Archwilio Pŵer PV (Ffotofoltaidd)

Archwilio Pŵer PV (Ffotofoltaidd)

Home » Dewch i CyDA » Grwpiau a Dysgu » Ymweliadau Ysgolion » Ynni Adnewyddadwy » Archwilio Pŵer PV (Ffotofoltaidd)

Ynghyd â dŵr a gwynt mae paneli ffotofoltaidd (PV) yn un o’r ffynonellau pwysicaf o ran cynhyrchu trydan mewn modd adnewyddadwy.

Bydd y gweithdy hwn yn gyfle i’r disgyblion archwilio nodweddion cynhyrchu panel ffotofoltaidd nodweddiadol mewn perthynas â lleoliad a llwyth.

Braslun o’r Gweithdy

Bydd y disgyblion yn cynhyrchu diagram weirio a gan weithio yn yr awyr agored, byddant yn cydosod panel PV wedi’i gysylltu i fesurydd folt, amp a solar. Wrth fesur yr ynni solar sy’n dod i mewn, bydd y disgyblion yn cymryd mesuriadau folt ac amp gyda’r panel wedi’i gysylltu i wrthydd newidiol ac yn cyfrifo effeithlonrwydd y panel.

Gwybodaeth allweddol:

  • Parhau am 1½ awr
  • Addas ar gyfer lefel A
  • Canolbwyntio ar bynciau STEM
  • Mae’r gweithdy yn cynnwys mynediad i safle CyDA ac mae esgidiau a dillad awyr agored addas yn hanfodol.
  • Yn cwmpasu egwyddor cynhyrchu trydan PV a’r ffactorau sy’n effeithio ar effeithlonrwydd y paneli
  • £120 y sesiwn (hyd at 20 disgybl)

 

 

Cysylltu â Ni

Cysylltwch â ni i archebu lle neu i ddysgu mwy.