Cyhoeddiad am Festival UK* 2022

Cyhoeddiad am Festival UK* 2022


Home » Cyhoeddiad am Festival UK* 2022

Roedd Canolfan y Dechnoleg Amgen yn aelod o’r tîm creadigol ar gyfer cyfnod ymchwilio a datblygu cychwynnol cais llwyddiannus Collective Cymru i fod yn rhan o Festival UK* 2022.

Roedd Canolfan y Dechnoleg Amgen yn aelod o’r tîm creadigol ar gyfer cyfnod ymchwilio a datblygu cychwynnol cais llwyddiannus Collective Cymru i fod yn rhan o Festival UK* 2022.

Yma yn CyDA rydym yn cydnabod rôl bwysig y diwydiannau celf a diwylliant yn trawsnewid y ffordd y mae cymdeithas yn wynebu heriau megis yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol. Wrth i’r DU ail adeiladu ei hun yn dilyn Covid-19, rydym yn deall y bydd yr ŵyl greadigrwydd ac arloesedd DU-eang bwysig hon yn chwarae rhan yn y naratif cenedlaethol yn y dyfodol. Rydym yn ymwybodol o darddiad yr Ŵyl a’i chysylltiad ym meddwl y cyhoedd a rhai naratifau’n ymwneud â Refferendwm yr UE. Serch hynny, roedd CyDA’n awyddus i wneud popeth o fewn ei allu i helpu i ail-hawlio’r naratif hwn a sicrhau bod Festival UK* yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd gwirioneddol sy’n ein hwynebu o ran delio â’r argyfwng hinsawdd, ac i ‘ailfeddwl’ y DU mewn modd fydd yn wirioneddol yn gweithio ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Gofynnodd o leiaf 12 gwahanol dîm i CyDA gyfrannu at brosiect ymchwilio a datblygu fel rhan o gais i gymryd rhan mewn gŵyl creadigrwydd ac arloesedd DU-eang yn 2022. Dewisom fod yn rhan o Collective Cymru, dan arweiniad Theatr Genedlaethol Cymru, oherwydd roedd eu gweledigaeth, a lywiwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn gydnaws â’n gweledigaeth ni. Wrth wraidd gwaith Collective Cymru yw ei dymuniad bod pobl Cymru yn gweld eu hunain a’u cymunedau ynghyd â’u dyfodol unigol a chyfunol wedi’u hadlewyrchu drwy lens o obaith creadigol, sy’n fodd i ddatgloi ein dychymyg a’n creadigrwydd er mwyn sicrhau’r dyfodol gorau posib gyda’n gilydd.

Fel canolfan addysg amgylcheddol sydd ers dros ddegawd wedi bod yn arwain agweddau tuag at ddyfodol heb garbon, cofleidiodd Collective Cymru’r cyfle i dreulio diwrnod yn ein canolfan ymwelwyr ym Machynlleth, Canolbarth Cymru. Rhannodd CyDA ei arbenigedd ynghyd â Jukebox Collective o Gaerdydd a’r Frân Wen yng Ngwynedd, technolegwyr ac arloeswyr creadigol o Sugar Creative a Chlwstwr, newyddiadurwr a threfnydd cymunedol, awdur ac arlunwyr, a chwmnïau cenedlaethol sef Celfyddydau Anabledd Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru a Ffilm Cymru.

Yn ein profiad ni o’r broses greadigol cafodd y tîm ei galluogi i greu rhywbeth oedd yn gwbl hunan-arweiniol ac wedi’i sbarduno gan y gymuned, a hynny heb unrhyw ddisgwyliadau gan Festival UK* 2022. Caniataodd hyn i ni helpu i ddatblygu prosiect a rhaglen fydd yn cyffwrdd â bywydau a chalonnau pawb yng Nghymru. Mae cais Collective Cymru yn cydsynio’n gryf â gweledigaeth CyDA am Brydain Di-garbon. Gyda phrifysgolion a chanolfannau ymchwil a gwyddoniaeth yn cefnogi deg prosiect dethol Festival UK* 2022, mae CyDA mewn cwmni da. Ymhlith y rhai sy’n cymryd rhan mewn timau creadigol llwyddiannus eraill y mae: Sefydliad James Hutton; Canolfan Ymchwil Astroffiseg, Prifysgol Queen’s Belfast; Canolfan Astudio Profiad Canfyddiadol, Prifysgol Glasgow ac Arolwg Antarctig Prydain.
Bydd prosiect Collective Cymru sef Agored, Gwreiddiol a Gobeithiol, yn arbrawf creadigol y gobeithiwn y bydd yn rhoi hwb i sector diwylliant Cymru sydd wedi cael ei effeithio mewn ffordd mor ddramatig yn ystod y pandemig. Bydd y prosiect yn dod â chyfleoedd buddsoddi, gwaith a datblygiad creadigol, nid yn unig yn 2022, ond y tu hwnt i hynny.

Bydd hefyd yn cynnig llwyfan i leisiau nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol, gan weithio tuag at newid parhaol. Bydd Collective Cymru yn gweithio ac yn cydweithredu â chymdogaethau ledled Cymru i greu darlun o ddyfodol y gallwn ni i gyd fod yn falch ohono. Gydag ymrwymiad Canolfan y Dechnoleg Amgen i Brydain Di-garbon, gobeithiwn y gallwn, gyda’n gilydd, adeiladu ar waddol Festival UK* 2022 i greu dyfodol sy’n eiddo i ni.

CYSYLLTU Â NI

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau.