwerth miliynau o bunnoedd i’r cyfnod datblygu


Home » Canolfan y Dechnoleg Amgen yn symud prosiect gwerth miliynau o bunnoedd i’r cyfnod datblygu

Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen wedi penodi’r cwmni penseiri o fri rhyngwladol, Haworth Tompkins, a’r arbenigwyr cynllunio a datblygu, Turley, o dan gonsortiwm a arweinir gan Faithful & Gould – i arwain uwchgynllun uchelgeisiol sydd â’r nod o greu profiad yr ymwelydd o’r radd flaenaf yng nghanolfan eco canolbarth Cymru.

Wedi’i chefnogi gan gyllid o Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU, bydd Canolfan y Dechnoleg Amgen yn awr yn ymgymryd â gwaith ymchwil ac ymgynghori helaeth â phobl leol, busnesau, partneriaid a rhanddeiliaid er mwyn helpu i ddatblygu achos busnes cadarn a fydd yn sail i’r achos dros fuddsoddi yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Mae’r cynnig ymhlith y Portffolio ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru, a bydd yr achos busnes yn helpu i nodi’r cais gan y Fargen Dwf, ochr yn ochr â’r trosoledd sector preifat a ragwelir mewn arian cyfatebol, a fydd yn dod â’r cynlluniau i realiti.

Yn elusen amgylcheddol, canolfan eco a darparwr addysg amgylcheddol ôl-raddedig blaenllaw yn y DU, bydd y prosiect arfaethedig yn arwain at greu mannau newydd ar gyfer addysg mewn atebion cynaliadwy; ardaloedd i ddarparu sgiliau gwyrdd ar gyfer y dyfodol; a phrofiad twristiaeth o’r radd flaenaf er mwyn ysbrydoli llawer mwy o bobl i weithredu ar atebion amgylcheddol.

Bydd cynlluniau’n cael eu llunio gan waith ymchwil ac ymgynghori cyhoeddus dros y misoedd nesaf – gyda’r cynigion yn canolbwyntio ar drawsnewid gallu Canolfan y Dechnoleg Amgen i ddarparu’r sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen i sicrhau dyfodol digarbon a chymdeithas gynaliadwy, gan wneud cyfraniad sylweddol i economi canolbarth Cymru ar yr un pryd.

Dywedodd Eileen Kinsman, Cyd-Brif Weithredwr Dros Dro Canolfan y Dechnoleg Amgen:

“Mae gan Haworth Tompkins nid yn unig brofiad cadarn ond, yn hollbwysig, mae ganddyn nhw ddealltwriaeth a gwerthfawrogiad dwfn o brosiectau sy’n cael eu gyrru gan yr amgylchedd – gan roi pob hyder i ni y byddan nhw’n helpu i wireddu ein gweledigaeth.

“Yn y cyfamser, bydd ein gwaith gyda Turley a phartneriaid consortiwm eraill, gan gynnwys y Swyddfa Wledig ar gyfer Pensaernïaeth ac Ecoleg Hanfodol, yn dod â chyfoeth o brofiad i’r prosiect a bydd yn chwarae rhan bwysig yn y cyfnod datblygu.

“Mae ymgynghori cymunedol wrth wraidd ein cynlluniau, ac rydyn ni’n gyffrous i symud ymlaen i’r cam datblygu nesaf hwn gyda’n partneriaid newydd – gan greu cyfleoedd i bobl leol, busnesau, aelodau, myfyrwyr a rhanddeiliaid fel ei gilydd ddweud eu dweud ar ddyfodol Canolfan y Dechnoleg Amgen er mwyn sicrhau ein bod yn creu’r manteision gorau posibl i bobl, amgylchedd ac economi canolbarth Cymru.”

Dywedodd Lucy Picardo, Cyfarwyddwr Haworth Tompkins a chyfarwyddwr y prosiect:

Fel cyd-sylfaenwyr Architects Declare, rydyn ni’n ymwybodol iawn o’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth y mae’r blaned yn ei wynebu a’r angen dybryd i gymryd camau cadarnhaol, radical. Fel tîm, mae dylunio adfywiol wrth wraidd ein gwaith. Rydyn ni’n arbennig o gyffrous i fod yn gweithio gyda Chanolfan y Dechnoleg Amgen ar y prosiect hwn. Bydd yn adeiladu ar ein profiad a’n diddordeb ein hunain i fynd ymhellach, gan fabwysiadu egwyddorion adfywio i sicrhau effeithiau cadarnhaol (yn hytrach na niwtral) hirdymor, ar gyfer y gymuned a’r amgylchedd.

“Bydd 2023 yn nodi 50 mlynedd o fodolaeth Canolfan y Dechnoleg Amgen. Ein cenhadaeth ar gyfer y prosiect hwn yw cefnogi Canolfan y Dechnoleg Amgen i barhau i addysgu cynulleidfaoedd, ysgogi sgyrsiau ac ysbrydoli newid cadarnhaol mewn ymddygiad am y 50 a mwy o flynyddoedd nesaf.”

