Cynlluniau yn dechrau siapio ar gyfer y dyfodol

Cynlluniau yn dechrau siapio ar gyfer y dyfodol


Home » Cynlluniau yn dechrau siapio ar gyfer y dyfodol

Mae prosiect mawr i greu canolfan sgiliau cynaliadwy arloesol a phrofiad ysbrydoledig newydd i ymwelwyr yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn parhau i gael ei ddatblygu.

Mae’r cynlluniau yn cynnwys mannau addysgu a gweithdy wedi’u hailwampio, mannau arddangos, llety ychwanegol ar y safle, caffi mwy o faint, llwybrau natur, a phrofiad ysbrydoledig newydd i ymwelwyr – a fydd yn caniatáu i ni groesawu nifer yn fwy o ymwelwyr a dysgwyr i’r Ganolfan, gan ailagor ein drysau i ymwelwyr sy’n dymuno galw heibio.

Cynorthwyo sgiliau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol

Bydd y ganolfan sgiliau cynaliadwy a gynllunnir yn caniatáu i fyfyrwyr ôl-raddedig CyDA, cyfranogwyr ar ei chyrsiau a grwpiau ysgol, coleg a phrifysgol sy’n ymweld i gael profiad ymarferol o bopeth, o waith ôl-osod ac adeiladu sy’n cael effaith fach, i ynni, bwyd ac ecoleg.

Mae’r cynlluniau yn cynnwys gwaith ôl-osod dwfn a newid diben dau adeilad presennol er mwyn creu mannau addysgu ymarferol, gweithdai sgiliau, lle stiwdio, labordai ar ardaloedd arddangos y tu allan.

Yn y cyfamser, bwriedir lleoli ‘fforwm’ newydd yn yr awyr agored yng nghanol y safle – lle ar ffurf amffitheatr fawr dan orchudd er mwyn gallu cynnal arddangosiadau ymarferol, anerchiadau, cyngherddau a digwyddiadau eraill, gan ganiatáu i’r Ganolfan gynnal mwy o ymweliadau grŵp a chynadleddau a digwyddiadau mwy o faint.

Dywedodd Cyd Brif Swyddog Gweithredol CyDA, Eileen Kinsman:

“O ystyried y ffaith bod newid hinsawdd yn fater o frys ac o weld dinistr ehangach y byd naturiol, mae angen i ni helpu mwy o bobl a sefydliadau i feithrin y sgiliau, y wybodaeth, y rhwydweithiau a’r hyder i gymryd camau ymarferol cadarnhaol.

“Bydd cynlluniau am fannau dysgu pwrpasol ac y mae modd eu haddasu, gweithdai a labordai yn caniatáu i ni ddarparu ar gyfer ystod ehangach o grwpiau o chyrsiau, gan gynnig profiad dysgu estynedig.”

Bydd llety ychwanegol ac wedi’i adnewyddu a chanolfan arlwyo mwy o faint yn ychwanegu capasiti hefyd ar gyfer grwpiau sy’n ymweld, gan ganiatáu i CyDA gynnal mwy o ddigwyddiadau arbennig a chyrsiau preswyl.

Bydd amffitheatr fawr dan orchudd yn creu lle ar gyfer arddangosiadau ymarferol, anerchiadau a digwyddiadau, a bydd hyn yn caniatáu i ni gynnal mwy o ymweliadau grŵp a digwyddiadau mwy o faint

Ysbrydoli, hysbysu a galluogi cenhedlaeth newydd o ymwelwyr

Bydd profiad newydd i ymwelwyr yn dwyn mwy o ymwelwyr i’r ganolfan ac yn ysbrydoli nifer yn fwy o bobl i feddwl am yr hyn y gallant ei wneud yn eu gweithleoedd, eu cymunedau ac yn ystod eu bywydau bob dydd er mwyn helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd a phroblemau amgylcheddol a chynaliadwyedd ehangach.

Mae’r cynlluniau yn cynnwys canolfan groesawu newydd, adnewyddu ein rheilffordd clogwyn eiconig (sydd bellach dros 30 mlwydd oed), ac arddangosfa gyflwyniadol newydd a fydd yn archwilio problemau a datrysiadau amgylcheddol.  Bydd mannau arddangos thematig ychwanegol o gwmpas y ganolfan eco yn ystyried materion megis ein lle ym myd natur ac amrywiaeth anhygoel bywyd ar y ddaear;  dyfodol yr amgylchedd adeiledig, o ystyried y sefyllfa i ddinasoedd i lawr i’n cartrefi ni;  bwyd a thyfu;  ynni glân;  a mwy.

