Adeiladu blwch nythu i’r adar

Home » Gweithgareddau i’r Teulu » Adeiladu blwch nythu i’r adar

Adeiladwch flwch nythu a chreu cwtsh bach clyd lle gall eich cymdogion pluog swatio dros y gaeaf.

Nid pobl yn unig sydd eisiau lle clyd i gwtsho lan ynddo yn ystod y gaeaf. Mae creaduriaid bach a mawr angen lle diogel, cynnes a sych i gysgodi ynddo yn ystod y diwrnodau oeraf, a does dim angen llawer o ddeunyddiau i greu lle felly. Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw bod ychydig yn anniben! Gadewch ddarnau o’ch gardd i dyfu’n wyllt. Mae porfa hir, pentyrrau o ddail a chompost i gyd yn gwneud cartrefi gwych i fywyd gwyllt dros y gaeaf.

Os ydych am fod yn greadigol y gaeaf hwn, beth am adeiladu blwch nythu ar gyfer yr adar gan ddefnyddio’r cyfarwyddiadau isod. Bydd angen oedolyn i’ch helpu drwy gydol y gweithgaredd hwn.

Bydd angen

  • Astell o bren FSC 15cm o led x 1.4m o hyd x 1.5-1.8cm o drwch sydd heb ei drin dan bwysedd
  • Pensil a thâp mesur
  • Llif
  • Hoelion
  • Stribyn o rwber gwrth-ddŵr
  • Dril
  • Dewisol: Llif/torrwr tyllau i wneud tyllau 3.2cm
  • Ysgol
  • Sgriwiau
  • Deunydd paentio diwenwyn
  • Oedolyn i roi help llaw

Cam 1

Chwliwch am y lle delfrydol ar gyfer eich blwch. Dylai fod mewn man cysgodol, tawel tua 3m o’r llawr ac yn wynebu’r gogledd/dwyrain i’w ddiogelu rhag ysglyfaethwyr ar y llawr a gormod o haul a glaw.

Pieces to make a birdbox

Cam 2

Mesurwch a thorrwch eich pren i’r maint cywir (efallai bydd angen cymorth oedolyn ar gyfer gwneud hyn). Os nad oes gennych dorrwr tyllau i wneud twll 3.2cm ar gyfer “drws ffrynt” gallwch ddefnyddio herclif i dorri sgwâr o’r un maint.

Cam 3

Hoeliwch y darnau at ei gilydd heblaw’r to. Mae’r cefn, ffrynt ac ochrau yn lapio o amgylch y gwaelod.

Bird nest box

Cam 4

Gosod y to. Bydd angen agor y blwch yn nes ymlaen i’w lanhau felly defnyddiwch sgriwiau i atodi stribyn gwrth-ddŵr i wneud colfach rhwng ymyl uchaf y to a’r bwrdd cefn. Gallwch ddefnyddio darn o diwb mewnol teiar neu ffelt doi.

rubber hinge
Colfach rwber

Cam 5

Byddwch yn greadigol. Dylai fod gennych flwch nythu wedi ei gwblhau yn awr. Gallwch ei addurno fel y dymunwch ond cofiwch ddefnyddio deunyddiau paentio diwenwyn

Cam 6

Rhoi eich blwch yn ei le. Driliwch dyllau arweiniol yn y plât cefn ar dop a gwaelod y blwch. Gan fod yn ofalus, rhowch y blwch yn ei le gan ddefnyddio ysgol, sgriwiau a rawlblygiau (os oes angen).

attaching a bird box
Tîm coedwig CyDA yn gosod blwch adar

 

COFRESTRU AR GYFER E-NEWYDDION

Am y diweddaraf o ran gweithgareddau, digwyddiadau a’n hadnoddau arlein, cofrestrwch i dderbyn e-negesau a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.