Cadeiryddiaeth Bwrdd Ymddiriedolwyr CyDA yn newid dwylo

Cadeiryddiaeth Bwrdd Ymddiriedolwyr CyDA yn newid dwylo


Home » Cadeiryddiaeth Bwrdd Ymddiriedolwyr CyDA yn newid dwylo

Bydd Mick Taylor yn rhoi’r gorau i’w swydd fel Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Canlfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) ddiwedd mis Mawrth, a bydd Sally Carr yr Is-gadeirydd yn cymryd ei le.

Yn ystod ei ddegawd fel Cadeirydd, mae Mick wedi chwarae rhan ganolog yn datblygu ein trefniadau llywdraethu a rheoli a’n cyfeiriad strategol. Mae arweiniad Mick wedi helpu CyDA i fynd o nerth i nerth, gan ein rhoi mewn sefyllfa llawer cryfach ar gyfer cynyddu ein heffaith a’n dylanwad.

Wrth gyhoeddi ei fod yn gadael, dywedodd Mick:

“Mae wedi bod yn fraint o’r mwyaf i fod yn rhan o’r sefydliad unigryw hwn ar adeg pan mae ei waith ar atebion amgylcheddol mor gwbl hanfodol. Rwy’n falch iawn o’r hyn yr ydym wedi ei gyflawni gyda’n gilydd ac yn edrych ymlaen at weld CyDA yn chwarae rhan fwyfwy pwysig wrth helpu i roi’r sgiliau, gwybodaeth a’r ysbrydoliaeth i bobl adeiladu dyfodol gwell.”

Er ei fod yn gadael ei swydd fel Cadeirydd, bydd Mick yn dal i ymwneud â’r sefydliad mewn rôl gynghorol ac fel aelod annibynnol o’r grŵp llywio sy’n goruchwylio cynlluniau datblygu CyDA.

Dywedodd Eileen Kinsman, Cyd Brif Swyddog Gweithredol:

“Ni allwn ddiolch yn ddigonol i Mick am bopeth y mae wedi’i gyflawni yn ystod ei amser fel Cadeirydd. Mae Ymddiriedolwyr CyDA yn gwneud llawer iawn o waith y tu ôl i’r llenni – i gyd yn wirfoddol. Ni fyddem man lle’r ydym ni heddiw heb ymrwymiad ac ymroddiad grŵp mor arbennig o Ymddiriedolwyr, ac mae Mick wedi bod wrth galon hyn ers blynyddoedd lawer.”

Eileen Kinsman and Mick Taylor
Eileen Kinsman a Mick Taylor

Bydd Sally Carr, yr Is-gadeirydd cyfredol yn camu i rôl y Cadeirydd ac Andrew Pearman fydd yr Is-gadeirydd newydd.
Treuliodd Sally flynyddoedd lawer yn CyDA cyn dod yn Ymddiriedolwr – yn gwirfoddoli ac yn arwain timoedd o wirfoddolwyr ac, yn fwyaf diweddar fel arweinydd yr adran Codi Arian ac Aelodaeth, tan ei hymddeoliad yn 2019. Bydd yn dod â phrofiad helaeth mewn arweinyddiaeth, hyfforddiant datblygu, adeiladu tîm a hyfforddi i’w swydd newydd fel Cadeirydd, gan ein helpu ni yn ein gwaith hanfodol o roi i bobl y sgiliau, y wybodaeth a’r hyder sydd eu hangen arnynt i roi atebion i’r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth ar waith.

Bydd Sally Carr, yr Is-gadeirydd cyfredol yn camu i rôl y Cadeirydd ac Andrew Pearman fydd yr Is-gadeirydd newydd.
Meddai Sally am ei rôl newydd:

“Rwy’n disgwyl ymlaen yn fawr at ymgymryd â’r rôl newydd hon gyda CyDA, yn enwedig ar adeg mor gyffrous i’r sefydliad. Rwyf wedi bod yn gysylltiedig â CyDA ers nifer o flynyddoedd, a bydd cymryd rôl y Cadeirydd yn caniatau i mi barhau i helpu i lywio cyfeiriad yr elusen wrth i’n gwaith o fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ddod yn fwyfwy brys ac angenrheidiol.”

Sally Carr trustee
Sally Carr

Mae Andrew Pearman wedi bod yn Ymddiriedolwr gyda CyDA ers 2019. Mae ganddo gefndir mewn rheoli prosiectau TG yn y sector ynni a gwasanaeth, gan gynnwys gweithio i’r Grid Cenedlaethol a llywodraethau rhyngwladol wrth iddynt ddechrau’r newid i ynni adnewyddadwy.

Byddwn hefyd yn ffarwelio â Rosie Plummer, sydd wedi bod yn Ymddiriedolwr gyda CyDA ers bron i chwe blynedd ac wedi cyfrannu arbenigedd amhrisiadwy wrth gefnogi cenhadaeth CyDA.

Hoffem ddiolch yn fawr i chi Mick, Rosie a’n holl Ymddiredolwyr am bopeth yr ydych wedi ei wneud i CyDA dros y blynyddoedd.
Am ragor o wybodaeth am Fwrdd Ymddiriedolwyr CyDA, ewch i cat.org.uk/strategy-and-governance/

COFRESTRU AR E-BOST

Gallwch gael y wybodaeth am yr holl weithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein diweddaraf drwy gofrestru ar gyfer ein e-byst a'n dilyn ar gyfryngau cymdeithasol. Ac os hoffech chi gymryd rhan a chefnogi ein gwaith, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu fel aelod CyDA.