Penseiri Natur: Adeiladu Nyth

Penseiri Natur: Adeiladu Nyth

Home » Gweithgareddau i’r Teulu » Penseiri Natur: Adeiladu Nyth

Archwiliwch fyd anhygoel nythod adar a rhowch gynnig ar adeiladu un gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau naturiol sydd ar gael yn hawdd.

Hwre! Mae’r coed yn llenwi â dail ffres, blagur y blodau’n ffrwydro i fywyd, a’r dydd yn ymestyn, goleuo a chynhesu (gyda lwc!)

Arwydd arall, llai amlwg efallai, o’r amser bywiog hwn o’r flwyddyn yw’r prysurdeb yn y nythod. Ar ôl cael eu deor yn ofalus ac yna’u magi gan rieni ymroddgar yn gywion iach a chryf, mae’r adar bach yn ein gerddi yn paratoi i adael y nyth. Mae adar yn gwybod yn reddfol sut i adeiladu’r nyth berffaith i amddiffyn eu hwyau a’u cywion rhag y tywydd ac ysglyfaethwyr. Gan ddefnyddio deunyddiau naturiol, ydych chi’n meddwl y gallech roi cynnig arni? Tybiaf nad yw mor rhwydd ag y maen nhw’n gwneud iddo edrych.

BYDD ANGEN

Unrhyw ddeunyddiau naturiol y gallwch ddod o hyd iddynt megis:

  • Brigau
  • Dail
  • Porfa sych
  • Mwsogl
  • Plu

CAM WRTH GAM

1. Cychwynnwch ar y gwaelod

Cymerwch fwndel o borfa sych, gwellt neu frigau mân iawn. Gwnewch ddolen, yna gweu’r ddau ben i mewn i greu siâp crwn tebyg i nyth. Cofiwch archwilio brigau a gwialennod cyn cydio ynddynt rhag ofn bod drain arnynt!

2. Ei adeiladu

Dechreuwch yn fach ac ychwanegu brigau, gwialennod a dail gan eu gweu trwodd fel bod y deunyddiau’n twistio ac yn cydblethu â’i gilydd. Yna gwëwch ddarnau hirach o borfa i ddal y brigau at ei gilydd a helpu’r nyth i wrthsefyll dŵr.

3. Ei gwneud yn glyd

Ar ôl creu siâp powlen dynn, mae’n amser leinio’ch nyth a’i gwneud yn glyd. Bydd leinin o fwsogl, dail mân a phlu yn gwneud nyth gyfforddus lle gall y rhieni ddeor eu hwyau a chartref clyd ar gyfer y cywion bregus pan fyddant yn deor.

4. Lleoli eich nyth

Mae adar yn adeiladu eu nythod mewn amryw o lefydd. Mae rhai yn agored ac yn hawdd mynd i mewn iddynt, rhai wedi eu cuddio o’r golwg, rhai fry uwchben y ddaear a rhai ar y ddaear. Dewiswch leoliad yn eich tŷ neu ardd i arddangos eich nyth.

Pe byddai eich nyth yn cael ei defnyddio gan aderyn, byddai angen cysgod rhag y gwynt a’r glaw a lle diogel rhag ysglyfaethwyr. Beth am ei rhoi rhwng llyfrau ar silff uchel neu ar ben cwpwrdd. Peidiwch â dringo – gofynnwch i oedolyn gyrraedd mannau uchel i chi!

5. Adeiladu fel gwahanol adar

Mae gwahanol rywogaethau o adar yn adeiladu gwahanol fathau o nythod. Edrychwch isod ar rhai esiamplau a cheisiwch gopïo eu dyluniadau natur.

6. Golchi dwylo

Mae’n beth da i olchi dwylo ar ôl bod ym myd natur.

7. Share your nests

Hoffem weld dyluniad eich nyth. I rannu eich lluniau o’ch nyth, postiwch nhw ar dudalen facebook CyDA neu tagiwch @centreforalternativetechnology ar instagram. #CATatHome

COFRESTRU AR GYFER E-NEWYDDION

Am y diweddaraf o ran gweithgareddau, digwyddiadau a’n hadnoddau arlein, cofrestrwch i dderbyn e-negesau a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.