Gweithgareddau i’r Teulu

Gweithgareddau i’r Teulu

Home » Gweithgareddau i’r Teulu

Ydych chi’n chwilio am weithgareddau natur hwylus y gall y teulu roi cynnig arnynt gartref?

Ble bynnag yr ydych, byddwch yn greadigol gydag amrywiaeth o weithgareddau a luniwyd i ysbrydoli’r teulu cyfan.

Rhowch gynnig ar rai o’n gweithgareddau teuluol arbennig a dod i adnabod y bywyd gwyllt sydd ar garreg eich drws. Sbïo ar eich cymdogion bywyd gwyllt, denu bwystfilod bychain i’ch gardd a datblygu llygaid tylluan a chlustiau carw.

Rhannwch yr hyn yr ydych wedi ei weld, ei glywed neu wedi’i greu â’ch teulu a’ch ffrindiau – a chofiwch eu rhannu gyda ni hefyd! I rannu eich lluniau, postiwch nhw ar dudalen facebook CyDA neu tagiwch @centreforalternativetechnology ar Instagram. #CATatHome

Tyfu eich bwyd eich hun: Plannu hadau

Y Gwanwyn yw’r amser i ddechrau meddwl am…FWYD. Gellir plannu hadau llysiau a pherlysiau cynnar mewn tŷ gwydr neu hyd yn oed mewn man cynnes, heulog mewn ffenestr.
CLICIWCH YMA
trowel in a garden

Tyfu eich bwyd eich hun: plannu allan

Mae eich hadau wedi egino ac yn blanhigion ifanc iach, ond maent yn mynd ychydig yn fawr ar gyfer eu potiau bach. Mae’n amser i’w plannu allan yn y ddaear.
CLICIWCH YMA
gwenyn yn agosáu blodyn yr haul

Bod yn gyfaill i’r gwenyn

Pum ffordd syml a hwylus i gefnogi’r gwenyn a pheillwyr eraill yn eich gardd.
CLICIWCH YMA
Y Pasg yn CyDA

Adeiladu pwll bach

Gallwch ddenu bywyd gwyllt i’ch gardd gyda phwll bach hawdd-ei-adeiladu!
CLICIWCH YMA

Dod i adnabod eich cymdogion ym myd natur

Nid ydym bob adeg yn sylwi ar ‘fynd a dod’ y creaduriaid bach sy’n rhannu ein byd, ond drwy sefyll a bod yn dawel gallwn ddechrau dod i adnabod ein cymdogion ym myd natur.
CLICIWCH YMA

Gwneud eich cwadrat eich hun

Byddwch yn dditectif natur go iawn a chanfod pwy sy’n byw yn y lleiaf o’ch corneli awyr agored.
CLICIWCH YMA
nesting box

Adeiladu blwch nythu ar gyfer yr adar

Adeiladwch flwch adar a chreu cwtsh bach clyd lle gall eich cymdogion pluog swatio dros y gaeaf.
CLICIWCH YMA

Penseiri Natur: Adeiladu Nyth

Archwiliwch fyd anhygoel nythod adar a rhowch gynnig ar adeiladu un gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau naturiol sydd ar gael yn hawdd.
CLICIWCH YMA
butterfly

Peillwyr yn eich cartref – arolwg gwyddonol i’r teulu

Archwiliwch a dysgwch am y byd naturiol rhyfeddol a chyfrannu at wybodaeth helaeth dyn drwy gymryd rhan yn y prosiect gwyddonol hwn.
CLICIWCH YMA
Golwg o’r awyr o dref yn dangos pelydrau golau’r haul

Cardiau post o’r dyfodol

Anfonwch neges atom o’r dyfodol! Defnyddiwch eich dychymyg i ddweud wrthym sut olwg fydd ar y byd yn 2030 yn eich barn chi.
CLICIWCH YMA
hedgehog among autumn leaves

Adeiladu tŷ draenog

Crewch dŷ draenog yn eich gardd a helpu i gefnogi’r creaduriaid nos pigog a swil hyn
CLICIWCH YMA

Archwilio â’ch synhwyrau: yn un â natur

Rhyddhewch eich anifail mewnol a gweld y byd mewn ffordd wahanol.
CLICIWCH YMA

Adeiladu gwesty chwilod

Helpwch y bywyd gwyllt yn eich gardd i ganfod lle diogel i guddio drwy adeiladu gwesty chwilod aml-lawr.
CLICIWCH YMA
Kid with camera

Bod yn gyflwynydd bywyd gwyllt

Ydych chi erioed wedi dymuno bod yn gyflwynydd bywyd gwyllt ar y teledu? Efallai mai dyma yw eich cyfle i ymarfer
CLICIWCH YMA

Gwaith llaw llesol

Beth am feithrin eich creadigrwydd drwy greu eich Mandala llonyddol eich hun allan o ddeunydd naturiol.
CLICIWCH YMA

Tynnu llun o’ch dyfodol di-garbon

Gallwn greu dyfodol cynaliadwy gwell. Rhannwch eich gweledigaeth am sut y bydd yn edrych!
CLICIWCH YMA

Dathlu’r ddaear: cynhadledd deuluol

Rhannwch yr hyn yr ydych chi’n ei garu am ein planed a thrafodwch beth y gallch chi ei wneud i helpu.
CLICIWCH YMA

Gwnewch boster gweithredu ar yr hinsawdd

Dathlwch y byd yr ydym yn byw ynddo drwy wneud poster gweithredu ar yr hinsawdd a rhannwch ef gyda ni.
CLICIWCH YMA

Gwneud bwydwr conau pinwydd i’r adar

Bwydwch yr adar mewn steil drwy wneud eich bwydwyr conau pinwydd eich hunain.
CLICIWCH YMA
Pinecone bird feeder

Lles yn ystod y gaeaf: dathlu gwisgo coeden

Bwydo’r adar, cael hwyl, a dathlu’r tymor trwy addurno eich hoff goeden yn yr awyr agored.
CLICIWCH YMA

MWY O WEITHGAREDDAU’N FUAN!

COFRESTRWCH I GAEL EIN E-NEWYDDION

Am y diweddaraf o ran gweithgareddau, digwyddiadau ac eitemau ar-lein, cofrestrwch i dderbyn e-negesau a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol