Ar agor ar hyn o bryd ar gyfer ymweliadau wedi’u trefnu ymlaen llaw yn unig (cyrsiau, digwyddiadau, Gwely a Brecwast, grwpiau, myfyrwyr) – darllen mwy
Peillwyr yn eich cartref – arolwg gwyddonol i’r teulu

Peillwyr yn eich cartref – arolwg gwyddonol i’r teulu

Home » Gweithgareddau i’r Teulu » Peillwyr yn eich cartref – arolwg gwyddonol i’r teulu

Archwiliwch a dysgwch am y byd naturiol anhygoel a chyfrannu at wybodaeth helaeth dyn drwy gymryd rhan yn y prosiect gwyddonol hwn.

Mae gwyddoniaeth dinasyddion yn bwysig oherwydd ni all gwyddonwyr proffesiynol gynnal astudiaethau mawr ac eang bob tro. Gall gwirfoddolwyr brwdfrydig fel chi helpu i lenwi’r bylchau a phrofi sut brofiad yw bod yn wyddonydd cartref.

Mae peillwyr fel gwenyn, picwns ac ieir bach yr haf yn hanfodol o ran creu a chynnal cynefinoedd ac ecosystemau a’n systemau bwyd byd-eang. Ond mae gwyddonwyr wedi dweud bod niferoedd y peillwyr yn gostwng ledled y byd yn sgil newidiadau hinsawdd byd-eang, dinistr cynefinoedd a defnydd plaladdwyr cemegol.

I gofnodi niferoedd y peillwyr, cynefinoedd ac amrywiaeth ledled Prydain, mae CyDA wedi uno gyda Gwyddoniaeth Dinasyddion ar gyfer Addysg mewn Datblygiad Cynaliadwy i greu arolwg peillwyr y gallwch gymryd rhan ynddo yn eich cartref.

Gallwch gwblhau’r arolwg cymaint o weithiau ag y dymunwch ond mae yna rai ‘rheolyddion gwyddonol’ (canllawiau) i sicrhau bod y data a gesglir yn deg.
Mae popeth sydd angen i chi ei wybod yn cael ei esbonio isod. Cyfrif hapus!

BYDD ANGEN

Cam wrth Gam

1. Gwneud cwadrat

Dyfais sgwâr pedair ochr syml yw cwadrat sydd, o’i osod ym myd natur, yn caniatáu i chi arsylwi a chofnodi’r hyn sy’n digwydd mewn lleoliad penodol. Mae’n ddarn o offer y gellir ei wneud gartref yn syml iawn gan ddefnyddio ein gweithgaredd Gwneud eich cwadrat eich hun.

2. Lawrlwytho’r arolwg

Gan ddefnyddio ffôn neu dabled lawrlwythwch yr arolwg drwy glicio yma.

Gallwch fewnbynnu eich canlyniadau all-lein ond bydd rhaid i chi ailgysylltu a chlicio ‘lanlwytho’ i anfon eich data. Yn ystod yr arolwg gallwch ddefnyddio pen a phapur (neu ddalen gyfrif) i gasglu eich data yn yr awyr agored.

3. Gwneud dalen gyfrif

Pan fyddwch yn barod i ddechrau cofnodi, bydd yn ddefnyddiol cael dalen gyfrif barod i nodi pa beillwyr sy’n glanio yn eich cwadrat – a gallwch gael hwyl yn gwneud un.

I lawr un ochr o ddarn o bapur gwnewch restr o’n peillwyr mwyaf cyffredin (gwenyn mêl, cachgi bŵm, picwns cyffredin, pryfed hofran, ieir bach yr haf a gwyfynod).

Pob tro y gwelwch beilliwr y tu mewn i’r cwadrat, nodwch hynny ar eich dalen ger yr enw cywir. Gallwch addurno ei dalen gyfrif â lluniau peillwyr a blodau gwyllt.

I weld esiampl o ddalen gyfrif syml cliciwch yma

4. Mynnwch ganllaw

I’ch helpu i adnabod gwahanol beillwyr, efallai bydd angen cymorth. Rydym wedi creu canllaw syml yma neu gallwch lawrlwytho canllaw mwy manwl yma.

5. Dewis eich lleoliad

Rydych bellach yn barod i fynd i’ch gofod awyr agored a dewis lleoliad eich arolwg.

Mae gofod awyr agored pawb yn wahanol; gall fod yn ardd, iard gefn neu falconi. Gall fod yn heulog, cysgodol, llawn planhigion, agos at goed neu efallai mai dim ond ychydig ddant y llew sy’n tyfu yno. Nodwch sut le yw eich gofod awyr agored, byddwch yn cofnodi hyn yn yr arolwg yn nes ymlaen.

6. Arolwg arsylwi 10 munud

Rydych bellach yn barod i gynnal yr arolwg. Gyda’r ddalen gyfrif, pen/pensil a’ch Canllaw adnabod wrth law, eisteddwch yn dawel ger eich cwadrat (digon agos i weld yn eglur ond cofiwch roi digon o le i’r peillwyr).

Ceisiwch gofnodi pob peilliwr sy’n disgyn o fewn eich cwadrat mewn 10 munud (gallwch ddefnyddio’r stopwats ar ffôn i gyfrif yr amser).

7. Lluniau peillwyr

Gall fod yn anodd adnabod llawer o beillwyr ar yr un pryd, yn enwedig pan fyddwch yn newydd i hyn, felly tynnwch luniau o’r peillwyr yn eich cwadrat.

Ceisiwch gynnwys y cynefin lle mae’r cwadrat wedi’i leoli. Gallwch ddefnyddio’ch lluniau i adnabod y peillwyr yn nes ymlaen a gallwch lanlwytho eich hoff lun i’r arolwg.

8. Lanlwytho eich canlyniadau

Ar ôl 10 munud, ailgysylltwch â’r rhyngrwyd a mewnbynnu eich data i’r arolwg ar-lein. Gofynnir am rai manylion hanfodol megis y dyddiad a’r amser, eich lleoliad, natur y cynefin ger eich cwadrat a’r tywydd. Gallwch hefyd lanlwytho eich hoff lun.

Yna, gallwch gofnodi nifer y peillwyr a welwyd gennych. Pan fyddwch yn pwyso ‘lanlwytho; bydd eich canlyniadau’n dod yn syth atom ni i’w coladu, eu dadansoddi a’u harchifo.

9. Rhannu eich canlyniadau

Byddem wrth ein bodd i weld sut aeth hi felly rhannwch eich lluniau ac unrhyw ganfyddiadau gwyddonol diddorol gyda ni gan ddefnyddio #pollinatorsathome.

 

COFRESTRU AR GYFER E-NEWYDDION

Am y diweddaraf o ran gweithgareddau, digwyddiadau a’n hadnoddau arlein, cofrestrwch i dderbyn e-negesau a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol