Tyfu eich bwyd eich hun: plannu allan

Tyfu eich bwyd eich hun: plannu allan

Home » Gweithgareddau i’r Teulu » Tyfu eich bwyd eich hun: plannu allan

Mae eich hadau wedi egino ac yn blanhigion ifanc iach, ond maent yn mynd yn rhy fawr ar gyfer eu potiau bach. Mae’n amser i’w plannu allan.

I blannu allan rhaid symud eich eginblanhigion sydd wedi gwreiddio yn ofalus o’u potiau cychwynnol i le a baratoir yn y ddaear neu i’w potiau ‘am byth’.

BETH FYDD EI ANGEN ARNOCH

  • Lle wedi ei baratoi yn yr ardd, neu
  • Potiau allanol mawr
  • Eich eginblanhigion
  • Can dŵr bach, piben ddŵr â chwistrell neu botel chwistrellu

CAM WRTH GAM

1. Paratoi cartref newydd eich eginblanhigyn

Bydd eich planhigyn bach angen digon o olau ond hefyd cysgod rhag heulwen uniongyrchol a gwyntoedd cryfion, felly dewiswch eich lleoliad yn ofalus. Os ydych yn plannu yn y ddaear, cliriwch unrhyw chwyn, palwch y pridd yn ysgafn a chasglwch unrhyw gerrig mawr neu sbwriel.

Os ydych yn defnyddio pot, gofalwch bod tyllau yn ei waelod (gall oedolyn eich helpu i wneud rhai os bydd angen). Rhowch haenen o raean neu gerrig ar waelod y pot fel bod dŵr yn gallu draenio drwy’r tyllau. Yna, llenwch y pot bron i’r top gyda chompost neu uwchbridd.

2. Gwneud twll

Naill ai yn y ddaear neu yn y pot, gwnewch dwll sy’n ddigon llydan a dwfn i ddal gwreiddgyff (pelen wreiddiau) eich planhigyn yn rhwydd. Os ydych yn plannu nifer o blanhigion gwnewch y tyllau yn ddigon pell wrth ei gilydd fel gan bob planhigyn ddigon o le i dyfu. Bydd angen mwy o le ar rai planhigion. Edrychwch ar-lein i weld faint o le sydd ei angen ar eich eginblanhigion.

3. Rhyddhau eich eginblanhigion

Mae rhyddhau’r eginblanhigion o’r pot yn gallu bod yn anodd am eu bod mor fregus. Mae hen lwy yn grêt ar gyfer sgwpio’r planhigyn bach o’r pot. Mae’n iawn os daw eich planhigion i gyd allan gyda’i gilydd, gallwch dynnu’r gwreiddiau ar wahân yn ofalus. Wrth drafod eginblanhigyn bach cydiwch ynddo wrth ddeilen yn hytrach na risgio niweidio’r coesyn bregus.

4. Plannu eich planhigion

Ar ôl eu rhannu dodwch un planhigyn (gwreiddiau’n gyntaf) i mewn i’r twll a gwasgu’r pridd yn ofalus amdano. Yna gallwch ychwanegu ychydig yn rhagor o bridd am waelod yr eginblanhigyn i wneud y coesyn yn fwy cadarn.

5. Dal y planhigyn i fyny

Os yw eich planhigyn yn ddringwr megis pys neu ffa, neu os yw’n mynd i dyfu’n uchel iawn (tomatos neu flodau haul), efallai bydd angen gosod rhywbeth iddo ddringo i fyny neu bwyso yn ei erbyn. Mae cansen fambŵ yn berffaith ar gyfer hyn ond mae gwialen syth gref yn gwneud y tro hefyd. Efallai bod gennych rai yn y pentwr tocio ers yn gynharach yn y flwyddyn.

6. Dŵr

Bydd angen dogn dda o ddŵr ar eich eginblanhigyn yn awr. Ond byddwch yn ofalus. Mae’r coesyn a’r dail yn dal i fod yn fregus felly peidiwch â’u boddi. Defnyddiwch gan dŵr bach, piben ddŵr â chwistrell neu botel chwistrellu.

7. Dyfrio’n rheolaidd

Bydd angen dyfrio ysgafn a rheolaidd ar eich eginblanhigyn, yn enwedig mewn tywydd poeth. Y ffordd orau i ddweud a oes syched ar eich planhigyn ifanc yw gwthio’ch bys yn ysgafn i’r pridd. Os yw’n teimlo’n sych, rhowch ychydig ddŵr iddo, ond os nad yw, gadewch ef am ddiwrnod neu ddau eto.

Yr amserau gorau i ddyfrio yw’n gynnar yn y bore neu gyda’r nos. Ond os yw planhigyn yn dechrau gwiwo, rhowch ddŵr iddo beth bynnag. Ceisiwch osgoi gwlychu’r dail (gal diferion o ddŵr ar y dail weithio fel chwyddwydr ac ar ddiwrnod heulog mae perygl iddynt losgi).

8. Golchi dwylo

Mae sawl math o facteria mewn pridd felly, ar ôl ei drafod, mae’n bwysig golchi’ch dwylo.

9. Rhannu eich cynnydd

Tynnwch luniau o’ch gardd a’u rhannu gyda ni. I rannu eich lluniau, postiwch nhw ar dudalen Facebook CyDA neu tagiwch @centreforalternativetechnology ar instagram. #CATatHome

COFRESTRU AR GYFER E-NEWYDDION

Am y diweddaraf o ran gweithgareddau, digwyddiadau a’n hadnoddau arlein, cofrestrwch i dderbyn e-negesau a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.