Dathlu pen blwydd CyDA yn 50, gyda’n gilydd

Dathlu pen blwydd CyDA yn 50, gyda’n gilydd


Home » Dathlu pen blwydd CyDA yn 50, gyda’n gilydd

Ym mlwyddyn pen blwydd arbennig CyDA, rydym yn brysur yn cynllunio dau gyfle i chi i ymuno â ni yn y dathliadau.

Gyda’n gilydd, mi fyddwn yn edrych yn ôl ar y pum degawd diwethaf o newid ysbrydoledig, ac ymlaen at ein pennod nesaf.

Rydym yn gobeithio y gallwch ymuno â ni!

CyDA yn 50 – Haf o Ddathlu

Bydd y digwyddiad am ddim hwn ar ddydd Sadwrn, 19 Awst yn gyfle i holl ffrindiau CyDA, hen a newydd, hen ac ifanc, ddilyn hanes CyDA, ein gwaith cyfredol a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Os ydych yn newydd i CyDA, mi gewch gyflwyniad i’n gwaith a pham y mae gweithredu i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth mor bwysig. Os ydych eisoes yn gyfarwydd â’r hyn rydym yn ei wneud, mi gewch gyfle i gael golwg fanylach ar bynciau fel ynni adnewyddadwy, adeiladu gwyrdd a chynhyrchu bwyd cynaliadwy.

Byddwn yn diddanu’r plant drwy gydol y dydd gyda gweithgareddau hwyliog a llwybrau antur, ac mi gaiff pawb fwyd llysieuol a figan blasus o gaffi CyDA.

Nid yw’n hanfodol eich bod yn archebu ymlaen llaw, ond os ydych yn teithio i CyDA o bell, mi fuasai’n ddoeth archebu eich tocyn ymlaen llaw rhag ofn i chi gael ei siomi.

Rhagor o fanylion ac archebu tocyn.

50

Cynhadledd CyDA – digwyddiad 50fed pen blwydd

Mae cynadleddau aelodau CyDA wedi bod yn gyfle arbennig ar hyd y blynyddoedd i ddod â’n haelodau at ei gilydd. Dros y blynyddoedd, rydym wedi cydnabod y gwaith sydd wedi bod yn bosibl oherwydd cefnogaeth ein haelodau, lle cafodd gwybodaeth newydd ei rhannu, a lle gwnaed cysylltiadau gwerthfawr.

Mae tair blynedd ers ein cynhadledd ddiwethaf, felly mae’n braf iawn cael eich gwahodd yn ôl i’r safle unwaith eto wrth inni ddathlu ein pen blwydd yn 50 oed.

Bydd y gynhadledd arbennig hon yn cael ei chynnal rhwng 10 a 12 Tachwedd a byddwn yn edrych yn ôl ar ein siwrnai gyda’n gilydd hyd yma, ein heriau a’n cyflawniadau, a’r cyfleoedd sydd i ddod. Mi gewch gyfle i gyfnewid storïau am CyDA ag eraill ac i rannu eich barn ar yr hyn sy’n dod nesaf.

Yn seiliedig ar thema edrych i’r dyfodol rydym am ei greu, mi fyddwn drwy gyfrwng sgyrsiau a gweithdai yn edrych ar y rhwystrau a’r datrysiadau i sicrhau byd mwy cynaliadwy – nid yn unig yr agweddau technegol, ond y cymdeithasol, yr economaidd a’r gwleidyddol hefyd.

Bydd hyn i gyd yn digwydd yn CyDA, lle cewch eich amgylchynu gan natur a golygfeydd hardd, gyda gwesteion yn aros yn ein llety effaith isel.

Rydym yn gobeithio y cewch eich ysbrydoli i ymuno â ni ac i rannu eich storïau, eich profiadau a’ch arbenigeddau unigryw.

  • Cofiwch y dyddiad: 10 i 12 Tachwedd
  • Pris y tocynnau’n dechrau o £200, yn ddibynnol ar amgylchiadau.

Cofrestrwch i gael newyddion drwy e-bost i fod y cyntaf i glywed pa bryd y byddant ar gael i’w harchebu.

Os nad ydych yn aelod eto ac yr hoffech gymryd rhan yn y digwyddiad hwn, gallwch ymuno â CyDA ar-lein neu ffoniwch ni ar 01654 705988 i ymuno dros y ffôn.