Bod yn gyfaill i’r gwenyn

Bod yn gyfaill i’r gwenyn

Home » Gweithgareddau i’r Teulu » Bod yn gyfaill i’r gwenyn

Pum ffordd syml a hwylus o gefnogi gwenyn a pheillwyr eraill yn eich gardd.

Mae peillwyr fel gwenyn, picwns a ieir bach yr haf yn hanfodol o ran creu a chynnal cynefinoedd ac eco-systemau iach a chynorthwyo i gynhyrchu bwyd. Ond mae gwyddonwyr yn dweud bod niferoedd peillwyr yn gostwng ledled y byd yn sgil newid hinsawdd byd-eang, dinistr cynefinoedd a defnydd eang iawn o blaladdwyr cemegol.

I helpu i adfer niferoedd y peillwyr rhaid cyflwyno newidiadau mawr i’r ffordd yr ydym yn cynhyrchu bwyd a rheoli’r tir. Ond mae yna bethau gwych y gallwch eu gwneud yn eich cartref er mwyn troi eich gofod awyr agored yn hafan i fywyd gwyllt.

Bod yn gyfaill i’r gwenyn mewn 5 ffordd syml

1. Grym blodau

Plannwch flodau, llwyni a choed s’n llawn neithdar i ddarparu bwyd i’r peillwyr drwy gydol y flwyddyn.

Gallwch brynu hadau blodau gwyllt brodorol y DU yn hawdd ar-lein, neu efallai bod cynllun cyfnewid hadau yn eich cymuned (ond cofiwch ddilyn canllawiau Covid-19 y llywodraeth). Mae coed helyg a choed ffrwythau sy’n blodeuo’n gynnar yn helpu gwenyn wrth iddynt ddihuno o’u cwsg gaeafol hir, felly peidiwch â’u tocio os ydynt yn tyfu’n naturiol.

Nectar rich apple blossom is a treat in May
Mae blodau coed afalau yn llawn neithdar ac yn wledd ym mis Mai.

2. Byddwch yn anniben – hwre!

Drwy dorri’r borfa yn llai aml, gadael coridorau bywyd gwyllt i ffurfio o amgylch a thrwy ganol eich gardd, a chaniatau blodau gwyllt fel dant y llew a hyd yn oed danadl i dyfu, byddwch yn denu amrywiaeth o bryfed, adar a mamaliaid i’ch gardd.

Rhowch gloddiau lle bu ffensys a waliau, sglodion coed lle bu fflagiau cerrig, gadewch bentyrrau o ddail, brigau a boncyffion i roi cysgod – ac fe welwch natur yn ffynnu yn eich gardd.

3. Gwaredwch y cemegau

Mae chwynladdwyr a phlaladdwyr yn niweidiol i beillwyr a nifer o greaduriaid eraill sy’n byw yn eich gardd. Yn lle hynny, ceisiwch ddenu pla reolwyr naturiol megis buchod coch cwta drwy dyfu planhigion llawn neithdar.

Mae buchod coch cwta yn hoffi bwyta 2 beth… plâu a phaill, mmm…blasus! Felly plannwch bethau megis ffenigl, melyn Mair, cennin syfi, wermod wen a milddail. Mae blodau fflat llydan yn fannau glanio da ac mae buchod coch cwta yn hoffi hynny!

4. Adeiladu gwesty chwilod

Beth yw gwesty chwilod? Strwythur amlhaen, amlwead yn eich gardd sy’n darparu cartref i lawer o wahanol fathau o bryfed, mamaliaid a hyd yn oed amffibiaid.

Gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau sy’n hawdd dod o hyd iddynt megis brigau, dail, conau pinwydd, cansenni bambŵ, potiau clai a briciau, gallwch greu cynefin hyfryd ar gyfer miloedd o greaduriaid cripian cropian. Bydd hefyd yn ddarn o brydferthwch gwyllt yn eich gardd.

Rydym wedi creu gweithgaredd ‘adeiladu gwesty chwilod’ i’ch helpu i greu ychwanegiad chwilod-gyfeillgar ffantastig yn eich gofod awyr agored.

Mae gerddi a balconïau yn llefydd grêt i gychwyn

5. Gofalu am y gwenyn

Gall rhoi mwy o sylw i’n cymdogion bywyd gwyllt gael effaith gadarnhaol arnynt hwy a ninnau. Gwnaed llwyth o ymchwil am beillwyr y DU, felly treuliwch ychydig amser arlein ac yn eich gofod awyr agored yn dod i adnabod ein ffrindiau prysur.

Rydym yn caru peillwyr yma yn CyDA felly rydym wedi creu arolwg gwyddonol i’r teulu peillwyr yn y cartref, y gallwch chi gymryd rhan ynddo. Rydym hefyd wedi creu gweithgareddau Dod i adnabod eich cymdogion bywyd gwyllt ac Adeiladu pwll bach.

COFRESTRU AR GYFER E-NEWYDDION

Am y diweddaraf o ran gweithgareddau, digwyddiadau a’n hadnoddau arlein, cofrestrwch i dderbyn e-negesau a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.