Prif Weithredwr CyDA yn camu o’r neilltu

Prif Weithredwr CyDA yn camu o’r neilltu


Home » Prif Weithredwr CyDA yn camu o’r neilltu

Heddiw, mae Bwrdd Ymddiriedolwyr CyDA wedi cyhoeddi ei fod wedi derbyn ymddiswyddiad y Prif Weithredwr, Peter Tyldesley.

Yn ystod cyfnod Peter fel Prif Weithredwr, arweiniodd dîm profiadol iawn wrth ddatblygu strategaeth pum mlynedd newydd CyDA a goruchwyliodd hefyd ymateb y sefydliad i bandemig COVID-19.

Yn ystod y cyfnod hwn hefyd lansiwyd Canolfan Prydain Ddi-garbon a Labordy Arloesi newydd CyDA ac aed drwy’r camau cynllunio ar gyfer profiad newydd i ymwelwyr a chanolfan sgiliau cynaliadwy.

Peter Tyldesley

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr CyDA, Mick Taylor:

“Ar ran Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a phawb yn CyDA, hoffwn ddiolch i Peter am arwain y tîm drwy heriau COVID-19 ac am helpu i osod y sylfeini ar gyfer y cam cyffrous nesaf yng ngwaith CyDA.

“Mae Peter yn gadael CyDA mewn sefyllfa gref i ehangu ei gweithgaredau a’i heffaith, gyda strategaeth gadarn ar waith a thîm profiadol wrth y llyw.”

Dywedodd Peter Tyldesley, y Prif Weithredwr sy’n ymadael:

“Bu’n fraint cael arwain tîm mor wych, gan adeiladu ar hanner canrif o brofiad CyDA mewn creu atebion amgylcheddol. Nid yw gwaith CyDA ar yr argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth erioed wedi bod yn bwysicach nac yn fwy brys. Edrychaf ymlaen at barhau i fod yn aelod o CyDA a chefnogi ei gwaith am flynyddoedd lawer i ddod.”

Bydd Uwch Dîm Rheoli CyDA yn arwain y sefydliad tra bod y Bwrdd yn cynllunio’r broses o drosglwyddo i Brif Weithredwr newydd. Bydd cyhoeddiad pellach ar gynlluniau olyniaeth yn cael ei wneud maes o law.