Gweithdy Pŵer Dŵr
Mae’r gweithdy pŵer dŵr yn rhoi cipolwg ymarferol i’r disgyblion o egwyddorion cynhyrchu pŵer trydan dŵr.
Mae’r gweithdy’n defnyddio system ddŵr CyDA ynghyd â’i beiriant dŵr ‘pico’ a’i rig brofi, sy’n rhoi cyfle i ddisgyblion gynhyrchu a thrin data.
Manylion allweddol
- Parhau am 2 awr
- Addas ar gyfer lefel A
- Canolbwyntio ar bynciau STEM
- Mae’r gweithdy yn cynnwys mynediad i safle allanol CyDA ac mae esgidiau a dillad awyr agored addas yn hanfodol.
- Cwmpasu dŵr fel ffynhonnell ynni adnewyddadwy, elfennau peiriant pŵer trydan dŵr ac ymchwiliad gan ddefnyddio ffiseg gymhwysol.
- £90 y sesiwn (hyd at 20 disgybl)
- Gellir ymestyn y gweithgaredd hwn drwy ei gyfuno ag ymweliad arolygu oddi ar y safle i orsaf bŵer trydan dŵr fasnachol fawr nid nepell oddi wrth CyDA.
Braslun o’r Gweithdy
Beth sy’n digwydd:
Bydd disgyblion yn cael eu tywys o gwmpas system ddŵr CyDA, o gronfa ddŵr yr hen chwarel i’r generadur dŵr pico y mae’n ei fwydo lawr ar y brif safle. Yna, caiff y disgyblion weld prif gydrannau’r peiriant dŵr a’i system reoli. Byddant wedyn yn cynnal profion llif a phŵer ar y rig profi trydan dŵr ac yn dadansoddi’r data er mwyn ymchwilio i effeithlonrwydd y tyrbin.
Lleoliad y Gweithdy:
Cynhelir y gweithdy hwn ar brif safle CyDA.
Sgiliau a Chysylltiadau Cwricwlwm:
Mae’r gweithdy dŵr yn galluogi disgyblion i:
- Ennill dealltwriaeth o egwyddorion cynhyrchu pŵer trydan dŵr.
- Ymchwilio i leoliad ac effeithlonrwydd tyrbin dŵr.
- Ennill dealltwriaeth o’r prif gydrannau a ddefnyddir wrth greu peiriant trydan dŵr.
Gweithgareddau Cyfoethogi:
Taith oddi ar y safle – Gallwn drefnu ymweliad oddi ar y safle i orsaf bŵer trydan dŵr 56MW mawr ger Aberystwyth (18 milltir o CyDA).
- Addas ar gyfer lefel A.
- £120 y sesiwn. Nid yw’r pris hwn yn cynnwys cludiant, ond gellir ei drefnu a bod angen.
- Dylid caniatáu o leiaf 3 awr ar gyfer y teithio a’r ymweliad yn seiliedig ar grŵp o 24. Bydd rhaid rhannu grwpiau mawr.
Gweithgaredd arolygu – Dysgir disgyblion i ddefnyddio lefel sylfaenol ac yna gofynnir iddynt fesur pwysau’r golofn ddŵr rhwng peiriant dŵr y safle a llyn y chwarel. Yna gellir defnyddio’r data i ragfynegi’r potensial o ran yr ynni y gellir ei gynhyrchu.
- Addas ar gyfer lefel A.
- £90 y sesiwn.