Ymweliadau Prifysgol
Ymweliadau Prifysgol
Myfyrwyr yn eistedd gyda’i gilydd ar wal gerrig mewn cae
Pecynnau dysgu sy’n gweddu i’ch anghenion
Dewiswch o blith rhaglenni parod neu bwrpasol ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig, a gyflwynir gan ein staff neu ein tiwtoriaid arbenigol. Yn addas ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio daearyddiaeth ddynol, daearyddiaeth ffisegol, gwleidyddiaeth amgylcheddol, ecoleg, gwyddor yr amgylchedd, peirianneg ynni adnewyddadwy, pensaernïaeth a deunyddiau a dulliau adeiladu gwyrdd.
Arweinir yr holl weithgareddau dysgu gan academyddion ac arbenigwyr yn y pwnc, a gellir eu cyflwyno ar y cyd â’ch dysgu chi eich hun.
Adeiladu cynaliadwy
Mae gan CyDA amryw o adeiladau ynni isel arloesol, sy’n cynnwys ffrâm bren, byrnau gwellt a darlithfa 150 sedd o bridd wedi ei gywasgu. Rydym yn cynnig profiad ymarferol mewn ystod eang o ddeunyddiau a thechnegau, megis plastr calch cywarch, fframiau pren, adeiladu â phridd, toeon gwyrdd (Systemau Draenio Cynaliadwy) ac eraill.
Ecosystemau, ecoleg a rheoli cynefinoedd
Gallwch astudio prosesau ecolegol a rheoli cynefinoedd ar gyfer bioamrywiaeth a darparu gwasanaethau ecosystem, gan ddefnyddio arolygon, monitro ac adnabod mewn ecosystemau amlddefnydd. Mae gan CyDA saith gwahanol math o gynefinoedd gan gynnwys 20 erw o goetir, llynnoedd, sgri a chwarel hynafol.
Peirianneg ynni adnewyddadwy
Gweithdai ymarferol yn arbrofi ag ynni solar thermol a ffotofoltäig, gwynt, micro-hydro, biomas a phympiau gwres. Mae’r holl systemau hyn ar waith yn CyDA.
Defnydd cynaliadwy o ddŵr
Mae CyDA yn hunangynhaliol o ran dŵr. Dysgu ymarferol ar sut yr ydym yn ei gasglu, dod ag ef i safon yfed, ei reoli a’i ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu ynni yn ogystal â golchi a choginio, ac yn trin ein holl wastraff yn unol â’n safonau uchel ein hunain. A’r cyfan yn digwydd ar y safle gan ddefnyddio ychydig iawn o ynni a heb niweidio’r amgylchedd.
Prydain Di-garbon
A all y DU reoli anghenion adnoddau diwydiant, amaeth, trafnidiaeth ac ynni wrth gyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net? Sut y gellir ei raddio i fyny i lefel fyd-eang? Mae ein prosiect ymchwil 8 mlynedd yn esbonio’r cyfan, gan ddefnyddio darlithoedd, dadleuon ac offer modelu ynni.
Lleisiau o’r Chwarel – hanes cymdeithasol CyDA
Mae data hanes llafar, taith ddarluniadol a thrafodaethau rhyngweithiol yn archwilio’r newid o gymuned fwyngloddio, trwy enedigaeth y mudiad amgylcheddol, byw yn gymunedol a hunangynhaliaeth i heriau’r presennol.
ARCHEBWCH EICH DOSBARTH MAES
Mae CyDA’n cynnig addysgu, bwyd a llety ar gyfer eich dosbarth maes mewn un pecyn hwylus.