Bydd straeon ysbrydoledig am bobl, cymunedau a sefydliadau ar draws Cymru ac ar hyd a lled y byd yn helpu i ddwyn datrysiadau yn fyw, a bydd gweithgareddau ymarferol, teithiau, gwaith celf, arddangosiadau byw a mannau yn yr awyr agored i ddysgu trwy chwarae oll yn helpu i greu profiad trochol ac unigryw i ymwelwyr.

Mae canolfan groesawu newydd a lle arddangos cyflwyniadol yn rhan o brofiad newydd ysbrydoledig i ymwelwyr

Dull gweithredu atgynhyrchiol

Ein nod yw datblygu ac arddangos y dulliau gweithredu atgynhyrchiol sy’n manteisio ar arfer gorau wrth gyflawni’r prosiect, gan helpu i ddangos yr hyn sy’n bosibl, a chan ddylanwadu ar brosiectau datblygu eraill.

Dywedodd Eileen Kinsman:

“Mae dull gweithredu gwirioneddol atgynhyrchiol wrth wraidd ein cynlluniau.  Byddwn yn blaenoriaethu adnewyddu ac ailddefnyddio mannau sy’n bodoli eisoes yn lle adeiladu o’r newydd, defnyddio deunyddiau isel eu heffaith, lleihau cyfanswm yr ynni a ddefnyddir gymaint ag y bo modd, manteisio ar ynni adnewyddadwy gymaint ag y bo modd, a chwilio am fwy o gyfleoedd i gynorthwyo bioamrywiaeth gyfoethog y safle.

“Yn ogystal â denu nifer yn fwy o ddysgwyr ac ymwelwyr i’r Ganolfan ac i’r ardal leol, disgwylir i’r cynlluniau arwain at greu nifer o swyddi a chyfleoedd newydd i gyflenwyr lleol hefyd, gan gynnig budd i’r gymuned leol ac i economi Canolbarth Cymru am nifer o flynyddoedd i ddod.”

Ar hyn o bryd, mae’r Ganolfan yn agored i ymweliadau a drefnir ymlaen llaw, gan gynnwys cyrsiau, digwyddiadau, grwpiau a llety Gwely a Brecwast, ar ôl iddi gau i ymwelwyr cyffredinol dros dro ym mis Tachwedd, yn ystod cyfnod heriol i’r sector elusennau ac i atyniadau i ymwelwyr.  Gyda’r buddsoddiad a’r gwaith adnewyddu bwriadedig, disgwylir i’r profiad newydd i ymwelwyr ddenu nifer yn fwy o bobl, gan ganiatáu i ni ailagor i ymwelwyr cyffredinol sy’n dymuno galw heibio.

Mae amseriad y prosiect yn ddibynnol ar sicrhau cyllid, ac mae’r cynlluniau yn y prosiectau cychwynnol yn cael eu hystyried am fuddsoddiad o fewn portffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru, gyda chyllid cyfatebol yn cael ei geisio gan CyDA gan nifer o ffynonellau eraill, gan gynnwys sefydliadau ac ymddiriedolaethau elusennol a chefnogwyr unigol.  Mae datblygiad y cynlluniau hyd yn hyn wedi cael ei gynorthwyo gan Gronfa Adfywio Cymunedol y DU, Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a nifer fach o roddwyr unigol, ac mae CyDA yn archwilio dewisiadau ar hyn o bryd er mwyn sicrhau cyllid i ddatblygu ei chynlluniau ymhellach.

Hyd yn hyn, mae’r cynlluniau wedi cael eu siapio gan fewnbwn a gafwyd gan ystod eang o gefnogwyr CyDA, aelodau, myfyrwyr, y gymuned leol a rhanddeiliaid allweddol eraill.  Rhennir rhagor o fanylion am gynlluniau y prosiect mewn cyfres o ddigwyddiadau ar-lein a wyneb yn wyneb a gynhelir yn nes ymlaen eleni – rydym yn edrych ymlaen yn fawr at glywed eich adborth a’ch awgrymiadau.

COFRESTRU AR E-BOST

Gallwch gael y wybodaeth am yr holl weithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein diweddaraf drwy gofrestru ar gyfer ein e-byst a'n dilyn ar gyfryngau cymdeithasol. Ac os hoffech chi gymryd rhan a chefnogi ein gwaith, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu fel aelod CyDA.