Ychwanegodd Andy Rumffitt, Uwch Gyfarwyddwr a Phennaeth Achosion Busnes a Chyllid Turley:

“Rydyn ni’n falch iawn o allu parhau â’n hachos busnes a’n cymorth ymgynghori ar gyfer y gwaith o ehangu’r Ganolfan y Dechnoleg Amgen fyd-enwog – prosiect gwerth £25 miliwn. Ers dros 45 o flynyddoedd, mae Canolfan y Dechnoleg Amgen wedi bod yn wely prawf ysbrydoledig ar gyfer syniadau a thechnolegau ecogyfeillgar, ac yn ganolfan meddwl a dysgu cynaliadwy cyfannol. Mae’n ased allweddol i Gymru a’r DU, ac mae ei angen yn awr yn fwy nag erioed.”

Bydd cyfres o ddigwyddiadau cymunedol yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen ym Machynlleth ac yn rhithwir yn cael eu cynnal drwy gydol misoedd Mawrth ac Ebrill. Bydd cyfle yn y digwyddiadau hyn i gwrdd â phartneriaid y prosiect, clywed am y cynlluniau, a rhannu barn. I gael gwybod mwy amdanynt, i gymryd rhan yn yr arolwg, ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau’r prosiect, ewch i gwefan Canolfan y Dechnoleg Amgen – cy.cat.org.uk/cynlluniau.

Llinell Amser y Prosiect:

  • 2019 – Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen yn cymryd rhan mewn ymgyngoriadau cyhoeddus a thrafodaethau ar Fargen Twf Canolbarth Cymru ynghyd ag ystod eang o sefydliadau a rhanddeiliaid allweddol o bob rhan o’r rhanbarth.
  • 2019-2020 – Mae Cynllun Strategol Canolfan y Dechnoleg Amgen ar gyfer 2020-2023 yn cael ei ddatblygu, gan ganolbwyntio ar yr angen am newid sylweddol mewn gweithgareddau er mwyn cael yr effaith fwyaf posibl ar atebion i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth. Mae buddsoddi mewn darparu sgiliau, creu profiad newydd ysbrydoledig i ymwelwyr, ac allgymorth digidol i gyrraedd cynulleidfa ehangach ymhlith yr amcanion sefydliadol allweddol.
  • Mehefin 2020 – Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen yn cyflwyno Achos Amlinellol Strategol drafft i Fwrdd Tyfu Canolbarth Cymru i’w gynnwys ym Mhortffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru. Mae hyn yn rhoi trosolwg o’r weledigaeth ar gyfer datblygu cyrchfan twristiaeth gynaliadwy flaenllaw a chanolfan sgiliau cynaliadwy ranbarthol fel rhan o’r gwaith datblygu mawr ar gyfer canolfan eco Canolfan y Dechnoleg Amgen.
  • Medi 2021 – Mae prosiect Canolfan y Dechnoleg Amgen yn cael ei nodi fel ymgeisydd am gyllid fel rhan o Bortffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru (gwerth £110m), ochr yn ochr â sefydliadau gan gynnwys Camlas Trefaldwyn a Phrifysgol Aberystwyth.
  • Tachwedd 2021 – Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen yn sicrhau cyllid gan Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU i gefnogi astudiaethau dichonoldeb a chamau datblygu ar gyfer y cam nesaf tuag at sicrhau cyllid Bargen Twf Canolbarth Cymru.
  • Tachwedd 2021 – Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen yn penodi’r ymgynghorwyr cynllunio a datblygu, Turley, i fireinio’r Achos Amlinellol Strategol.
  • Rhagfyr 2021 – Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen yn lansio proses dendro gyhoeddus, gan wahodd ceisiadau gan ymgynghorwyr i gefnogi’r gwaith o ddatblygu astudiaethau dichonoldeb manwl ar gyfer y prosiect.
  • Ionawr 2022 – Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen yn penodi Haworth Tompkins a Faithful & Gould i ddatblygu cam nesaf y prosiect: datblygu’r Achos Busnes Amlinellol, gan gynnwys uwchgynllun safle a phrofiad yr ymwelydd.
  • Gorffennaf 2022 – Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen yn cyflwyno’r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y cam nesaf ym mroses Bargen Twf Canolbarth Cymru.
  • 2022-23 – Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen yn datblygu Achos Busnes Llawn ar gyfer y prosiect ar gyfer camau olaf gwneud penderfyniadau Bargen Twf Canolbarth Cymru.
  • Gwanwyn 2023 – Dyddiad cychwyn posibl ar gyfer Cam 1 datblygu’r ganolfan eco.

Mae astudiaethau dichonolrwydd yn cael eu hariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Adfywio Cymunedol y DU.

COFRESTRU AR E-BOST

Gallwch gael y wybodaeth am yr holl weithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein diweddaraf drwy gofrestru ar gyfer ein e-byst a'n dilyn ar gyfryngau cymdeithasol. Ac os hoffech chi gymryd rhan a chefnogi ein gwaith, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu fel aelod CyDA.