Cyhoeddi canllawiau newydd i helpu cynghorau i weithredu ar yr argyfwng hinsawdd

Cyhoeddi canllawiau newydd i helpu cynghorau i weithredu ar yr argyfwng hinsawdd


Home » Cyhoeddi canllawiau newydd i helpu cynghorau i weithredu ar yr argyfwng hinsawdd

Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) heddiw (11 Gorffennaf) wedi cyhoeddi cyfres newydd o argymhellion i helpu cynghorau’r DU i fynd i’r afael â’r Argyfwng Hinsawdd, yn seiliedig ar gyfres o weithdai gyda 10 o gynghorau Swydd Stafford.

Wedi’u hwyluso gan Labordy Arloesi Prydain Di-garbon CyDA – proses sy’n dwyn ynghyd amrywiaeth o randdeiliaid i rannu syniadau a thrafod atebion cynaliadwy i gyflawni sero net – a’u cefnogi gan Brifysgol Keele, daeth cynghorau a gymerodd ran ynghyd i archwilio rhwystrau ac i gyd-ddylunio atebion yn seiliedig ar eu profiadau hwy ac arbenigedd CyDA.

Yna, defnyddiwyd canfyddiadau’r gweithdai gan dîm CyDA i greu cyfres o argymhellion i gefnogi cynghorau eraill i weithredu ar yr argyfwng hinsawdd.

Daw wrth i dros 330 o gynghorau allan o 409 ddatgan Argyfwng Hinsawdd.

Dywedodd Dr Anna Bullen, Rheolwr Labordy Arloesi CyDA: “Ledled y DU, mae cynghorau eisoes wedi cydnabod yr angen brys i fynd i’r afael â newid hinsawdd ac maent wedi ymrwymo i weithredu – ond mae adnoddau cyfyngedig ac arbenigedd mewnol yn parhau i fod yn her ac yn rhwystr i gyrraedd di-garbon. Gobeithiwn y bydd rhannu dysgu ymarferol ac argymhellion mor eang â phosibl yn helpu cynghorau i gyrraedd y targedau hyn.

“Helpodd y broses y cyfranogwyr i ddeall yn well y rhwystrau i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, creu gweledigaeth ar gyfer eu sir, a nodi amcanion tuag at gyflawni eu nodau unigol a chyfunol ar draws nifer o themâu — o adnoddau i ymgysylltu â rhanddeiliaid a dysgu a rennir.

“O ganlyniad i’r Labordy, mae cynghorau Swydd Stafford bellach yn bwriadu cydweithio ar raddfa sirol i arbed arian, gweithio’n fwy effeithlon a chael gwell siawns o wneud cynnydd ar y cyflymder a’r raddfa sydd eu hangen – dyheadau sydd, heb os, yn cael eu rhannu gan gynghorau ledled y DU.”

I ddarllen yr adroddiad, ewch i www.cat.org.uk/innovation-lab-reports

Mae’r argymhellion ar gyfer cynghorau yn cynnwys:

  • Rhaid i wneuthurwyr penderfyniadau lefel uchel ac aelodau etholedig ystyried yr argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth a materion cysylltiedig ym mhob penderfyniad, gan wneud yr argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth yn eitem sefydlog ar agendâu cyfarfodydd rheolaidd
  • Ffurfio gweithgor bach o’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau o bob cyngor yn y sir neu’r rhanbarth i gydlynu gweithredu ar draws y cyngor ar yr hinsawdd
  • Sefydlu canolfan hinsawdd ranbarthol a arweinir yn annibynnol, gan gynnwys partneriaid allanol, i weithredu fel grŵp llywio ar gyfer pob mater sy’n ymwneud â mynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth – i weithio gyda’r gweithgor traws-gyngor
  • Adolygu strwythurau mewnol i leihau gweithio seilo a hyrwyddo cyfrifoldeb gwasgaredig gwirioneddol, gan ddefnyddio dulliau gweithredu mewn cynghorau eraill
  • Cynnwys ffocws ar gyfleoedd i gydweithio fel rhan o weithgor llywodraethu, gyda’r bwriad o greu gweithgorau i arwain ar bob maes
  • Rhannu cyfathrebiadau mewnol rheolaidd yn atgoffa staff o ddatganiad Argyfwng Hinsawdd y cyngor ac ymrwymiad i gyflawni sero net
  • Mynd i’r afael ag unrhyw wahaniaethau rhwng cynghorau mewn targedau a chwmpas sero-net, gyda’r bwriad o’u halinio
  • Darparu hyfforddiant cynhwysfawr ar draws pob maes gwasanaeth i gynnwys llythrennedd carbon, arweinyddiaeth, hwyluso, cydweithio a chyd-ddylunio
  • Dod â phobl ar draws y sir at ei gilydd i fapio rhanddeiliaid ar y cyd a llunio strategaeth ymgysylltu; darparu gweithdai a hyfforddiant ar ymgysylltu’n effeithiol â grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid lleol eraill
  • Cynnal gweithdy gyda swyddogion cyllid, swyddogion caffael ac uwch reolwyr o bob cyngor i ganolbwyntio ar adnoddau
  • Datblygu llwyfan a chymuned ar-lein gydweithredol draws-gyngor (e.e. drwy Microsoft Teams) i greu ‘lle diogel’ i rannu gwybodaeth, cynnig syniadau a gofyn cwestiynau

COFRESTRU AR E-BOST

Gallwch gael y wybodaeth am yr holl weithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein diweddaraf drwy gofrestru ar gyfer ein e-byst a'n dilyn ar gyfryngau cymdeithasol. Ac os hoffech chi gymryd rhan a chefnogi ein gwaith, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu fel aelod CyDA.