Arlwyo yn CYDA

Arlwyo yn CYDA

Home » Dewch i CyDA » Grwpiau a Dysgu » Arlwyo yn CYDA

Os ydych chi’n cynnal digwyddiad corfforaethol, ymweliad ysgol, taith grŵp neu enciliad lles, mae caffi llysieuol CYDA yn cynnig dewisiadau arlwyo hyblyg sy’n addas i unrhyw achlysur.

Mae’r bwydlenni sydd ar gael yn cynnig ciniawau arddull bwffe, prydau tri chwrs, pecynnau cinio a phopeth arall y gallwch ei ddychmygu.

Mae ein tîm penodedig yn barod i’ch cynorthwyo gyda detholiadau bwydlenni, ceisiadau arbennig, ac ystyriaethau logisteg yn ystod digwyddiadau, gan sicrhau bod eich ymweliad yn hwylus ac yn bleserus.

Cynhwysion lleol ffres

Gyda’r gerddi yn llawn o gynnyrch tymhorol, mae llawer o’n cynhwysion yn cael eu tyfu a’u cynaeafu yma yn CYDA. A’r pethau na fedrwn eu tyfu ein hunain, rydym yn ceisio eu cael gan dyfwyr organig lleol neu gan ffynonellau masnach deg.

Mae dewisiadau figan a di-glwten ar gael.

Amrywiaeth wych o ddiodydd poeth ac oer, gan gynnwys gwinoedd organig a chwrw a fragwyd yn lleol.

Llysiau ffres o ardd CyDA.
Llysiau ffres o ardd CYDA.