Arddangosfa Y Bywyd a Fynnwn – galwad am gynigion gan fyfyrwyr

Arddangosfa Y Bywyd a Fynnwn – galwad am gynigion gan fyfyrwyr


Home » Arddangosfa Y Bywyd a Fynnwn – galwad am gynigion gan fyfyrwyr

Mae’n bleser gan Ganolfan y Dechnoleg Amgen a Phrifysgol Aberystwyth gydweithio ar yr arddangosfa ‘Y Bywyd a Fynnwn – Bywyd a’r Ddaear y Tu Hwnt i Covid-19’ ac i wahodd myfyrwyr o’r ddau sefydliad i ymateb i wahoddiad am gyfraniadau.

Y Syniad

Mae pandemig y coronafeirws, sy’n dal i fynd rhagddo, yn effeithio ar bob agwedd ar fywyd, ac mae byw gyda’r coronafeirws wedi amlygu llawer o’n ffyrdd arferol o fyw a bod, a hefyd ein ffyrdd o fyw ar y blaned hon, gan gynnwys ein hymwneud â’r byd y tu hwnt i fyd pobl. Mae Covid-19 wedi ein hatgoffa mewn modd difrifol o drist o’r rhyng-gysylltiadau yr ydym oll yn dibynnu arnynt, ac mae bygythiadau parhaus newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth yn tanlinellu hyn. Yn sgil y materion hyn, sydd oll yn ymblethu, mae arnom angen ymatebion diwylliannol, artistig a thechnolegol i’n helpu i ailddiffinio gweledigaethau newydd ynghylch yr hyn sy’n bwysig, a sut i ymwneud â realiti a pherthnasau ein planed, yn rhai dynol a’r tu hwnt i hynny.

Gan ddilyn y thema hon, gwahoddir myfyrwyr CyDA a Phrifysgol Aberystwyth (israddedig ac ôl-raddedig) i gyflwyno cynigion am gyfraniadau ysgolheigaidd, creadigol, neu rai sy’n pontio’r beirniadol a’r creadigol ar gyfer arddangosfa aml safle i’w chynnal yn CyDA a Phrifysgol Aberystwyth yn hwyrach yn y flwyddyn, ac mewn gofod ar-lein a fydd yn cael ei guradu gan y ddau sefydliad o fis Mehefin 2021 ymlaen.

Dywedodd Adrian Watson, Pennaeth Ysgol Raddedig yr Amgylchedd CyDA “Yn ystod eu cyrsiau mae myfyrwyr ôl-raddedig CyDA yn ennill y wybodaeth a’r sgiliau i allu ystyried atebion ymarferol i’r newid yn yr hinsawdd a cholledion bioamrywiaeth. Yn ystod un o fodiwlau craidd y cwrs, maent yn cymryd rhan mewn ymarferion dyfodoli lle maent yn ystyried ‘sut olwg fydd ar ddyfodol di-garbon?’ Mae’r arddangosfa hon yn gyfle i’n myfyrwyr roi eu syniadau ar waith yn greadigol.

Daw nifer o’n myfyrwyr nid yn unig o gefndir gwyddor yr amgylchedd ond hefyd pensaernïaeth a’r celfyddydau. Rydym felly yn edrych ymlaen at weld sut y byddant yn dehongli briff yr arddangosfa a pha gyfryngau ac arteffactau a grëir ganddynt er mwyn trafod sut beth fydd byd iach, cyfiawn a chreadigol ôl-Covid, yng nghyd-destun argyfyngau amgylcheddol a chymdeithasol? A pha gamau y gellir eu cymryd tuag at gyd-fodoli mewn modd mwy cynhwysol, moesegol a chynaliadwy o safbwynt ein cymdeithas a’n planed?”

Themâu

Bydd yr arddangosfa’n cael ei churadu gan grŵp o staff o’r ddau sefydliad a dylai’r cyfraniadau fynd i’r afael â thema gyffredinol yr arddangosfa ac ailddiffinio gweledigaethau newydd ynghylch yr hyn sy’n bwysig, a sut i ymwneud â realiti a pherthnasau ein planed, o unrhyw un o’r safbwyntiau canlynol, neu gyfuniad ohonynt:

  • Iechyd, lles, cenedlaethau’r dyfodol, gwaith, symudedd, a’r cartref
  • Cyfiawnder cymdeithasol, mynediad cyfartal i wasanaethau/lleoedd, cyflogaeth, cyfranogiad, a thegwch
  • Diwylliant, treftadaeth, hunaniaeth, cyfathrebu, creu a gwneud
  • Bioamrywiaeth, cadwraeth natur, adfywio, defnydd tir, bwyd
  • Allyriadau sero net, systemau ynni, dyfodol carbon isel, dylunio cynaliadwy

Dywedodd Kim Knowles, Uwch Ddarlithydd yn yr adran Ffilm, Theatr a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth “Drwy ddefnyddio gofod ar-lein a lleoliadau ffisegol yn CyDA a champws Prifysgol Aberystwyth ar gyfer yr arddangosfa hon, rydym yn annog myfyrwyr i fod yn greadigol o ran y cyfrwng y maent yn bwriadu ei ddefnyddio yn eu cyfraniadau. Rydym yn edrych ymlaen at weld y cyfraniadau, a all ddefnyddio unrhyw fath o gyfrwng – neu gyfuniad o gyfryngau – gan gynnwys ymhlith eraill: ysgrifenedig, llafar, fideo, gweledol, perfformiad, arteffactau a gosodiadau, gwe-gyfryngau a realiti estynedig neu rithiol”. 

Mae’r Bywyd a Fynnwn yn brosiect cynhwysol o ran rhyw. Croesawir prosiectau sy’n ystyried ac/neu’n adlewyrchu amrywiaeth profiad pobl yn ystod ac ar ôl Covid-19. Mae arddangosfa hefyd yn croesawu cyfraniadau yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Rhagor o wybodaeth

Bydd y gwahoddiad am gyfraniadau ar agor tan 31 Gorffennaf 2021, a disgwylir i’r arddangosfa ar-lein gael ei lansio ym mis Mehefin 2021, gan dyfu dros amser wrth i gynigion gael eu hychwanegu.

Cyhoeddir mwy o wybodaeth am yr arddangosfeydd ffisegol ac ar-lein maes o law.

Gall myfyrwyr weld mwy o fanylion ynghylch creu cynnig yma a chyflwyno eu cynigion drwy e-bostio ybywydafynnwn@aber.ac.uk / ybaf@aber.ac.uk  unrhyw bryd rhwng 1 Ebrill a 31 Gorffennaf 2021.

Ysgol Raddedig yr Amgylchedd

GWEITHREDWCH NAWR AR GYFER DYFODOL CYNALIADWY

Dysgwch mwy am ein cyrsiau ôl-raddedig a chofrestrwch ar gyfer ein e-newyddion i gael y wybodaeth ddiweddaraf.